Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AR GRWYDR.

News
Cite
Share

AR GRWYDR. [GAN O. L.R.] Dyma dymor y crwydro, ac i ambell i alltud fel y fi y mae'n foddhgd neillduol i droi yn ol i'r hen wlad er mwyn sylweddoli geiriau y bardd hwnnw a ganodd- Mwyn yw adgofio am hen adegau, A mynd am dro'n ol i blith hen ffryndiau A phwy na fu trem ar hoff wynebau, Yn chwim agoriad i hyfryd oriau, Heb un cur, ac heb boenau-ond gobaith Am fywyd perffaith heb lem ofidiau. Ac ynghanol berw'r cyfnod wele finnau yn ol ymhlith "hen ffryndiau," ac yn cymeryd rhan yn rhai o fadiadau yr hen gartref. Dau bwnc pwysig y dydd yng Nghymru, os y gellir galw un o honynt yn bwnc o gwbl, yw Cyllideb y Lywodraeth Rydd- frydig bresennol, a sgrech merched y bleidlais. Nid peth newydd yw helynt y merched. Maent hwy gyda ni bob amser, ac wrth wraidd pob helynt anffodus, a phe baem i farnu yn ol hanesiaeth, i ferch y dylasid priodoli pob anffawd wleidyddol a welodd y byd erioed. Heb fynd ymhellach yn ol na hanes rhyddid yr Iwerddon, mae'n lied eglur i bawb y buasai yr Ynys Werdd wedi cael ei hymreolaeth cyn hyn oni bae am ddylanwad un ddynes enwog, ac yn awr wele'r merched eto ar eu heithaf yn ceisio gosod rhwystrau ar ffordd y Weinyddiaeth bresennol, a hynny am y rheswm nas rhoddir iddynt hwy rai o anghysonderau ein cyfun- drefn wleidyddol. Cri'r Merched. Y dydd o'r blaen yr oeddwn ar draethell un o'n prif drefi yn y Gogledd, ac yno clywais rhyw hogen o Saesnes yn curo ar bechodau Gweinyddiaeth Mr. Asquith, am na roddai i'r gwragedd eu pleidlais hir ddis- gwyliedig. Nid oeddent, fel dosbarth, meddai, yn gofyn am ddim byd newydd, eithr yn unig cael eu gosod ar yr un tir a'r gwyr. Os oedd gan wraig gyfoeth ac eiddo, yna dylasai gael pleidlais, ond os nad oedd ganddi gyfoeth, ac os na feddai dai neu drigfan i hawlio pleidlais, yna nid oeddent yn ceisio am dani. Gallai'r blaenaf fod mor ddisynwyr a'r Radical mwyaf rhonc, tra gallai'r olaf fod mor ddoeth a Solomon, ond nid oedd a wnelai eu cais hwy a'r anghys- sonder hwn ddim ar hyn o bryd ac nid rhyfedd i'w chenhadaeth droi yn fater o chwerthin i'r dorf oedd yn gwrando ami. "Cyfarfod Caernarfon. Mae pobl Caernarfon yn trefnu i gynnal cwrdd mawr o blaid y Gyllideb un o'r dyddiau nesaf yma, ac y mae Mr. Lloyd George yn dod yma i annerch ei etholwyr. Un o delerau y cwrdd yw, na roddir cyfle i ferched fod yn bresennol. Y merched eu hunain sydd yn gyfrifol am hyn. Yn hytrach na gadael llonydd i'r arweinwyr politicaidd sydd o'u tu, y maent wedi ceisio taflu rhwys- trau ar eu ffordd, a gwneud yr oil o fewn eu gallu i chwareu i ddwylaw eu gwrthwyneb- wyr. Oherwydd hyn, y mae holl wragedd parchus y deyrnas yn gorfod dioddef, ac ni chaiff yr un ddynes fyned i'r cyfarfod yng Nghaernarfon oni fydd y stiwardiaid yn ei hadnabod yn bersonol, ac yn foddlaw-u bod yn gyfrifol am ei hymddygiad priodol. Tra pery pethau fel hyn, 'does fawr o obaith y ceir cynnydd ym mhwnc pleidlais i ferched. Y Gyllideb. Ennill tir mae hon ymhob ardal, ac mae'r Aelod tros Gaernarfon yn fwy o wladweinydd nag a freuddwydiodd ei edmygwyr mwyaf pybyr. 0 bob cwr o Dde a Gogledd daw'r adroddiadau fod cynlluniau'r Gyllideb yn swyno'r werin bobl. Ceisiodd rhai o'r Ceid- wadwyr yn y Gogledd gynnal cyfarfodydd protest, a buont mor haerllug a myned i Griccieth—ei gartref-ond wfft i'w cenhad- aeth. Ni fu erioed arddangosfa mwy chwerthinllyd. Ym mhob cyfarfod agored a gaed, aeth y bleidlais bob amser yn erbyn y Toriaid, ac ni feiddiai neb yngan gair i gondemnio Mr. Lloyd George heb gael ei wrthwynebu ar unwaith. Os yw pob ardal mor iach yn y ffydd wleidyddol a hon, ni fydd angen pryderu am dynged y Mesur pan ddaw