Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GYMRAEG YN YR YSGOLION."

News
Cite
Share

Y GYMRAEG YN YR YSGOLION. Brwydr galed fu brwydr Cymru dros gael y Gymraeg yn iaith gydnabyddedig yn ein hysgolion dyddiol. Dro ar ol tro gwnaed apeliadau at Fwrdd addysg yn Llundain, ac ar aml i achlysur caed sylwadau ar ein cais yn y Senedd ei hun. Ar ol hir weithio llwyddwyd i ennill y gamp, a chredai pawb fod hafddydd y genedl wedi gwawrio. Erbyn hyn mae pethau wedi newid. Ar ol cael y Gymraeg yn iaith i'r gwahanol safonau, y mtle perygl iddi gael ei hesgeu- luso, a thro'r Bwrdd Addysg yn awr yw galw sylw at yr esgeulusdod ynglyn a hi. Yn hytrach na chadw i fyny ei brwdfrydedd dros ei hiaith mae Cymru wedi llacio dwy- law, a rhaid i Saeson bellach, neu o leiaf yr adran o Fwrdd Addysg yn Llundain ddysgu i ni ein cyfrifoldeb a'n hadgoffa o'r addew- idion a wnaed; ac yn arbennig i wneud y defnydd priodol o'r iaith fel iaith chwareu y plant yn ystod oriau yr ysgol. Pwysleisir hyn yn adroddiad Mr. A. T. Davies, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf. Ymysg pethau ereill, dywed fod Bwrdd Addysg yn edrych gyda boddhad ar waith ein hawdur- dodau addysgol yn dwyn y Gymraeg i'r ysgol a gwneud defnydd o honi i ddiwyllio meddwl y plant. Yr oedd cyfnewidiad mawr yn effeithioldeb yr ysgolion oedd wedi manteisio ar hyn, ac anogir pob ysgol, yn y rhanbarthau Cymreig yn neilltuol, i wneud defnydd o iaith chwareu ac iaith Ysgol Sul y plant. Argymhellir hefyd gwneud defnydd o lenyddiaeth Gymreig, a rhoi sylw i ddaear- yddiaeth a hanes Cymru i'r plant yn yr ysgoliou elfeno). Y mae'r peth mor synwyrol ac mor gydweddol a buddiannau uchaf ysgolion Cymru fel mae'n anhawdd dirnad fod unrhyw ysgol yn y rhanbarthau gwledig yn parhau'n hwyrfrydig i wneud defnydd o'r gynysgaeth adawyd iddynt gan y tadau. Ond yn anffodus nid yw pob ysgol yn man- teisio ar hyn yn ardaloedd gwledig Cymru, a'r rheswm am hyn, medd Cemlyn yn y Weekly Mail, yw difaterwch ein hathrawon. Yr Athrawon Gwrth-Gymreig Y mae dosbarth o athrawon, medd "Cemlyn," neu, i fod yn fan wl, hwyrach mai athrawesau ddylwn ddweyd-y mae cryn nifer o'r athrawon hyn a'u bryd ar gilgwthio'r Gymraeg o'r neilltu. Eu hunig reswm dros wneud hynny ran amlaf yw'r ffaith na feddant gymhwyster i lanw swydd athraw mewn ysgol o fath yn y byd yng Nghymru. Yn y cyffredin Saeson uniaith ydynt, a chychwynasant ar eu gyrfa yn y grediniaeth ddiysgog fod hynny o anffaeled- igrwydd sydd yn y byd wedi tabernaclu yng nghoryn y Sais, ac mai cymwynas a ni yw ein dirmygu a'n sarhau drwy fathru ein hiaith a phopeth arall sy'n rhwystr iddynt hwy gael gafael ar bob swydd enillfawr ar wahan i gymhwyster. Os nad estroniaid ydynt, Cymry gweiniaid ydynt bron yn ddieithriad, ac o'r ddau ddosbarth rhodder i mi Sais pendew yn hytrach nag edlych dienaid o Sais Gymro. Ychydig o'r athraw- on