Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

O'R BRIFDDINAS I GENEVA.

News
Cite
Share

O'R BRIFDDINAS I GENEVA. Dathlu Pedwarcanmlwyddiant John Calfin. Un enwad yn yr holl fyd sydd yn dwyn enw Calfin, ac nid oedd ryfedd i amryw o'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig gyrchu i ddinas Geneva yn ystod yr wythnosau di- weddaf; a chan fod eisieu seibiant arnaf, a fy mod yn aelod o'r "Corff," penderfynais ymlwybro tua'r Yswisdir i gael golwg ar y wlad ac i dalu parch i goffadwriaeth y Diwygiwr. Trefnais, felly, gyda'r "Free Church Touring G-aild"-Cymdeithas sy'n gwneud gwaith da, ac yn haeddu pob cef- nogaeth-i dreulio ychydig ddyddiau yn y ddinas wnaed yn fyd-enwog gan John Calfin. Nid yno y ganwyd ef ond trwy ei arhosiad yno am gyfnod o dair-blynedd-ar-hugain daeth ei enw ef ac eiddo'r ddinas yn anwa- hanol gysylltiedig. Yno, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pedr, y pregethodd i'r tyrfaoedd ynoy bu yn darlithio yno yr ysgrifenodd lyfrau a'i gwnaeth yn arweinydd meddwl yr oes yno y dadleuodd ac y dadblygodd ei gyfun- drefn o lywodraeth eglwysig sy'n parhau mewn bri o hyd, ac yno y bu farw, yn 1564. Pan yn 26 oed, edrychid arno fel prif ddi- winydd ei oes, ond nid diwinydd yn unig oedd John Calfin, ond gwladweinydd hirben a llywodraethwr medrus. Rhyfedd mor ychydig wyddom am dano, hyd yn oed y rhai ydynt yn Fethodistiaid Calfinaidd, ond hyderwn y bydd i'r dathliadau diweddar ail ennyn y dyddordeb yn hanes Calfin, ac y cyhoeddir llyfr neu lyfryn yng Nghymraeg yn nodi allan brif ffeithiau ei fywyd a nod- weddion ei gymeriad: oherwydd yr oedd John Calfin yn un o fawrion y ddaear, ac nid i un wlad y perthynai. Casgiti'r Llwythau. Gwahoddwyd bron bob enwad i an Ion cynrychiolwyr i Geneva, a daeth llu ynghyd, ac yn eu mysg rai o Gymru, yr hybarch dad Evan Jones, Caernarfon, yn cynrychioli Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr; y Parch. Francis Jones, Abergele, yn cyn- rychioli y Methodistiaid Calfinaidd; yr Athraw Witton Davies yn cynrychioli y Bedyddwyr, ac ymhlith ereill gwelsom yno y Prifathraw Prys, Aberystwyth, a'r Prif- athraw Lewis, Aberhonddu (y ddau wedi dod i gynrychioli Cymry ynglyn a dathliadau y Brifysgol), yr Athraw D. Morgan Lewis, Aberystwyth, Mrs. Mary Davies, &c. Ac o Loegr, yr Alban, yr Iwerddon, yr Almaen, Hungari, yr Unol Daleithau, Ffrainc, ac o bob cwr o'r byd daeth llu o Galfiniaid selog i ddatgan parch y miloedd tuagat goffadwr- iaeth y gwr da gladdwyd rhyw dri chant a banner o flynyddoedd yn ol mewn bedd yn Geneva nas gwyr neb yn awr pa le y mae ond ei fod yn rhywle yn mynwent Plain Palais. Croesawu'r Dieithriaid. Yr oeddem ni, cwmni y Free Church Touring Guild," yn rhyw 60 mewn nifer, a bron yr oil yn Ysgotiaid, y mwyaf- rif yn weinidogion, rhai yn Eglwys Sefyd- ledig yr Alban, rhai yn yr Eglwys Rydd, rhai "Wee Frees," ac un yn perthyn i'r "Original Secession Church." Cafodd y cynrychiolwyr swyddogol dderbyniad tywys- ogaidd gan yr awdurdodau yn Geneva, a chawsant wythnos lawn o ddilyn cyfarfodydd, ciniawa, a dathlu. Dinas brydferth yw dinas Geneva, a gwnaed popeth oedd yn bosibl gan y dinasyddion i'w gwneud yn harddach trwy addurno y tai a'r adeiladau cyhoeddus yn ystod wythnos y cyfarfodydd. Gofod a balla imi roddi yr hanes i gyd, ac nis gallwn wneud hynny, oherwydd nid oedd gennyf drwydded i fyned i'r oil o'r cyfar- fodydd, ond cawsom dreulio digon o amser gyda phethau Calfin, a chyda'i edmygwyr o bob cenedl i'n slcrhau fod