Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

. RHOS.

.----------..-.--.----PONKEY.

Eisteddfod Llanrwst.

News
Cite
Share

Eisteddfod Llanrwst. Cynhaiiwyd y burned Eisteddfod Gad- eiriol yn Llanrwst, dydd Llun. Cymerwyd y gadair gan Mr H J W Watling, Y.H., ac arweiniwyd trwy'r dydd gan Liew Tegid- Gwnaed y dyf- arniadau canlynol :-Unawd ar y crwth, T Roberts, George street, Llanrwst. Hir- a-thoddaid. "Dan y dail a" Camlan," y rhai ni atebasant. Can Efelychiadol it blant dan 8 oed, Parti Trefriw. Unawd i fechgyn dan 16, Percy Jones, Rhyl. Un- awd contralto, S Blodwen Jones, Lerpwl. Daeth chwech o gorau plant ymlaen, a dyfarnwyd y wobr i Gor Plant Bethlehem, Llanelwy. CYFARFOD V PRYDNAWN. Cadeirydd, William Jones, Ysw., Ler- pwl. Y dyfarniadau Unawd baritone, Mr Ted Jones, Blaenau Ffestiniog. Cyf- iethu, Mr E G Roberts, Aberystwyth. Unawd i enethod dan i6eg oed, Kate M Jones, Penmachno. Pedwarawd, Parti Mr W J Mathews, o Lerpwl, gydag uchel gymeradwyaeth. Cystadleuaeth y Corau Meibioq, gwobr, £ 20 a Bathodyn Aur i'r arweinydd 2il wobr, £10. Y dernyn oedd On the Ramparts." Daeth pump o gorau yn mlaen, a chanasant yn y drefn a ganlyn :-Warrington, Penmaenmawr, Wigan, Moelwyn, a'r Cilgwyn, ac wedi cystadleuaeth ragoroi, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Gor y Moelwyn, dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts, a'r ail i Benmaen- mawr, o dan arweiniad Mr Christmas Jones. Unawd ar y Berdoneg, Miss Jen- nie Taylor, Shotton. Cynygid gwobr o £ 2 2s, a Chadair Dderw Gerfiedig am I Awdl, "Y Tan Cymreig." Darllenodd Llew Tegid feirniadaeth Eifion Wyn, yr hon oedd yn dra dyddorol. Cafwyd mai y buddugol allan o wyth o ymgeiswyr oedd Morleisfab, Llangennach, De Cym- ru, a chadeiriwyd gyda'r rhwysg arfero), eigynrychiolydd Eryr Menai, o dan ar- vveiniad Llew Tegid, a chanwyd can y cadeirio gan Miss S Blodwen Jones, Ler- pwl. CYFARFOD YR HWYR, Gwnaed y dyfarniadau a ganlyn :-Un- awd soprano, Ethel Turtle, Birkenhead. Unawd i rat heb enill gini yn flaenorol, Frances Ellis, Birkenhead, ac Owen M Jones, Penmachno, yn gydradd. Englyn, "Y Glust," "Hwyrdrwm," yr hwn nid atebodd. Wele'r en,- ,lyn 0 aur synwyr y clyw-i'r cantor Cyutedd seiniau amryw; Mygedol ermig ydyw A darn o dwr enaid yw." Adroddiad i rai dros 21 oed, J Williams Ellis, perrig-y-druidion. Unawd tenor, Evan Evans, Blaenau Ffestiniog. Casgl'- iad o Ranganau neu Donau at wasanaeth Bands of Hope, etc., gwobr, £ 5 5s, Mr Owen Williams, A.C., Eglwysbach. Par- ti Cymysg, Parti William Ellis, Llanrwst. Yn y brif gystadleuaeth i gorau cymysg, daethdau gor yn miaen, sef Cor Llech- wedd Isaf, a Chor Llanrwst a Threfriw. Yr oedd y wobr yn £ 25, a'r dernyn oedd Yr Awel Fwyn." Dyfarnwyd y wobr i Gor Llanrwst a Threfriw. Y beirniaid cerddorol oedd y Mri David Evans, Mus. Bac., a John Williams, Caer- narfon a'r cyfeilyddion, Mr Bryan E Warhurst, Rhyl, Madame Evans-Parry, y Birkenhead, a Mrs J M Williams, Llan. rwst, Y beirniad barddpnol oedd Eifion Wyn.

I EISTEDDFOD BWLCHGWYN.

Advertising

INODION. !__

I EISTEDDFOD BWLCHGWYN.