Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
EISTEDDFOD LLUNDAIN.
EISTEDDFOD LLUNDAIN. DROS £300 YNGWEDDILL. Bellach mae cyfrifon arianol Eisteddfod fawr Llundain wedi eu gwneud yn hysbys, a bydd yn llawennydd i'r rhai oedd yn gyf- rifol am y gofynion ddeall fod dros £ 300 yng ngweddill ar ol talu yr holl dreuliau. Yn y pwyllgor cyffredinol gaed yr wyth- nos ddiweddaf, rhoddodd y cadeirydd—Mr. E. Vincent Evans-amlinelliad o'r fantolen, a chyhoeddodd fod yr holl dreuliau cyfreith- lawn wedi eu talu, ac fod swm sylweddol mewn llaw i'w ddefnyddio fel y teimlai y pwyllgor yn briodol. Penodwyd fod i'r cyfrifon gael eu har- chwilio yn ddioed, ac enwyd dau wr cyfar- wydd a'r gwaith i wneud hynny, sef Mri. John Burrell (o ariandy Rothschild), ac Ellis W. Davies (o'r Trysorlys). Nis gellid cael dau berson mwy cyfrifol at y gwaith, a gall yr holl warantwyr deimlo yn berffaith dawel na wneir yr un camwri ynglyn a'r archwiliad. Disgwylir ar y rhain i gwblhau'r gwaith yn ystod y mis, fel ag i gyflwyno mantolen gyflawn i'r pwyllgor terfynol, yr hwn a gyferfydd ym Medi, ar ol tymor y gwyliau. Cyn trefnu beth i wneud a'r gweddill, teimlai'r pwyllgor mai doeth fyddai cyd- nabod gwasanaeth arbennig arweinydd cor yr Eisteddfod, yn ogystal a'r rhai fu'n cyfeilio i'r cor ar hyd y misoedd. Ychwan- egwyd deg gini at dal Mr. Merlin Morgan, tri gini i Mr. D. Richards, dwy gini i Mr. Idris Lewis, a gini i Miss Sallie Jenkins. Teimlai'r pwyllgor yn dra diolchgar i'r oil o honynt, yn ogystal ag i bob aelod o'r cor, a buasai yn dda ganddynt pe bae'r elw yn gyfryw ag a'i galluogai i ychwanegu at y symiau hyn, yn ogystal ag i gydnabod -i ereill fuont yn gweithio mor egniol ar ran yr Wyl. Ar ol cael adroddiad cyflawn o'r treuliau wedi eu.harchwilio cyferfydd y gwarantwyr er mwyn rhannu y gweddill yn unol a'r telerau a wnaed pan yn ceisio am yr Eis- fod yn Abertawe ddwy flynedd yn ol. Yn ol y telerau hynny mae hanner yr elw i fyned i gyllid Cymdeithas yr Eisteddfod, a'r hanner arall at ddibenion cenedlaethol.
[No title]
Mae teulu Llandinam yn bwriadu anrhegu Coleg Aberystwyth a neuadd gostfawr arall, gwerth tua wyth mil o bunnau. Bu rhai pobl yn awgrymu y priodoldeb o roddi rhyddfreiniau corfforaeth Merthyr i Mr. Keir Hardie ond ni fyn y GorfEoraeth roddi y fath anrhydedd i arweinydd Plaid Llafur. Sonir am wneud Abergwaun yn brif borth- ladd i longau mawr y Werydd, yn hytrach na Queenstown. Os gwneir hyn, lleiheir y peltter rhwng Llundain a New York amryw oriau. ———— Mae mudiad ar droed yn y Senedd i wneud Llys Ysgariad yn fwy agored i bobl nas gallant fforddio y treuliau enfawr presennol. Ar hyn o bryd, nis gall y tylawd fanteisio ar freintiau y Llys hwn. Mae y Blaid Seneddol Gymreig wedi penodi Mri. Ellis Jones Griffith, William Jones, a Sidney Robinson i gyfarfod a chynrychiolwyr y Oyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig er mwyn trafod yr ymgyrch yn y wlad yn ffafr dadgysylltiad.
