Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y PAGEANT.—Rhwng yr Eisteddfod a'r Pageant mae Cymry Llundain wedi bod yn dra phrysur am yr wythnos. YR ADRAN GYMREIG.—Dywed Dr. Pryce J en kins fod yn agos i bymtheg cant o Gymry yn cymeryd rhan yn y Pageant yn ddyddiol. ODFEUON HWYROL-Mae cyngherddau yr Eisteddfod yn Queen's Hall yn llawer gwell nag y disgwylid. Trueni na fuasai yr Eis- teddfod ei hun cystal. Y CLWB -Er fod y Clwb Oymreig yn rhydd i feirdd ac ymwelwyr yn ystod yr wythnos, nis gallodd ond ychydig fanteisio ar y lie. Gwaith caled yw dilyn Eisteddfod, ac nid oes fawr o amser at un galwad arall. EGLWYS ST. BENET.—Nos Sul ddiweddaf pregethwyd gan y Parch. G. Haydn Evans, o Worthing, a llawen gan ei hen gyfeillion ei glywed unwaith yn rhagor. Prydnawn Sul diweddaf, ar ol yr Ysgol, cyflwynwyd rhodd o marble dining room clock i Mr. Charles Morgan ar achlysur ei briodas. Siaradwyd yn uchel am rinweddau ami Mr. Morgan gan y Parch. J. Crowle Ellis, ficer, y ddau warden, a'r organydd. Cyflwynwyd yr awrlais i Mr. Morgan gan Mrs. W. Emlyn Edwards gyda geiriau pwrpasol. Cydna- byddodd Mr. Morgan y rhodd mewn araith fer ond llawn o deimlad byw. Hir oes a dedwyddwch i'r par ieuanc. MARWOLAETH MR. DANIEL JONES.—Pryd- nawn Llun, Mehefin 7, bu farw y gwr da uchod yn nhy ei fam-yng-nghyfraith, 5, Forest Lane, Llaugybi, Sir Aberteifi. Mab ydoedd i John a Mary Jones, Blaenywaun, gerllaw Tynant, Dyffryn Aeron. Ganwyd ef ym Mlaenywaun, Chwefror 1864. Dysgodd alwedigaeth o ddilledydd yn ardal Ciliau Aeron. Bu yn gweithio yn Bettws Bledrws. Daeth i Lundain i weithio. Priododd a Miss Jones, merch Mr. a Mrs. Jones, 5, Forest Lane, Llangybi. Bu yn cario ymlaen fasnach eang yn Exmouth Street, Clerken- well, a 48, Cornwall Road, Blackfriars. Aelod crefyddol oedd yn y Boro' a bu ef a'i briod yn ffyddloniaid i'r achos yn y lie. Nid oedd wedi bod yn gryf ers blwyddyn neu ragor ond tua thri mis yn ol gwelwyd ei fod yn dioddef oddiwrth afiechyd gieuol (iieuritts). Ymgynghorodd a meddygon Llundain, ac aeth i Laigybi i newid awyr dydd Gwener, Ebrill 30. Cafodd wasan- aeth meddygon yr ardal honno yn y cyfamser, ond bu farw nos Lun, Mehefin 7fed. Dydd Gwener dilynol claddwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent henafol Ebenezer, Llan- gybi. Daeth tyrfa fawr i'r angladd. Gwein- yddwyd gan y Parchn. J. J Williams (Llan- gybi), B. Carolan Davies (Tynygwndwn), a D. C. Jones (Llundain). Dilynwyd y corff i lan y bedd gan ei weddw garedig, ei berth- ynasau, a llu ereill ddaethant i dalu eu parch i'w gymeriad da. Huned yr un anwyl yn esmwyth yn y fynwent lonydd wrth Eben- ezer. Bu ef a Mr. Jones, Exmouth Street, E.C., yn gynorthwyol iawn drwy y blynyddau i'r Eglwys. Cynorthwyasant i ddwyn y draul o adnewyddu a Iliwio yr addoldy ers blwyddyn yn ol, a chyfranent yn flynyddol tuag at gynnal yr achos yn y lie. Nid yw eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Boed nawdd Duw dros ei weddw a'r holl berthynasau. Aeth yn gynnar i dderbyn gwobr ei waith i fyd nad oes ynddo na. pboen na bedd. Cofir ei gymeriad lledneis a da gan lawer am dymhor hir. Bydd lie gwag iawn yn eglwys y Boro' ar ei ol. Y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth." CIAPHAM.