Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

"ghtt>C*mdau,

NODION Y LLUNGWYN. -

Eisteddfod Gadeiriol y Rhos.

Eisteddfod Glyndyfrdwy.j

TEYRNGED I MR LLOYD GEORGE.

Marwolaeth Mr Thomas Price,…

News
Cite
Share

Marwolaeth Mr Thomas Price, Prifweinidog Deheudir Awstralia. Derbyniwyd gair o Adelaide, ddechreu yf wythnos hon, yn hysbysu marwolaeth Mr Tr Price, Prifweinidog Llafur yn Neheudif Awstralia. Yr oedd iechyd Mr Price yn lied egwan ar ol ei ddychweliad o'r wlad hon. Ganwyd Mr Price yn Brymbo, ger Gwrec- sam, 57 mlynedd yn ol. Treuliodd y rhan- fwyaf o'i ddyddiau boreuol yn Liverpool, lIe yr oedd ei dad yn dilyn yr alwedigaeth 17 saer maen. Pan yr oedd y bachgen yn ddigon hen aeth i I ysgol geiniog,' ond bu raid iddo adael, er rhoddi help i'w dad, pan yn naw mlwydd oed. I fyny hyd nes yr oedd yn naw ar hugain oed dilynai Price ieuangc yr alwedigaeth o saer maen yn ac fr gwmpas Liverpool. Treuliai gryn lawer o'i amser hamddenol mewn ysgolion nos, a gwaith oyhoeddus. Fel dyn ieuangc daetb i deimlo dyddordeb mewn gwleidyddiaeth^ ac ymunodd a'r gymdeithas Ryddfrydig yl* Liverpool. Pan yn 3iain mlwydd oed yf I oedd yn feistr saer maen, ac yn cadw gryn lawer o weithwyr; ond torodd ei iechyd r lawr, ac ar gynghor ei feddyg moriodd gyda'i wraig a'i blentyn i Awstralia, lie y gweithiodd ei hun i fyny i'r safle uchel 0 Brifweinidog. Y mae llawer yn cofio am ymweliad Mf Price, ryw ddwyflynedd yn ol, ag amryw ranau o Gymru, a'r derbyniad gwresog roddwyd iddo gan ei gyd-genedl.