Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

EISTEDDFOD ALBERT HALL.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD ALBERT HALL. Cynyrchion y Beirdd. Yn ein rhestr o enwau'r buddugwyr yn Eisteddfod Llundain gofynir i ni wneud un cywiriad. Yn adran y Traethodau, am y casgliad goreu o Len Gwerin Sir Faesyfed, y gwaith buddugol oedd un yn dwyn yr enw "Giraldus." Nid yw'r buddugol eto wedi gwneud ei enw yn hysbys, a cham- gymeriad oedd gosod enw Mr. Cynon Davies, Aberdare, ymhlith yr enillwyr. Mae dau neu dri ereill o'r enillwyr heb wneud eu hunain yn wybyddus, ac er mwyn hwyluso gwaith y swyddogion erfynnir arnynt i ymofyn am eu gwobrau yn ddioed. Cydnabyddir yn gyffredin fod yr Wyl yn Llundain wedi cadw ei nodweddion Cym- reig yn rhagorol, ac fod mwy o Gymraeg ar y llwyfan nag a glywir yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru. Yr oedd y beirdd yn dra chynyrchiol gyda'r awen, ac wele rai o'r englynion a adroddwyd, ynghyd a'r caneuon a gaed oddiar y maen Llog yn Hyde Park :— Yn Llundain hardd eleni Y ceir goreuon Cymru Yn dyrchu'r gan, a r awen lan, Wna i fawr a man foliannu. ELuned Olan Tawe. Rhwng y coed a rheng can -a llondid Llundain a'i gorhoian Haeddol lwydd ein Gorsedd lan Ga riniau goreu Anian -Cenech. Awen yma ddaeth i gladdu— 'rhen lid Rannai Loegr a Chymru Ac ar ei fedd Gorsedd gu Ein cenedl sydd yn canu. Gwers ddiball Gorseddau byd-yw noeth arf A therfysg dychrynllyd Ond y cledd mewn hedd o hyd, Am oes aur yma sieryd. -Bethel. Y Gorsedd. Dan wawr y wenfawr Wynfa-ein hawen 0 newydd flagura, A dyfal wlith dwyfol ha Ar dy ddail i'r dydd ola. Mr. Lloyd George. Heddyw yma hawddamor-i iesin Dwysog Cyfrin Gyngor, I'n cenedl hwn yw'n Cynor I dwymo'n sel dyma'n Sior. Mr. Asquith. Edwyn osgo dawn Asquith-briodol Ysbrydiaeth Athrylith, Irerdd der a gloswder gwlith Dyn a'i fwynder dan fendith. Mr. Balfour Yng Nghaer Llundain, pen ein pan-ein gwyl Ein gwleidyddol bleidiau, [dawdd Gwyl cymwlad mewn clymiad clau Cryd awen uwch credoau. I wyl Awen ail hewyd;—yw'r Llywydd Gwr llawen eangfryd Ydyw ef, i'w blaid hefyd Mae'n flaenor-- Balfour y byd -Cadjan. Y BARDD CADEIRIOL. Gwyn yn Llundain gain yn llondeg—a ddaeth Yn ddoethaf deyrn Barddeg Efe yw Saul ei choleg A'i chawr tal wrth chwareu teg. YR ORSEDD. Yn oesoedd yr hen hanesion-y Ilyw Ydoedd Lludd y Brython Yn foreu hwn a'i fawrion Oedd yn sail i'r ddinas hon. Caswallon gawr fu mewn mawredd-yma Yn emog ei orsedd A swn Cymraeg y Senedd Yn ei glyw wrth drin ei gledd. Rhyfedd oedd gweld yn Rhufain-wr odiaeth Ein Caradog gywrain A'i landeg wedd o Lundain Yn ei sel yn hyf ei sain. Er y bedd lie gorweddant-eu henwau Sy'n wyn o ogoniant, A'r miloedd sy'n rhoi moliant I'w bri er tori eu tant. YR ANRHYDEDDUS D. LLOYD GEORGE. Ein glandeg Sior yw'n