Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
ATTENTION. is directed to the fact that the NEW PROSPECTUS of THE eOLONlRL MUTUAL LIFE ASSURANCE SOCIETY, LIMITED, is the most replete and up-to-date issue now before the Insuring Public. —————————————————————————— The RATES are LOW, the TABLES This Office issues INSURANCE and VARIED and ATTRACTIVE, whilst INVESTMENTS for ALL CLASSES. the POLICY CONTRACTS are Its connections are WORLD-WIDE THE LAST WORD IN and with FUNDS EXCEEDING LIB E RALITY. £ 3,000,000 STERLING. The Security is Perfect. Correspondence invited and fullest information given with pleasure upon application to any of the Brauches, or to JOSEPH WILLIAMS, District Manager, 33, POULTRY, LONDON, E.C. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the CODstituentColleges of the University of Wales PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). STUDENTS are prepared for Degrees in Arts, Science U (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, CIO. with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. Warden' Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. Cremation. Country Burials, &c. (Price.-List on application.) 66, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE Carriage Department 97, CHAPEL STREET, Telephone Nos. 30 and 601. NORTH
NODIADAU LLENYDDOL.
News
Cite
Share
NODIADAU LLENYDDOL. Cymru Un o'r ysgrifau goreu yn rhifyn Mehefin o'r misolyn hwn yw eiddo G. W. Roberts ar Siartiaid Casnewydd." Dyma helynt, neu gyffro, gwleidyddol nad ydys eto wedi ei ,egluro i foddlonrwydd. Tuedd ysgrifenwyr ac haneswyr yn gyffredin yw diraddio'r mudiad a cheisio profi mai cynnyrch medd- yliau ffol oedd y cyfan, ac yr ydym yn rhy barod i fesur safle'r gweithwyr yn 1839 yn ol breintiau a deddfau yr oes hon. Ceir awgrymiadau o hyn yn ysgrif Mr. Roberts, ac edrydd rai o'r chwedlau adroddwyd ymhen blynyddau wedyn gan bobl oedd heb gydymdeimlad a'r muniad. Pa bryd y ceir yr hanes yn gyflawn ? Y mae yn faes gwerth i un o'n hefrydwyr ieuainc ei astudio, a byddai yn werth cael rhagor o'r hanes ar dudalenau y cylcbgrawn cenedlaethol hwn. Yr A B C yn Gymraeg Parheir i gyhoeddi Llawlyfrau at wasan- aeth ein bieunctyd, ac un o'r diweddaf sydd a'i amcan i ddysgu'r wyddor yn berffaith 0 i'r hanner-Cymry hynny sydd heb fanteision y Gymraeg ar eu haelwvdydd. Yr awdures yw Mrs. Lloyd Jones, o Fangor, a'i hymgais yw dysgu'r Gymraeg drwy gyfres o ddar- luniau yn egluro gwahanol eiriau yn ol y wyddor. Rhyw fath o eiriadur darluniedig syml yw'r cyfan, ond prin yn gyfaddas i ysgolheigion ieuainc. Nid ydym yn credu fod angen am blyg mor anhwylus i'r llyfr, ac mae amryw o'r darluniau yn rhy fychain i egluro'r geiriau yn foddhaol. Ond er hynny, mae pob ymgais a wneir er codi'r Gymraeg i sylw a bri yn haeddu ei wneud yn gyhoeddus. Gellir ei chael oddiwrth The Caxton Press, Bangor. "Manual of Welsh Literature." Dyma un o'r cyfrolau mwyaf defnyddiol sydd wedi dod o'r wasg ers blynyddau lawer. Yr ydym wedi clywed llawer o siarad am "ein llenyddiaeth gan ysgolorion Cymreig ar hyd y blynyddau, ond 'does yr un o honynt wedi ceisio rhoddi allwedd briodol i'r trysorau cloedig hyn. I Gymro oedd heb fanteision i ddysgu iaith ei genedl ym moreu oes yr oedd y bwriad hwn yn angen. Pan oedd y Parch. J. C. Morrice yn ceisio efrydu'r Gymraeg yn ei ddyddiau ysgol, teimlodd angen am lawlyfr hylaw i lenyddiaeth Cymru, ac aeth ati o ddifrif er llanw'r diffyg. Ac y mae wedi llwyddo yn rhagorol yn ei waith. Wele, am hanner coron, bortread cywir o faes ein llenyddiaeth, o'r oesau boreu hyd yn awr. Rhydd fraslun o brif awdwyr llyfrau'r Cymry, ac o'r cyfnodausydd wedi dylanwadu yn bennaf ar ein llenyddiaeth. Nid yw'r awdwr yn amcanu at fod yn feirniadol iawn, eithr cymeryd cipolwg ar y gwahanol weithiau, gan arwain yr efrydydd ar draws y canrifoedd er dangos beth fu cynyrchion pob canrif, a pha feirdd neu lenorion, a dal ymgydnabyddiaeth a hwy. Fel y gweddai i un o ddisgyblion yr Athro J. Morris Jones, y mae'r awdwr yn fawr ei edmygedd o Dyfydd ap Gwilym, ac mae ei hoffter at Ddafydd a'i weithiau clasurol yn ddiau yn gyfrifol am rai o'i sylwadau beirniadol ar ami i ysgrifennydd llai ei enwogrwydd. Ar y cyfan, gwaith rhagorol ydyw, ac mae'n haeddu y lie blaenaf yng nghasgliad yr efrydydd ieuanc. Cyhoeddir y gyfrol gan Mri. Jarvis a Foster, Bangor, ac mae wedi ei hargraffu yn hynod ddestlus a difrycheulyd. Manion. Mae'r Geninen am Orffennaf wedi dod i law, a cha ei herthyglau miniog sylw yn ein rhifynau dyfodol. Rhyfedd fel mae'r blynyddoedd yn ehedeg. Mae Cymru wedi gorffen ei 36ain cyfrol. Deunaw mlynedd yn ol y cychwynodd Mr. 0. M. Edwards ar y gwaith, ac nid yw'r gwr ond megys hogyn heddyw Y gwr a wnaeth fwyaf tros gadw llen- yddiaeth Cymru gan mlynedd yn ol oedd Owen Myfyr. Beth pe bae'r beirdd yn talu ymweliad a'i fedd yn Thames Street ar adeg yr Eisteddfod ? Nid yw ail ran o Eiriadur Bywgraff- yddol" Iorwerth Ceithio wedi ei gwblhau erbyn yr Eisteddfod hon, ond deallwn oddi- wrth ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod fod rhai o gyfansoddiadau Llangollen eisoes wedi dod o'r Wasg.