hyn sy'n ddigon didderbynwyneb i wneud y budrwaith yngwyneb haul yn hytrach, dewisant ddull sy'n llawer llai anrhydeddus, ac un mae'n anhawdd yn fynych ei wrthweithio a'i ddinoethi hyd nes bo wedi gwneud ei neges. Gwenwynir meddwl y plant diniwed sy'n eu gofal mewn ffordd lechwraidd, neu, os nad yw hynny yn ateb y pwrpas, cwynir fod dysgu Cymraeg yn torri ar drefnusrwydd a chynllun yr ysgol, a fod yn rhaid gadael rhai o'r pethau pwysicaf o'r neilltu i wneud lie i'r Gymraeg. Der- bynir yr esgusawd cloff hwn gan lawer nad ydynt yn hyddysg yn ystrywiau'r dosbarth hwn o athrawon, ond gwyr y cyfarwydd yn eithaf da mai gelyniaeth at yr iaith sydd wrth ei wraidd. Pa hyd y goddefir i'r ciwaid hyn wenwyno meddwl ein plant ysgol a mathru o dan draed bopeth sy'n anwyl yn ein golwg ac yn hanfodol i'n dad- blygiad fel cenedl gref, iach, anibynol ei meddwl ? Pe bai Cymru yn effro i'r perygl ac yn hyddysg yn eu hystranciau cyfrwys- gall, ni fyddai nemor berygl i'r athrawon a'r athrawesau gwrth-Gymreig hyn wenwyno llygad y ffynnon a throi bryd y plant oddi- wrth y pethau hynny eayd fri arnynt. Gwyr Cymry Caerdydd, fel llawer ardal arall, gryn dipyn am ystranciau'r athrawon gwrth-Gymreig hyn, ac yn neilltuol felly mor anhawdd yw rhoddi terfyn ar eu gwaith yn gwenwyno meddwl y plant dan eu gofal. Nid Pwyllgor Addysg y ddinas sydd wedi penderfynu tynged yr iaith yn ein hysgolion, ond gwyr y cyfarwydd fod pen praffa'r ffon yn nwylaw athrawon ac athrawesau a'u bryd ar lindagu popeth Cymreig, a'u bod yn hynod fedrus yn y gelfyddyd o ddefnyddio'r ffon i'w mantais eu hunain. Yn y Barri, mae'n amlwg, yr ymleddir yr ornest nesaf, ac y mae'n rhywyr i Gymry'r ardal honno ymfyddino a thynnu'r rhwd oddiar eu harfau. Yng nghwrdd diweddaf y pwyllgor addysg darllenwyd Ilythyr oddiwrth brif-athrawes ysgol Hannah Street yn cwyno fod anhawster i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion o berwydd prinder athrawon cymwys at y gwaith, ac y gellid gwneud gwell defnydd o'r pum awr a hanner drwy gymeryd rhyw destyn arall mewn llaw. Nid wyf yn gyfarwydd ag ysgolion y Barri, ond, os nad ydynt yn wahanol i'r cyffredin o'r ysgolion sydd wedi mynd i ddwylaw estroniaid, mae stori'r brif- athrawes yn un hynod benwan a chwerthin- llyd. Dim digon o athrawon cymwys, yn wir Beth am y brif athrawes pe'n Gymraes ieithgarol, fel y dylai pob athrawes fod yng Nghymru, ni fyddai son am brinder athrawon cymwys. Rhaid i Gymry'r Barri chwilio am ryw reswm mwy ymarferol na'r un gynygir gan y brif-athrawes hon, ac fe wyddant hwy, o ran hynny, yn eithaf da fod y tebyg yn cyrchu at ei debyg. Os oes croeso i'r Gymraeg yn yr ysgol, mae digon o "athrawon cymwys" wrth law; os nad oes croeso, gwell gan athrawon cymwys" gadw draw yn hytrach na gorfod edrych ar yr iaith yn cael ei sarhau.

LLINELLAU I FY HEN GYFAILL…

I== Gohebiaethau.

Advertising