nid yn unig barch i'w goffadwriaeth, ond hefyd fod Calfiniaeth fel athrawiaeth ac fel cyfundrefn eglwysig yn parhau yn gadarn mewn gwledydd ereill heblaw Cymru. Dechreuwyd y gweithrediadau cyhoeddus gyda chyfarfod mawr nos Wener, Gorffennaf 2il, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pedr, pryd y traddodwyd anerchiad hyawdl gan yr Athraw E. Doumergue ar "John Calfin," ac nid oes eisieu dweyd i'r testyn gael pob cyfiawnder oddiar law y gwr sydd wedi gwneud cymaint trwy y wasg i ddwyn bywyd a gwaith Calfin gerbron y byd. Bore Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod mawr yn Neuadd y Diwygiad, pryd y derbyniwyd anerchiadau oddiwrth wahanol Eglwysi y Cymdeithasau o bob rhan o'r byd, a siaradwyd gan amryw o'r cynrychiolwyr, y mwyafrif yn yr iaith Ffrancaeg, fel nad oeddem fawr callach. Calfin oedd y testyn, a gallem yn hawdd benderfynu o ba lwyth yr hanai y siaradwr trwy sylwi ar ei ddull o swnio enw y Diwygiwr. Calfin, meddai'r Cymro, y Sais, y Gwyddel, yr Americanwr, a'r Ysgotyn; Calfin," meddai'r Ellmyn, a "Calfan," meddai'r Ffrancwr a'i gefndryd o'r Yswisdir. Adgofiai'r cyfarfod fi o Seiat Fawr y Pasg yn Jewin, ond ei fod ar raddfa helaethach. Ar y llwyfan eisteddai rhyw hanner cant o'r cynrychiolwyr, ac yn eu plith yr oedd yn hawdd adnabod yr hen wron o Gaernarfon. Dechreuwyd am wyth o'r gloch y bore, a pharhawyd hyd un o'r gloch, a chafwyd dros ddeg-ar-hugain o anerchiadau gan gynrych- iolwyr pymtheg o genhedloedd Yr ydym yn Galfiniaid rhonc, ac yn edmygwyr mawr o'r gwr y siaradid yn ei gylch-ond, deg-ar- hugain o anerchiadau A rhai o'r siaradwyr yn parhau am ugain munud yr un, a'r mwy- afrif yn Ffrancaeg. Na, un anerchiad oedd arnom eisieu glywed, a honno a stamp Cym- reig arni. Evan Jones." Wedi gorfod gwrando Ffrancod, Ell- mynwyr, ac Ysgotyn, dyma'n calonnau yn dychlamu o lawenydd wrth weled gwyneb hawddgar Evan Jones, Caernarfon, yn sefyll o flaen y gynulleidfa. Cafodd dderbyniad brwdfrydig, ac nid oedd y fintai Gymreig yn 01 yn eu datganiad. Dechreuodd Mr. Jones trwy sylwi ei fod yn aelod o'r unig enwad ag yr oedd enw Calfin wrtho; ond eglurai nad oedd yn y cyfarfod hwnnw yn cynrychioli yr Hen Gorff" yn swyddogol, ond ei fod yn bresennol fel Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru. Yna darllenodd anerchiad Seisnig ar ran Ymneillduwyr Lloegr a Chymru; ond, rhywsut neu gilydd, nid oeddem yn meddwl ei fod yn hapus yn y gwaith, ac yn sicr yr oeddem ni yn siomedig iawn ar un cyfrif, oherwydd nid Evan Jones yn darllen pregeth adwaenem, ond Evan Jones, un o arwyr y pulpud Cym- reig, prif wron dadleuon gwleidyddol gwlad y Cymry-sefyllfa gyrhaeddodd, nid trwy ddarllen ei bregethau na dibynnu ar bapur, ond trwy hyawdledd naturiol heb unrhyw gynorthwy allanol. Siomedig inni felly ydoedd iddo beidio pregethu o'r frest yn y cyfarfod hwn, ac iddo, oherwydd natur ei swydd, orfod darllen anerchiad Seisnig. Ond, wele, dyma'r papur yn terfynnu a'r hen lew yn codi ei olygon i fyny, y fraich yn dechreu symud, ac Evan Jones, Caernarfon (Cymro a "phregethwr Methodus "), yn cymeryd y llwyfan am ychydig funudau. Cyn ter- fynnu," meddai, "rhaid imi ddweyd gair neu ddau yn iaith fy mam," ac ynghanol cymera- dwyaeth, aeth ymlaen i ddweyd, Os ydych am weled Calfin yn ei ogoniant ewch nid i Geneva, i'r Almaen, i'r Alban, i'r Iwerddon, i Loegr, i'r America, i Ffrainc, i'r Yswisdir, nac i unman arall, ond i Gymru, lie y chwifia ei faner ar bennau ei mynyddoedd." Dim ond ychydig