------__----Cleber o'r Clwb.
Cleber o'r Clwb. Nos FERCHER. Pa un ai Will Thorne ynte Arglwydd Winterton oedd wedi meddwi yn y Senedd y nos o'r blaen ? Ac a ydyw yn angenrheidiol i berson ymyfed gwirodydd meddwol cyn gwneud ffwl o hono ei hun? Dyna oedd ymholiadau y cwmni nos Fercher pan ddaeth helynt Ty'r Cyffredin dan ystyriaeth y -doethion oedd wedi dod ynghyd. 'Roedd amryw o arweitiyddion y mudiad 'Calfinaidd yn y cwmni rh-u newydd ddych- wely-1 o Geneva a rhai wedi dod yno i'w ilongyfarch ar eu gwaith ya cadw'r ffydd yn ddisigl tra ar eu hymdaith ar draws y cyfandir. Beth yw'r helynt Ylnet ynglyn a Will Thorne" ? holai Evan Jones, ac eglurwyd yr amgylchiad gan Norick gyda'i bybyrwch a'i lwyredd arferol gan ddweyd mai rhyw Arglwydd oedd wedi cyhuddo yr aelod tros West Ham o fod yn feddw yn Nhy'r Cyff- redin yn ystod y dadleuon nos Fercher, wythnos i heno. 'Roedd y dadleu wedi bod yn lied fywiog, a'r aelodau oil yn dra blin- edig; ac yn oriau man y boreu, pan yn hanner effro a hanner cysgu, wele gyhuddiad yn cael ei wneud nad oedd Will Thorne mewn ,cyflwr priodol i gario ymlaen weithrediadau y Ty. Dy gelwydd di," gwaeddai Will Thorne. "Rwy i mor sobor a thithau." A dyna hi yn hylibalw ar unwaith. Mynnai rhai i'r Arglwydd Winterton dynnu ei eiriau yn ol, a mynnai'r cadeirydd i Will Thorne alw y gair celwydd yn ol. Ond yr oedd Will yn gadarn fel y graig. Na," meddai, gan sefyll megys a'i gefn at y mur, "rw i mor sobor a neb o honoch chi," a gwrthododd yn bendant dynnu ei eiriau yn ol. Bu raid i'r llefarydd orchymyn i Will "fyned allan, yr hyn a wnaeth, ac yna bu egluro a gofyn am bardwn a phopeth oedd bosibl er ceisio cadw i fyny urddas y Ty. "Ond a oedd Will wedi meddwi ? gofynai Evan Jones, yn bendant. Nac ydoedd," oedd tystiolaeth bendant Keir Hardie. Tystiai yr aelod tros Ferthyr nad oedd yr arweinydd llafur o West Ham wedi cael yr un dafn o wirodydd meddwol yn ystod y noson. Ond nid yw hynny yn un prawf o'i sobrwydd," meddai'r hen wron. Rwyf yn gwybod am bersonau wedi meddwi ar gredoau ac ar bynciau fel mae'n anhawdd cael gair ganddynt ar ddim byd arall." Ac rwyf finnau yn gwybod am bersonau sydd yn yfed galwyni o wirodydd bob wythnos," meddai John Owen, "ac y byddai yn sarhad o'r mwyaf i'w cyhuddo o fod yn feddw." Eitha gwir," meddai Norick. Nid yr un peth sy'n meddwi pawb. Mae'n ddigon posibl i Peter Hughes Griffith fyned mor eithafol a chadarn dros Galfiniaeth nes peri i ddyn sobr fel Prytherch gredu ei fod wedi meddwi; ac mae'n bosibl i ddyn fel Prytherch, o'r ochr arall, edrych mor synfyfyriol ar ei daith nes peri i ddyn bywiog fel Griffith feddwl ei fod wedi llymeitan. Na, na, mae'n dibynnu yn hollol ar y safon a roddir i ddyn meddw,' a chredaf mai camgymeryd y safon wnaeth Arglwydd Winterton. Mae y gwr ieuanc hwnnw mor weddus bob amser