Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
WELSH C.M. SUNDAY SCHOOL UNION THE 3STH Annual fxeffFCIIOOII will take place on BANK HOLIDAY, AUG. 2, 1909, TO RUISLIP, MIDDLESEX. Trains from Bdker St. (MsLRy.) every 20 min. Return Fares froin- Adults. Children Baker Street Is. 3d. 6d. Aldersgate St. Is. 5d. 8d. Tickets available by Metropolitan Railway ONLY. Adults. Children. Tea Is. tid. Special Welsh Saloon Return Train from Ruislip at 8.40 p.m. TICKE IS of Sunday School Secretaries or direct of Hon. Sec. Farther information see handbills or of Hon. Sec., J. DAVIES, 107, Falmouth Road, E.C. THE CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed <11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. PRELIMINARY ANNOUNCEMENT. WELSH C.M. CHAPEL, WOOD GREEN of ate of 'Work will be held at the LECTURE HALL, CHARING CROSS ROAD C.M. CHAPEL, On Wednesday, October 20th, 1909. To be opened at 3 p.m. by Mrs. WILLIAM LEWIS, Brondesbury
MOESAU CYMRU.
MOESAU CYMRU. Nid peth newydd yw clywed cyhuddiadau yn erbyn moesau'r Cymry. Pan y bo rhywun a'i fryd ar bardduo ein crefydd, ein cenedlgarwch, ac yn enwedig ein hymneill- tuaeth, cyfeirir ar unwaith at gyflwr isel rnoesau ein hieuenctyd. Edliwir i ni feddwdod Mynwy a Morganwg gan rai; plant anghyfreithlon ein hardaloedd gwledig gan ereill; anudoniaeth ein man lysoedd, gan Saeson ffroenuchel; a thwyll a rhagrith gan bawb fel pethau hollol gyffredin yn ein plith. Nid ydym am ddweyd nad ydyw'r cyfryw bechodau yn bodoli yng Nghymru, ond credwn ei bod yn hen bryd i'r beirniaid a'r cyhuddwyr cenedlaethol hyn i droi eu sylw at achosion y drwg a gosod eu bysedd ar wraidd ein doluriau cymdeithasol. Yn ddiweddar bu rhyw bregethwr Seisnig o Gaerfyrddin yn ysgrifennu llawer ar gyflwr isel moesau ein p)bl, ond yr oedd yn rhy gibddall i ganfod fod mwyafrif y pechodau a gyhuddai ef ein cenedl yn euog o honynt, i'w priodoli yn hollol i'r ysbryd Seisnig oedd wedi meddiannu y tir. A dyma'r ysbryd mae ef a'i hil yn wrteithio yn ein mysg ar hyd yr amser Mae ein hieuenctyd, fel ieuenctyd pob cenedl arall, pan yn efelychu cenhed- loedd ereill, yn eu hefelychu yn eu pethau salaf ond nid yw ein pregethwyr Seisnig yng Nghymru yn gwneud dim er atal cynnydd Seisnigaeth yn eia mysg, ac ar ol canfod ffrwyth yr esiamplau ar y di-ddysg yn ein tir, rhedant i gondemnio cenedl gyfan ac i bardduo ein harweinwyr Cymreig am eu hesgeulusdod. Yr wythnos ddiweddaf caed cyfrol o'r wasg sydd yn taflu llawer o eglurhad ar foesau a chyflwr iechyd Oymru. Nid gwaith diwinydd nac arweinydd y mudiadau Seisnig ydyw, eithr adroddiad noeth gan swyddog iechyd rhannau o Ogleddbarth Cymru. Dywed Dr. Parry Edwards mai i anedd-dai gwael Cymru y mae i ni briodoli llawer iawn o'r anfoesoldeb. hwn. Eisieu tai mwy cysurus sydd yn ein hardaloedd gwledig, a gwell cyfleusterau i'r bobl droi ynddynt. A phe codai ein harweinwyr crefyddol eu cri yn erbyn landlordiaeth wael, ac yn erbyn y man swyddwyr Seisnig sydd yn crebachu ar ryddid y Cymro, deuai gwell agwedd ar ein gwlad yn fuan iawn. Nid yw ein cysuron teuluol wedi cynyddu fel y dylent. Ni roddir llety priodol i forwynion a gwasan- aeth-ddynion yn ein ffermdai gwledig ac os digwydd i swyddog iechyd gondemnio y dulliau presennol o fyw ni roddir y gefnog- aeth leiaf iddo gan ein harweinwyr crefyddol, am y byddai hynny yn tramgwyddo y gwyr mawr," a pherchenogion y tir. Ac mae'n rhaid i bregethwyr ac offeiriaid fod yn wasaidd i'r dosbarth hwn er mwyn eu cyn- haliaeth a chyfranogi o'r fEafrau eymdeithasol ddaw i'w rhan. Os gall Cymru sierhau ami i swyddog iechyd digon anibynol i gondemnio yr anedd-dai gwael a geir ar hyd a lied ein gwlad, mae gobaith y daw cvflwr moesol Cymru, yn ogystal a'i chyflwr iechydol, yn llawer iawn gwell nag ydyw ar hyn o bryd.
