Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

Advertising

I ÐATHLU 400 MLWYDDIANT JOHN…

-----Dadorchuddio Ffenestr-Goffa…

-----.------_--BARDDONIAETH.

GOHEBIAETH.I

[No title]

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Anrhydedd i Weinidog Cymreig…

-----..____-_N-----NODION.

News
Cite
Share

-N- NODION. Wedi bod yn gweithredu fel Swyddog Meddygol dros Dreffynnon ers 1872, mae Dr James Williams ar ymddiswyddo. Cyflwynwyd ysgoloriaeih drwyddedol i Ysgol Giggleswick, gwerth ^40 y fhvyddyn, i Geraint G Roberts, tnab 13 oed Mr L J Roberts, Arolygydd Ysgolion. Yn Nhlotty Croesoswallt y mae newydd farw Mrs Ann Roberts, genedigol o Lan-y- mynech, yr hon oedd dros 100 oed. Y Parch John Charles a Mr Simon Jones, U.H., oedd dau o nifer fuont o flaen Ynad- on Gwrecsam fel gwrthwynebwyr goddefol am wrthod talu y dreth addysg. ■■ Prydnawn Sul diweddaf llywyddai Mr Ellis Jones Griffith, A.S., yn Ngwasanaeth Blodau blynyddol perthynol i Eglwys y Bedyddwyr Cymreig Castle St, Llundain. Hysbysir fod y Parch Gwilym Isaac, Ton, Rhondda, wedi derhyn yr alwad gafodd gan Eglwys Ebenezer, Bedyddwyr Seisnig, Cefn Mawr. Cychwyna ar ei weinidogaeth yn mis Awst nesaf. «• Yr wythnos ddiweddaf cynheiid ymchwil- iad yn y Wyddgrug, ar ran Bwrdd y Lly- wodraeth Lleol, i ystyried cais oddiwrth Gynghor Sir FO-irt am ychwanegiad o dri aelod i gynrychioli rhai o'r rhanau niwyaf poblog yn y Sir. Am yr ail dro glaniodd Cwmni y White Star deithwyr o'r ager long Baltic yn Nghaer- I gybi dydd Sul. Oddiyno cymetwyd hwy mewn cerbydres arbenig i Lundain, lie y cyrhaeddas int yr un adeg ag y cyrhaeddai y Baltic Lerpwl Mewn cyfarfod o'r Blaid Gymreig yn Nhy'r Cyffredin appwyntiwyd Mr Wm Jones, Mr Ellis J Griffith, a Mr S Robinson i gyfarfcd chwech o ddirprwywyr odd with y Cynghor Cenedlaethol Rhyddfrydol i ym- gysylltu ar ba gwrs a gymerir mewn per- thynas a Alesur Dadgysylltiad. Mae'r cynhauaf mefus ar ddechreu yn yr Holt, ac yr oedd un o'r tyfwyr mwyaf y dydd o'r blaen yn adverteisio am ddwy fil o bobl. Canlyniad hyn ydyw fod Lrampwyr yn heidio yno o bob cwr o'r wlad. AL AL, Ateb yn gadarnhaol ddarfu y Parch J H Williams, Croesoswallt, yn nglyn a galwid oddiwrlh Eglwys Annibynol Pendref, Llano. fyllin. Yn y capel hwn y cafodd Ann Griffiths, yr emynyddes, argyhoeddiad. Syrthiodd Mr T N Richards, Caer, bell- der o ddeg troedfedd ar hugain, gan aoafu ei hun yn drwm, wrth ddychwelyd wedi bod yn gweled y Fairy Glen, yn Beitws y Coed, y dydd o'r blaen.