ger bron Ty'r Arglwyddi. Helbul Meirio". Pan aethum i Ffestiniog ddiwedd yr wythnos, daeth rhyw hanner dwsin o'm cydnabod ataf yn yr orsaf, gan roddi croesaw siriol i mi. Ar y dechreu nis gallwn ddeall y sylw arbennig a dalent i mi, hyd nes i'm cyfaill, y Parch. Silyn Roberts, gyda'i wen hapus, fy nghyfarch-" Holo, a ydych chwithau hefyd yn un o honynt ?" Nis gwyddwn yn iawn beth i ateb, ond beiddiais gellwair ag ef gan ddweyd, Yn un o urdd- edigion Ellis o'r Nant, mae'n debyg ? "— Nage, nage," ebai'r bardd bregethwr sosialaidd, yn un o'r ymgeiswyr am sedd Meirion ? Rhoddodd hyn eglurhad ar y cyfan, a deallais yn fuan fod pob gwr dieithr yn cael sylw arbennig gan y Meirion- iaid y dyddiau hyn. Credai Silyn fod o leiaf hanner cant yn ymgeiswyr, a phob un yn credu mai efe yw'r goreu. Ond pan ddaw'r adeg mae'n sicr ddigon y dewisir olynydd priodol i Tom Ellis yn yr hen sir Ryddfrydol hon. Urddau Ellis o'r Nant. Rhyw Eliseus i'r hen Elias Gwilym Cowlyd yw Ellis o'r Nant. Arno ef y disgynnodd mantell Archdderwydd Llyn Geirionydd, neu'r prif-fardd Pendant; a mawr yw'r rialtwch a geir wrth gynnal yr hen ddefod farddol ar lan y llyn. Eleni, cefais innau fy ngwahodd i'r wyl, a diwrnod hynod o ddifyr a fu i mi a'r lleill o'rllinach anfarddol. Ond ni waeth am nerth yr awen. Mae bod yn noddydd i'r wyl yn ddigon i hawlio urddau, a chefais hwy gyda'r difyrwch hwnnw sydd mor nodweddiadol o Ellis druan. Pe bae'r prif-fardd Pendant yn bresennol, nis gallai wneud ei waith yn well nag y gwnaeth Ellis ef, a haeddai ein cydymdeimlad wrth weled ei wyneb yn chwysu dan bwys y gwres a'r cyfrifoldeb. Addefid mai hon oedd yr Arwest oreu a gaed ers talm. Canwyd pennillion yn yr Orsedd a'r Arwest yn y prydnawn gan Dewi Mair o Feirion. Cyf- lwynwyd y gwahanol urddau i nifer an- arferol o fawr, a rhoddwyd y siars iddynt gan Ellis o'r Nant. Caed anerchiadau barddonol gan amryw o feirdd, ac wedi cael caine ar y delyn, cyhoeddwyd yr Orsedd yn gauedig am flwyddyn. Cafwyd caine ar y delyn, a chaneuon gan Mrs. Rowlands (Eos y Dydd), Caergybi, a Mrs. Kerry, Llanrwst. Wele y dyfarniadau :—Adrodd i rai dan 18 oed Katie Williams (Maenwen), Maenan. Adrodd i rai dros 18 oed: Mr. Edward Edwards, Blaenau Ffestiniog. Englyn Sam," yr hwn nid atebodd. Hir-a- thoddaid Perthog, Penmachno. Can Ap Rhydwen, Treffynnon. Awdl goffa ar y pedwar mesur ar hugain i'r diweddar Gwilym Cowlyd: Ymgeisiai tri am y wobr o gini a thlws aur, a dyfarnwyd eiddo Dewi Mai o Feirion yn oreu. Llythyr disgrifiadol: Mr. J. Lloyd Davies, Blaenau Ffestiniog. Rhestr o enwau lleoedd Edward Roberts, Trefriw. Enwau beirdd, etc: Kate Jones, Llanrwst. Oanu pennillion: 1, W. R. Holland (Eos Bedw), Birkenhead 2, Miss Kate E. Jones (Llinos Meirion), Blaenau Ffestiniog, a hi hefyd enillodd y wobr o 10s. am ganu tair alaw. Hen Gestyll Cymru. 'Roedd yn dda gennyf ddeall fod ym mwriad aelodau Dirprwyaeth yr Hynafiaethau Oymreig dalu ymweliad ag amryw o hen gestyll enwog Cymru yn ystod yr Hydref presennol. Maent eisoes wedi bod am dro yn Sir Drefaldwyn, ac wedi chwilota llawer yn yr ardaloedd gwledig yno. Mae llu mawr o hen gaerfeydd hynod a chestyll talgryf eto yn aros, a byddai yn golled dirfawr i hanes- wyr yr oesau a ddel os gadewir i'r pethau hyn fod at drugaredd y tirfeddianwyr lleol. Un o'r esiamplau mwyaf nodedig yn y Gogledd yw Castell Rhuddlan, ac 'roedd yn amheuthyn cael talu ymweliad a'r fan unwaith eto yn fy hanes. Mae Castell Conwy, hefyd, yn aros yn addurn i ardal- oedd y Gogledd ond mae Dinas Bran wedi mynd yn adfeilion hollol, ac oni bae am unigedd y mynydd lie y saif, diau y byddai yr adfeilion wedi eu hysbeilio yn llwyr eis cenhedlaethau lawer.

[No title]