fel y credai fod Will Thorne, pan yn MR. KEIR HARDIE (Amddiffynydd Mr. Will Thorne yn Nhy'r Cyffredin). gwaeddi ambell i Amen' i areithiau ei frodyr, wedi hen feddwi, tra mewn gwir- ionedd, mai ei bybyrwch dros ei waith oedd wedi codi ei hwyl." Yn ol eich eglurhad chwi, mae pob cenedlaetholwr pybyr yn ddyn meddw," ebai Bryant. Ydynt, yn feddw chwil, ebai Norick, ac os nad ydynt felly, 'dyw eu credo genedl- aethol yn werth yr un brwynen." A gwaeddai Evan Jones" Clywcb, clywch." Sut y gorffenwyd helynt Will a'r Arglwydd ? holai D. R. Wel, dyma yn fyr fel y saif pethau," meddwn wrtho. Will, rwyt wedi meddwi," ebai Winterton. Winterton, rwyt ti yn dweyd celwydd," ebai Will Thorne. Trannoeth dyma Winterton yn tynnu ei piriau yn ol, He yn gofyn maddeuant; ac ar hvn dyma Will yn tynnu ei eiriau yn ol ac yn ymddiheuro. Felly, os nad yw Winterton yn dweyd celwydd, rhaid bod Will yn feddw ac os nad oedd Will yn feddw, yna yr oedd Winterton yn gelwyddwr. Ac mae'r naill a'r Hall yn croes-ddweyd eu gilydd yn awr yn eu horiau sobr. Ac aeth y cwmni yn feddw ar logic wrth geisio dadrus p'un a'i Will oedd yn sobor ynte Winterton oedd yn dweyd y gwir. Ac ynghanol yr anrhefn rhesymegol hyn ymwahanodd y cwmni am y noson. Ap SHON.
YR AELODAU CYMREIG.
'Cymru eto ymhell iawn ar ol y Werddon ac Ysgotland mewn rhoddion o'r fath. Ychydig, mewn gwirionedd, a gafodd 'Cymru nac Ymneilltuaeth. Cafodd yr Aelodau Cymreig lawer. "Cyfanrif yr Aelodau Cymreig yw 34. Mae eu hanner wedi cael ffafrau mawrion, mewn swyddi neu mewn teitlau, gan y Weinyddiaeth bresennol. Bydded i ni roi i'r Weinyddiaeth, ac i'r Aelodau Cymreig, y clod dyledus iddynt. O'r Aelodau Cymreig a etholwyd yn 1906. mae chwech yn derbyn rhyngddynt £ 23,700 y flwyddyn mewn cyflogau. Mae tri ereill yn dal swyddi cyflogedig o'r tu allan i'r Senedd mae amryw ereill yn cael tafelli breision mewn Treasury Briefs; mae un wedi cael ei ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi; mae pump wedi cael y teitl o Farwnig. Nid yw Cymru yn gwarafun iddynt gael a mwynhau y swyddi a'r teitlau hyn. Llawenha yn nyrchafiad ei meibion. Eto i gyd, nis gall angrhofio mai er mwyn sicrhau Datgysylltiad i Gymru, ac nid er mwyn sicr- hau na swydd na theitl i'r un ohonynt hwy, yr etholwyd y 34 yn 1906. Nid yw'r holl swyddi a'r teitlau gyda'u gilydd yn ddigon o iawn i Gymru am gadw Datgysylltiad oddiwrthi. Ac nis gall Cymru anghofio mai pedwar o'r pump fu mwyaf blaenllaw yn gwrthryfela yn erbyn Gladstone a Rosebery dros bymtheng mlynedd yn ol sydd wedi cael mwyaf oddiar fwrdd eu harglwydd Asquith yn awr. Ai ni ddysg Ymneilltuwyr Cymru bellach y wers a gymhellir beanydd i'w sylw gan y llwyddiant sydd yn dilyn pob cais a wneir at y Weinyddiaeth gan y Gwyddelod, a'r methiant sydd yn dilyn pob rhith o gais a wneir gan yr aelodau Cymreig ?