Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Mae gan y Parch. J. E. Davies (Rhudd- wawr) gan odidog yn y Genincn Eislcddfodol, sydd newydd ddod o'r wasg. Hysbysir fod Elfed" ar fin cyhoeddi cyfrol arbennig ar un o Emynwyr Cymru. Bwriedir cael cynhadleddau crefyddol yn Llandrindod yn ystod tymor y gwyliau. Cyfuniad rhyfedd, gallem dybio, yw Crefydd a Golff Diwygiad a Saline Sonir fod dros hanner cant o efrydwyr cerddorol yn bwriadu manteisio ar yr Ysgol I Haf sydd i'w chynnal ynglyn a Choleg Aberystwyth yn Awst. Dyma fudiad teilwng o honom fel cenedl. Dathlwyd canmlwyddiant Dr. Lewis Edwards yng nghyfarfod y prydnawn ynglyn a'r Cyfarfod Misol yng Nghaerdydd, a chafodd Sir Aberteifi le pur amlwg. 0 Sir Aberteifi yr oedd gwron y cyfarfod ac o Sir Aberteifi yr hanai yr hwn siaradai ar ei hanes, ynghyda'r sawl siaradai ar ei ddiwin- yddiaeth. 0 Sir Aberteifi hefyd yr oedd y Cadeirydd, a gwyr pawb mai o'r sir honno y mae gweinidog yr eglwys-y Parch. J. Morgan Jones. Felly, medd y Goleuad, gwelir ddarfod i'r Cardis" gael lie pur amlwg.

YN OL I GYMRU.

Y TRI CHANT GWEDDILL.