GOHIRIO'R MESUR.
News
Cite
Share
GOHIRIO'R MESUR. Tra mai son am heddwch ac undeb sydd ar bob Haw ar ddyddiau yr Eisteddfod, wele swn cyffro yn y gwersyll gwleidyddol. Mae Mr. Asquith wedi danfon llythyr at Syr Alfred Thomas yn dweyd nas gellir cwblhau'r gwaith ynglyn a Mesur Datgysylltiad yn ystod y Senedd-dymor presennol, ac yn awgrymu y doethineb o gario'r mesur drosodd hyd ddechreu'r tymor nesaf. Ar y goreu, ni ellir cyflawni rhagor o waith y tro hwn na'r Gyllideb a'r Deddfau sy'n dibynnu ar gynlluniau pell-gyrhaeddol Mr. Lloyd George. Yr hyn a addewir gan y Wein- yddiaeth yw, y rhoddir y lie blaenaf i'r Mesur yn y gwanwyn nesaf. Mae hyn yn edrych yn ddigon rhesymol hefyd, oherwydd ni roddir y flaenoriaeth i'r cais Cymreig i unrhyw fesur arall o bwys. Ond mae'r teimlad yn y blaid Gymreig yn wrthwynebol i hyn. Myn y rhai mwyaf pybyr a gwladgarol fod yn rhaid codi gwrthryfel ar unwaith fel ag i orfodi Mr. Asquith i wthio y Mesur i Dy'r Arglwyddi cyn rhoddi gwyliau i neb o'r Aelodau. Y mae r teimlad drwy Gymru hefyd yn ffafriol i wrthryfel, ac yn sicr bydd yn siom dirfawr i r arwein wyr Y mneilltuol os na chyflawnir yr addewidion yn ystod y tymor hwn. Prydnawn ddydd Llun caed cyfarfod o'r blaid Gymreig yn Nhy'r Cyffredin, ac er fod y mwyafrif yn barod i gydymffurfio a chynllun Mr. Asquith, yr oedd tri neu bedwar yn cyhoeddi eu bwriad o beidio gwneud dim yn rhagor a'r blaid Ryddfrydig. Maent am fod yn "revolters" rhonc, ac os na cheir gwell dealltwriaeth yn ystod yr wythnos hon, ni fydd dim am dani ond cael cadgyrch Genedlaethol drwy Gymru yn erbyn y Weinyddiaeth. Mae Cymru wedi aros yn amyneddgar yn hir, a'r pwnc yn awr yw ai doeth creu rhwystrau ynte rhoddi'r gefnogaetli a geisir gan Mr. Asquith er hyrwyddo Datgysylltiad yn unol a bwriad- au'r Weinyddiaeth.
[No title]
News
Cite
Share
Dyma englyn a adroddwyd gan Dyfed yng nghroesaw'r Cymmrodorion wrth gynnyg pleidlais o ddiolch i Arglwydd Tredegar— 0 Rhown buraf gerddi llafar—i fawr fri Ifor Hael ddigymar; Ni fydd Cymru gu heb gar Tra digon gan Tredegar Parti Mr. Stanley Davies oedd yn gwasan- aethu yng nghroesaw'r Cymmrodorion ac nid parti Mrs. Clara Novello Davies. Gelwid hwy y nos hon fel Canorion Elfed," gan mai yng nghapel Elfed y maent oil yn aelodau. Cantor gwych yw Mr. Lewys James, ac 'roedd ei ddatganiad o Ryfelgyrch Cad ben Morgan yng nghyfarfod y Cymmrodorion yn un o bethau goreu'r rhaglen. Cynonfardd, Llew Tegid, a Llifon, yw tri arweinydd y gweithrediadau, ac mae'r tri yn hen gyfarwydd a'r gwaith.