eiriau, ond yr oedd yr effaith yn drydanol, a chynheswyd calonnau yr ychydig Gymry oeddent yn bresennol- anghofiasant ei siomedigaeth o orfod gwrando ar eu gwron yn darllen pregeth Seising, ac aethant allan i gyd-lawenychu fod Evan Jones wedi siarad yn iaith ei fam, ac fel efe ei hun pe ond am ychydig eiliadau. Servetus. Yn y prydnawn aethom i weled y garreg goffawdwriaethol osodwyd gan Brotestaniaid er cof am Servetus, ddedfrydwyd i farwol- aeth gan Gyngor Geneva, a gyda chydsyniad Calfin am iddo gyhoeddi athrawiaethau dybid yn gableddus. Pan sonia gelynion Calfin am dano condemniant ei holl fywyd yn herwydd yr hanes am losgiad Servetus, ond dylid cofio ymha oes yr oedd yn byw, a'i fod hefyd wedi ceisio lliniaru y gospedigaeth i raddau. A pha gorff o grefyddwyr ond Protestaniaid a dilynwyr Calfin fuasent yn ddigon rhyddfrydig i godi cof-golofn i ddangos nad oeddent, er yn caru Calfin ac yn parchu ei goffadwriaeth, yn bleidiol i bob gweithred o'i eiddo. A pha ddyn, bycban neu fawr, sydd heb ei fai. Onid Renan ddi- duedd ddywedodd am John Calfin mai efe ydoedd y dyn mwyaf Cristionogol ei oes, a pha dystiolaeth uwch ellir roddi i'w gymeriad. Y Saboth Coffa. Dydd Sul bu'r miloedd Protestanaidd yn addoli yng ngwahanol eglwysi y ddinas, ac am wyth o'r gloch y boreu cynhaliwyd gwasanaeth cyffredinol yn yr Eglwys Gadeir- iol, pryd y cymerwyd rhan ynglyn a Sacra- ment Swper yr Arglwydd gan weinidogion perthynol i amryw genhedloedd. Yn hwyrach yn y bore bu yr Athraw Cowan (Aberdeen) yn traddodi darlith ar Calfin yn y capel lie bu John Knox yn pregethu am ddwy flyuedd, ac yn yr un adeilad, yn yr hwyr, traddodwyd pregeth, o dan nawdd y Presbyteriaid, gan yr Athraw Mackintosh, o Goleg Newydd, Edinburgh. Yn y prydnawn ymgynullodd dwy fil o blant Geneva i'r Eglwys Gadeiriol i gymeryd rhan mewn gwasanaeth coffadwr- iaethol, ond methasom gael mynediad i mewn,, a bu raid troi oddiwrth yr Eglwys. Aethom i erddi y Brifysgol, ac yno y cynhaliwyd- Ysgol Sul Gymreig-un dosbarth yn unig a thri o athrawon. Daeth amryw bynciau dan sylw, a dyddorol oedd gwrando ar yr hybarch dad o Gaernarfon yn croesholi y Prifathraw Prys ar Ryddid yr Eglwys" a'r Prif- athraw Lewis yntau yn dod dan y catecism" tra y gwrandawai y ddau ddisgybl arall mewn astudrwydd, ac heb fentro yngan gair. Am banner awr wedi wyth perfformiwyd cantata gysegredig yn yr Eglwys Gadeiriol, a chawsom yr hen adeilad henafol dan ei sang. Hen Greiriau. Dydd Llun bu Pwyllgor y Datbliad mor garedig a threfnu i'r ymwelwyr gael golwg ar greiriau Calfin yn ac oddiamgylch y ddinas, a bu'r fintai Gymreig dan arweiniad Dr. Eugene Choisy gwr sydd wedi ysgrifennu Uawer ar fywyd a gwaith Calfin. Gwelsom lyfrau ac ysgrifau yr hen Ddiwyg- iwr, yr adeiladau lie y cyfarfyddai ei gyd- lafurwyr, a'r rhai Ile y gwy-uebai ei elyinion. Gwelsom gofnodion Cyngor Geneva, a chry- bwylliad fod Calfin wedi myned at Dduw," ac ymhellach ymlaen gofnodiad o apwyntiad ei olynydd am yr un cyflog. Gwelsom enwau y rhai a ffurfient yr Eglwys Seisnig yn yr unfed. ganrif-ar- bymtbeg, ac un John Knox yn eu plith. Buom hefyd yn yr ystafell lie y daeth helynt yr "Alabama i derfyn, ac yno y gwelsom gleddyfau wedi ei troi yn sychau —gwaith a wnaed flynyddoedd yn ol gan filwyr Americanaidd. Taliasom ymweliad a Thy Calfin, yn Heol Calfin, ac a'r Ysgol a'r Brifysgol sefydlwyd gan y gwr yr oeddym yn Geneva i barchu ei goffadwriaeth. A gwelsom hefyd mai nid coffa Calfin yn unig sydd i'w gael, ond ei fod wedi gadael ei 01,