Glyndwr—i'n harwain Wrth herio r gormeswr Rhyw filain o ryfelwr Yn y gad yw'r enwog wr. Ei gleddyf mawr a gladda-yn y Sais Roddo sen i Walia; A hen gampwyr a gwympa Yn ei ddig dros Gymru dda. Mawr yw ei glod, Gymro glan-a'i synwyr Gwna'r Senedd yn benwan Ei eirias dafod arian Yr y Ty yn ferw tan. Volander Jones. EOS DAR A I BENILLION. Cymru fach yn Llunden fawr, Yw'r oedfa nawr yn brydferth Ar y maen yr Awen mwy, A geidw'r ddwy yn gydwerth Dewr yw nod yr Awen wyr Yn nhir y Brenin Iorwerth." Enw Goscombe sydd yn gwasgar, Enw'i wlad ar draws y ddaear; Nid a ysbryd Bryniau Cymru, 0 waith Goscombe byth i gysgu. Fe geidw Llydaw Walia Wen, A'i hawen fyth yn newydd I fyw yn un a chyd fwynhau, Y gwyliau gyda'n gilydd A'r wynwyn hedd a cherin iach, Wna fynach o Eifionydd. Mae rhai'n darogan drwy ein tir, Bydd diwedd ar ein hiaith cyn hir Bydd hyn o fyd i gyd ar ben, Cyn derfydd iaith hen Walia Wen. Hwn yw dydd Eisteddfod Cymru, Hwn yw r dydd i'w hanrydeddu Mae ein cenedl yma'n canu, Yn ninas Llundain yn Ilawn gallu. Saeson sydd yn son a synnu, A diarbed foli'r Derby; Coffa helynt eu ceftylau, Ydyw hanes pena'u doniau. Ninnau ganwn glod yn gynnes, Ein Heisteddfod hynod hanes Gwalia anwyl sydd yn glynnu Wrth Eisteddfod hen y Cymry. Pa beth wnelai Llundain er cymaint yw hi, Heb fechgyn a merched o Gymru fach gu ? Am gan, ac am delyn, a phregeth, gwir yw Hen Gymru sydd yn cadw Dinas Llundain yn fyw. 0 Gymru daw'r canu, o Gymru daw'r stwr Daw Llunden bron tagu i Gymru am ddwr Mae Llunden yn anfon i hen wlad y gan Am laeth ac am enwyn, am ddwr ac am dan. Os colla y Cymro ei lafar a'i iaith, Fe gollir y genedl heb fod yn faith Wel dyna le sobor, wel dyna le gwag, Fydd gweled Hen Gymru heb air o Gymraeg. Mae Llundain fawr yn rhoddi bri Ar wyl barddonol Prydain Ond myn ein hen Eisteddfod ni Roi mwy o fri ar Llundain Mae'r uchaf wyr mewn dawn a gras Yn eirias yn ei harwain. Mae'r hen ormeswyr yn y glyn, A neb yn gofyn aberth A thangnefeddwr daear lawr Yn awr yw'r Brenin Iorwerth I hedd y byd mae'n wr a farn, Yn gadarn heb ei gydwerth. Pe a y Dafwys fawr ar dan Gan seiniau can yn adsain, 0 orielau'r Albert Hall Nes bydd Sant Paul yn dadsain Rhyw londer gyrhaedd hyd y ser Yw llonder'Steddfod Llundain. LORD TREDEGAR. With peace and song in her domain The muse shall reign in splendour, The Bards of Wales will never need "A friend indeed while Ivor Will pour his mead and use his gold As did his old ancestor. How joyful in the smiling morn Around the Horn we gather, To tender thanks beneath the sword To our noble Lord Tredegar; And future ages will adore Our Ivor Hael for ever. Our chief is a warrior brave and bold, One of that wonderful Brigade That made the world to shudder His name will live in every land For ever and for ever.

Advertising