[No title]
Mewn anerchiad a draddododd yn un o gyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol, dad- leuodd Mr. Llewelyn Williams, A.S., dros ddychwelyd yn ol at egwyddorion cyntaf Rhyddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth. Ni allai efe ddeall sut yr oedd yn bosibl i'r rhai a bleidient Ddatgysylltiad ganiatau dysgu crefydd yn yr ysgolion dyddiol.
Y TRI CHANT GWEDDILL.
Y TRI CHANT GWEDDILL. BETH I WNEUD A'R ARIAN! [GAN HEN EISTEDDFODWR]. Yr oedd yn llawen gennyf weled yn y CELT diweddaf fod Eisteddfod Llundain wedi profi yn llwyddiant arianol. Gwir mai nid maelfa i wneud pres ddylai'r Eis- teddfod fod, ond rhywsut neu gilydd mae yn sirioldeb cenedlaethol i ni ddeall nad oes galw am gymorth oddiar law y gwarantwyr lleol cyn y medr yr hen wyl dalu ei ffordd. Addefid ar y cychwyn mai man anfanteisiol i gynnal Eisteddfod oedd Llundain, eto teimlai'r hyrwyddwyr fod angen am i ryw fudiad mawr cenedlaethol dalu ymweliad a'r ddinas, pe dim ond er mwyn symbylu yr ysbryd cenedlaethol yn ein plith. Ac mae'r holl lafur a thraul ynglyn a'i hymweliad, mi gredaf, wedi bod o les dirfawr i'r Eisteddfod ei hun yn ogystal ag i alltudion y genedl sydd yn gorfod pabellu yn Llundain. Ie, gwaith diflas ddigon yw ceisio gwneud i fyny ddiffyg arianol Eisteddfod ar ol i bybyrwch yr Wyl gilio o'r cylch. Mewn ami i dref y mae wedi arwain i gwerylon truenus cyn hyn, a chan y clywaf i bwyllgor Llundain drefnu y cyfan 'mewn ysbryd perffaith heddychol, y mae'n galondid nid bychan iddynt yn awr fod eu holl lafur wedi ei goroni a'r tri chan punnau sydd yng ngweddill. Ond y pwnc nesaf yw, Beth a wneir a'r tri chan punt hyn ? Y mae'n berygl i'r pwyllgor-er mor ddoeth a theg y mae wedi ymddwyn hyd yn awr-wneud camgymeriad ar y diwedd, wedi'r holl siarad a'm hamcan i wrth ysgrifennu y llith hwn yw gwneud awgrymiad neu ddau i'r aelodau, gan hyderu y cant ystyriaeth priodol, fel na byddo achos i unrhyw blaid na sect gredu fod un math o ffafrau neu anghyfiawnder wedi digwydd ynglyn a rhaniad yr elw. Fel y mae'n hysbys eisoes, rhaid i hanner yr elw gael ei drosglwyddo, yn unol a'r addewid, i gyllid Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid yw hyn ond peth hollol rhesymol a theg. Mae'r Gymdeithas yn rhoddi gwobrau hael yn flynyddol ynglyn a'r Eisteddfod, ac yn cyhoeddi llawer o weithiau ynglyn a'r Wyl, ac nid yw ond priodol i.ldi, felly, ofyn am gyfran o'r hyn sydd yng ngweddill pan ddigwydd i safle arianol yr Hen Wyl fod ar yr ochr oleu. Gan fod pwyllgor Llundain wedi cydsynio a'r amod arferol hon, ar adeg y gwahoddiad yn Abertawe, yna mae'n eglur ddigon fod £ 150 o'r tri chant wedi eu haddaw eisoes. Gedy hyn weddill o 9150 mewn llaw, yr hwn swm sydd i'w gyflwyno gan y pwyllgor tuag at' achosion cenedlaethol' ereill. Ond pa fath achosion cenedlaethol sydd yn apelio gryfaf at syniadau y pwyllgor hwn ? Yr ydym yma fel dieithriaid a phererinion, ac mae popeth a gerir ymlaen yn cael ei ddwyn ymlaen yn bennaf ar dir cenedlaetholdeb, neu o leiaf ar dir hollol Gymreig ond y drwg yw nad oes gennym yr un sefydliad hollol genedlaethol, sydd yn berffaith agored i'r dinasyddion gymeryd rhan bwysig ynglyn a'i waith. Capel neu eglwys yw hi yma fel yn y wlad, ac ofnaf fod yn rhaid i ni yn Llundain ddefnyddio mwyafrif y swm tuag at fudiadau sydd a'u prif weithgarwch yng Nghymru ei hun. Yno mae gennym ein Hysgolion a'n Colegau, yn ogystal a'n Llyfrgell a'n Hamgu- eddfa. Ond y mae'r swm mor fychan fel nad oes modd cyflawni llawer o wrhydri. Ni fyddai yn fawr o fudd cael ysgoloriaeth fechan ynglyn ag un o'n colegau, am y teim- lai y ddau ereill fod eu hawl hwythau yn berffaith gydradd. Y ddau sefydliad newydd yng Nghymru