—Dadorchuddir ffenestr liwiedig er coffa am Mair Eluned Lloyd George yng nghapel Olapham Junction ddydd Sul, Mehefin 27ain am 3.30 o'r gloch. Oymerir rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn, Elfet Lewis, a Herbert Morgan, Castle Street. ER OOF AM GWEN HAGGER.—Gwen Hagger, mor siriol ei gwen, mor gu ei chan, pwy a'i hadweinai nad oedd yn ei charu! Mor anhawdd yw sylweddoli fod ei chorff glan- deg yn gorwedd yn dawel yn yr hen fynwent oer Anafwyd hi gan afiechyd ym mlyn- yddoedd tyneraf ei hoes fer; ond 0 mor dawel y dioddefai, mor gadarn y gobeithiai, ac mor hyderus yr edrychai ymlaen at ddydd ei hadferiad. Ond daeth yr adferiad mewn ffordd arall-yn y ffordd ag y gwelid oreu i'r 9 Doethineb a'r Oariad Anfeidrol. Galwyd Gwen i ymuno a'r llu mawr y tu arall i'r lien ddydd Mercher cyn y diweddaf. Cafodd gystydd blin tra yn yr ysbytty, ond yr oedd ej.meddwl yn fywiog a siriol hyd y diwedd, a i geiriau olaf oeddent ynghylch y capel a garai mor ddidwyll a'r cyfeillion oeddent mor hoff ganddi. Yr oedd y mwyaf o Gymry crefyddol Llundain, yn siwr, yn adnabod Gwen, ac wedi cael llawer o hyf- rydwch wrth wrando ar ei chan lawer o droion. Ac yn awr am byth wele hi wedi ein gadael, a'i chan fwyn wedi distewi, hyd nes y cawn gydgyfarfod eto wedi i ninnau fyned o gyrraedd poen a blinder y ddaear. Bydd y cof am dani yn aros am hir amser fel arogl peraidd i'w theulu a'i chydnabod, ac i symbylu gobaith a gweithgarwch yr eglwys fechan ag yr oedd yn aelod mor ffyddlon o honi. Un o blaut Barrett's Grove ydoedd Gwen, a charai ei chartref crefyddol a chariad angerddol. Eto ar yr aelwyd gartref yr adnabyddid hi oreu, ac yno, yn siwr, y gwelwyd ei rhinweddau ac y teimlwyd eu gwerth. Nawdd y Nef, a gofal tyner y Tad Goreu a'r cyfaill ffyddlonaf fyddo gyda'r fam weddw a'r teulu i gyd yn eu trallod. Er yn fyr ei barhad, yr oedd ei bywyd yn werth ei fyw, ac i'r sawl a'i had- weinai yn dda er yn blentyn, teimlid mai- Ei chariad oedd ei choron, Heb un frid i friwio'r fron. Hawlia'i gwaith wir sail i gyd, Un oedd fu'n werth i fywyd. Ar ei gwen y gwir a gaed, A'i chan oedd heb ochenaid. Gwir fawl oedd ei gorfoledd Yn nhy lor mewn seiniau hedd." Daeth tyrfa liosog i dalu'r gymwynas olaf iddi ddydd LIun diweddaf, pryd yrhoddwyd ei gweddillion marwol i orffwys ym mynwent Abney Park. Gwasanaethwyd yn y capel mewn modd teimladwy iawn gan y Parch. Elvet Lewis a Do C. Jones; a thrachefn, ar lan y bedd, siaradwyd yn dyner gan Elved, a gweddiwyd yr un mor dyner gan y Parch. Davies. Yna canwyd Bydd myrdd o ryfe Idodau," er gwaethaf y dagrau heilltion a ffrydient o ddyfnderoedd calonau dwys y dorf yn eu cydymdeimlad j pur a'r teulu bychan sydd eto'n aros.

[No title]