Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Gostyngiad o 7! y Cant yn…

News
Cite
Share

Gostyngiad o 7! y Cant yn Nghyflogau Glowyr y De. Dydd Sadwrn diweddaf bu Arglwydd St Aldwyn, cadeirydd annibynol y Bwrdd Cyflafareddol, yn Nghaerdydd, yn rhoddi ei ddyfarniad ar gais y perchenogion am 7 y cant o ostyngiad yn nghyflogau y glowyr, yn dechreu ar y cyntaf o Fehefin Ar ran y perchenogion cyflwynwyd ffig- yrau yn dangos fod y prisiau wedi gos- twng 1/2 y twn o'i gyferbynu a'r hyn oedd y chwarter blaenorol. Ar ran y gweithwyr dadleuid fod y pris- iau yn sefydlog a'r fasnach yn gloewi. Awgrymodd Arglwydd St Aldwyn ar iddynt geisio dod i ddealldwriaeth hedd- ychol, a chyfarfyddodd y pleidiau drach- efn, ond methwyd dod i gytundeb, y gweithwyr yn awgrymu gostyngiad o 5 y cant, a'r perchenogion un o 6t y cant. Yna rhoddodd y Cadeirydd Annibynol ei ddyfarniad yn flfafr y perchenogion, gan ganiatau eu cais am y gostyngiad cyflawn 0-7i Y cant. WYTH AWR. Mewn cysylltiad a'r anhawsdra geir gyda chwestiwn yr wyth awr, cyfarfydd- odd Pwyllgor Gweithiol Undeb Glowyr y Deheudir yn Nghaerdydd dydd Sadwrn, a gwnaethant ddatganiad swyddogol, yn yr hwn yr amlygent eu syndod fod y perch- enogion wedi penderfynu rhoddi rhybudd ar y iaf o Fehefin i derfynu ymrwymiadau yn flaenorol i gyfarfod y Bwrdd Cyflafar- eddol a alwyd i dderbyn adroddiad y Pwyllgor Unedig a appwyntiwyd i geisio trefnu telerau-er dod i ddealldwriaeth. Dywedwyd y byddai cyduno a chynyg- ion y perchenogion yn rhw^ym o osod di- ogelwch a chyflogau y gweithwyr yn ddarostyngol i'r raddfa gynil o weithio a osodwyd i fyny gan y perchenogion, ac fod cynrychiolwyr y gweithwyr yn bender- fynol o osod yr holl fater o flaen Ffeder- ashiwn y Glowyr, gyda'r diben o gynal cynhadledd genedlaethol i benderfynu ar pa gwrs o weithrediad a gymerir. APPEL AM WEITHREDIAD UNOL. Mewn ymgom a gohebydd dywedodd Mr Enoch Edwards, A.S., cadeirydd Un- deb Glowyr Prydain Fawr: Rhaid i gwestiwn yr wyth awr gael ei wynebu nid yn Nghymru yn unig, ond drwy yr holl wlad, a'r hyn a awgrymais oedd cynal cyfarfod o'r holl Lndebau sirol a rhan- barthol gyda golwg o gael deaildwriaeth ar y cwestiwn. Edrycha yn ynfud i greu anhawsderau yn awr am fod lleihad ar oriau gwaith i fod mewn rhai rhanbarth- au. Mae'r byrddau cyfiafareddol wedi eu happwyntio 1 derfynu anhawsderau, ac mae hwn yn un o'r cwestiynau, os nai fedrir ei derfynu yn lleol, a ddylid dwyn ato ymgais fwy y byrddau cyflafareddol unedig, gan gydweithio i atal rhwystr ar fasnach mewn unrhyw adran neillduol He mae glofeydd ynddo.

Commissiwn yr Eglwys Gymraeg.

[No title]

Advertising

Cwestiynau Politicaidd Cymreig.…

Advertising

RHOS.

PENYCAE

Cymdeithas Gorawl Cefn Mawr.

Dadsefydliad yr Eglwys yn…

Marw wedi ysbaid hir ar ol…

-,...._--,"".......,-,-"._.._"""'_'''''''<-''_''____.__-_-----------------CynghoiJ…

[No title]

z'I: ! NODION.

MR WILLIAM JONES, A.S., AR…