Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

wwrpu bau.

'\-"!j'.,..\."'...'-""\,r'\."\,-"""'''\I\.'''''''\.''..'\I\r"\¡''''\IL''...'\.,''\.""."'.."'''''''\1\.''\,''..'''''''''«tt'"".I'.t'..I'V"..…

News
Cite
Share

"!j' "r'I\I\r"\¡'IL' "1\ «tt'I'.t'I'V" CYNGHOR PLWYF, RHOS. Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod yn y Public Hall, Rhos, nos Iau, o dan lywydd- iaeth Mr W M Jones, a'r Cynghorwyr can- lynol yn bresenol:—Mri Samuel Roberts. D L Ptice, C Morgan. D Davies, Joseph Charles, Ted Jones, Ken Wynne, Watkin Jones, IsatC Smith, Sam Pcitchard, a'r Clerc Mr J Trever Jones CYNRYCHIOLWYR. Appwyntiwyd Mr Ted Jones a Mr C Morgan yn gynrychiolwyr ar Fwrdd Rheol- wyr Ysgolion cylch Ruabon a Mr Isaac Smith fel Rheolwr Ysgol An-narbodol y Rhos. 0 CADWRAETH YR HEOLYDD. Dywedodd y Clerc ei fod wedi ysgrifenu at y Cyngh r Sirol yn nghylch cael gwasan- aeth y ddwfr-drol, fel y cyfarwyddwyd et. Bydd yn gofus i'r Cynghor Plwyf gael ar ddeall fod Ruabon a'r Coedpoeth yn cael ei gwasanaeth. a chredent y dylai y Rhos dder- byn hyny hefyd. Dywedodd Mr C forgan fod hyn wedi ei atal yn Nghoedpoeth a Ruabon er pan ysgrifenwyd. Credai y Cadeirydd fod yr arferiad o ddyfrhau Ruabon a Choedpoeth wedi bod yn angyfreithlon. LLWYBR Y SUN INN. Anfonodd Mr LI Kenrick at y Cynghor yn dywedyd y byddai yn dda ganddo ddeall nad oedd y Cynghor yn bwriadu honi hawl i'r troedlwybr dros eiddo ei ymgynghorydd yn ymyl y Sun Inn, Ponkey. Dywedodd y Cadeirydd gan nad beth a wnaent yn y mater, dylent gymeryd gofal fod llwybr o ryw fath yn cael ei ddiogelu Yn y diwedd penderfynwyd i adael y mater yn nwylaw Pwyllgor y Ffyrdd i drefnu a chael allan beth oedd penderfyniad Pwyll- gor Adeiladu y Cynghor Dosbarth mewn perthynas a'r mater; ac hefyd, os credant ei fod yn angenrheidiol, i gyfarfod Mr Kenrick ar y lie, er sicrhau rywbeth yn der- fynol parthed y safle y bwriedir newid y Ilwybr iddo. YSTADEGAU PLWYFOL. Dywedodd y Clerk ei fod wedi derbyn pamphledyn yn cynwys manylion safon y dreth Sirol fel y'i caniatawyd ac y'i cadarn- hawyd mewn cyfarfod o'r Cynghor Sirol a gynhaliwyd Mai 7fed, 1909, ar adroddiad ac argymelliad Pwyllgor Ardrethol y Sir. Cyf- answm gwerth trethol blynyddol Rhosllan- erchrugog ydyw ^15,632; gwerth trethol y tir yw ^927 gwerth trethol pob eiddo arall ydyw 614,705 a'r gwerth ardrethol4 ^15,168 10s. PWYLLGOR MANDDALIADAU. Cyflwynodd Pwyllgor y Manddaliadau ei adroddiad. Gwnaed appel oddiwrth wyth o bersonau, a chyfanswm y tir sydd yn angen- rheidiol yw 52 rhwd. Argymellai y Pwyll- gor i'r Cynghor agor trefniadau i rentu 2,500 o latheni ysgwar yn Bangor road, Johns- town. Penderfynodd y Cynghor i dderbyn adroddiad Pwyllgor y Manddaliadau. TROL DDWFR I'R RHOS. Y mater nesaf oedd i lawr ar y rhaglen oedd y priodoldeb o anfon at Gynghor Dosbarth Gwrecsam i appelio at Fwrdd y Llywodraeth Lleol am Allu Bwrdeisiol i bwrcasu dwfr-drol at wasanaeth y Rhos i fod yn ofynol oddiar Blwyf y Rhos fel treth arbenig." Dywedodd y Cadeirydd fod cwyn gyff- redinol oherwydd y cymylau o lwch sydd trwy yr ardal bob haf. Yr oedd yr angen am drol ddwfr yn ddiamheuol, ac yn gan- fyddadwy i bawb. Dywedodd Mr Ted Jones ei fod yn edrych yn beth rhyfedd iddo ef fod yn rhaid sicrhau Gallu Bwrdeisiol ar gyfer mater dibwys fel hwn Y Clerc: Dyna yr unig ffordd i gael un. Meddyliai Mr Isaac Smith ei bod yn hen amser iddynt symud yn y mater. Dylent naill ffordd neu arall sicrhau trol ddwfr. Yr oedd y cymylau llwch yn ddinystriol i eiddo a gwerth. Ar rai prydiau yr oedd y cymyl- au llwch mor drwehus fel na fedris gweled i groesi'r ffordd. Yr oedd yn foddlon gofyn i'r Cynghor Dosbarth fabwysiadu unrhyw gwrs, os gallent trwyddo sicrhau trol. Eiliwyd gan Mr David Davies. Dywedodd Mr W M Jones y byddai yn well iddynt edrych i mewn i'r gost cyn gwneyd appel at y Cynghor Dosbarth. Os byddai y gost yn drom, byddai iddynt alw cyfartod o'r trethdalwyr a gosod y mater ger eu bron Cynygiodd Mr D L Price eu bod yn gyn- taf oil yn cael allan amcan gyfrif o'r treuliau tebygol. Credai Mr Isaac Smith fod y ttethdalwyr wedi gosod yn eu Cynghorwyr ddigon o allu i welthredu drostynt mewn achosion o'r fath hyn. Trwy ohirio materion yn barhaus bydd yr haf wedi dod a mynd, ac yn y. di- wedd byddent eto heb y drol ddwfr. Yr oedd sicr fod pob trethdalwr yn barod ac yn foddlon i bleidleisio yn ffafr trol ddwfr. Dywedodd Mr S Pritchard fod digon o oediad wedi bod yn, nglyn a'r mater. Yr oedd yn ffafr cefnogi y ffordd gyntaf. Yna penderfynwyd fod y Clerc yn gwneyd, ymholiad i mewn i'r gost o'i phrynu a'i chynal, ac fod cyfarfod arbenig o'r Cynghor yn cael ei alw i ystyried y mater yn mhell- ach. .1

------.''''_R MESUR DADGYSYLLTIAD.

-........,..----Bedyddwyr…