Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Cwynir yn lied gyffredin gan awdwyr yng Nghymru mai ychydig yw'r gefnogaeth roddir iddynt gan Gymry Llundain. Pan fo rhyw waith arbennig ynglyn a hanes y genedl, neu lyfr safonol ar rhyw bwnc o efrydiaeth ar fin gwneud ei ymddangosiad ni ddaw hanner dwsin o arohebion am dano o blith holl wyr mawr y ddinas. Ac mae hyn yn syndod pan ddeallir fod prif Gym- deithas Lenyddol ein cenedl, sef y Cymmro- dorion, a'i lleoliad yn Llundain. Yr unig ffordd i wasgaru llyfr yma, medd rhai, yw drwy gyfrwng y gwahanol gapelau, ac os digwydd i ryw fardd neu lenor gyhoeddi cyfrol dri-a-chwech a chael cofnogaeth nifer o gyfeillion yn yr eglwysi i'w lledaenu, yna mae gobaith am gylchrediad lied boblogaidd. Gall fod ychydig o wirionedd yn hyn, ond feallai mai y rheswm pennaf na roddir cefn- ogaeth i lyfrau Cymreig yw'r ffaith nad oes lawer o amser gan Gymry'r ddinas i ddarllen ac astudio y cyfryw. Cenedl o fasnachwyr hollol ydym ymysg y Saeson, a rhaid gweithio yn galed o foreu hyd hwyr er mwyn sicrhau'r cysuron angenrheidiol. Ac mae'n rhaid cyd- nabod gyda gofid fod ein pobl ieuainc yn anwybodus iawn o werth ein llenyddiaeth, ac yn barod i gredu gyda'r Sais-Gymry cyffred- in nad oes gennym fawr ddim gwerth ei ddarllen wedi ei gynyrchu yng Nghymru erioed. Ond nid yw diffyg ymgydnabyddu a llenyddiaeth ein cenedl yn wendid sy'n nodweddiadol o Gymry Llurdain yn unig. Mae hwn yn fai rhy gyffredinol, ac yn cael ei briodoli yn ogystal i ieuenctyd yng Nghymru ei hun a gwaeth na'r cyfan, i ieuenctyd ein hardaloedd gwledig hefyd. Yn nhawelwch y wlad gellid meddwl y buasai llyfr ar hirnos gauaf yn amheuthyn i'r llafurwr cyffredin, ond fe ddywedir mai ychydig yw'r rhai sydd a'u tueddiadau tuag at lenyddiaeth iachusol y Cymry; eu bod yn hytrach yn dewis chwedlau dichwaeth ein brodyr y Saeson i'r gemau dyrchafedig yn ein ceinion llenyddol ni. Dylai pethau wella yn y cyfeiriad hwn yn awr, gan fod yn hen bryd i ni gael o ffrwyth y llafur sydd wedi ei wneud ar ran y Gymraeg yn ein Hysgolion Oanolraddol. Tra yn son am lyfrau a llenyddiaeth y genedl y mae'n achos o lawenydd i ni ddeall fod rhagolygon y Llyfrgell Genedl- aethol yn Aberystwyth yn wir addawol. Mae'r cyngor eisoes wedi penodi pen-saer i wneud y trefniadau gogyfer a'r adeiladau newydd i'r Llyfrgell, ac amcenir y gost o 185,000 i £ 100,000. Cymer y rhai hyn rhyw dair blynedd o amser i'w cwblhau, ond gan fod gwir angen am y Llyfrgell y maent wedi trefnu i'w hagor mewn adeilad arall am dymor ac ar hyn o bryd mae'r swyddogion yn prysur drefnu'r gwahanol gteiriau llen- yddol hynafol fel ag i'w gosod oil o fewn cyrraedd yr efrydydd cyffredin. Mae hwn yn orchwyl a gymer gryn ysbaid, ond dywed y llyfrgellydd fod y lie eisoes yn agored i'r sawl a geisia am wasanaeth y cyfrolau hanesyddol sydd yno. Hysbysir ni hefyd gan y Llyfrgellydd eu bod wedi sicrhau yr oil o lawysgrifau hynafol Peniarth, ac mae'r casgliad hwn yn un o'r casgliadau goreu o hen ysgrifau a geir yng Nghymru heddyw. Yn ychwanegol at lyfrgell Peniarth y mae Syr John Williams, fel yr hysbyswyd eisoes, wedi trosglwyddo ei holl drysorau ef i'r un lie. Y mae awdurdodau Coleg Aberystwyth hefyd wedi anrhegu'r Llyfrgell a'r oil o'r llyfrau hynafol oedd yn eu meddiant hwythau, sef y casg- liadau wnaed gan y diweddar Owen Jones, Parch. T. C. Edwards, ac ereill. Ar ol trefnu yr holl drysorau hyn a chael rhestr briodol o honynt daw'r Llyfrgell Genedl- aethol yn un o'r mannau mwyaf dyddorol i haneswyr Cymru a phawb sydd yn ceisio astudio Llenyddiaeth ein cenedl. Angen pennaf yr efrydydd cyffredin yng Nghymru heddyw yw rhestr gyflawn o'r gwahanol lyfrau sydd eisoes wedi eu cy- hoeddi. Mae mwy o angen am hyn yn ein gwlad ni nag mewn unrhyw wlad arall, oherwydd y ffaith fod y fath nifer o fan lyfrau a llyfrau lleol wedi eu cyhoeddi. Ymhlith y Saeson mae'r llyfrau clasurol yn cael eu cyhoeddi gan y prif gyhoeddwyr, tra yng Nghymru mae ami i awdwr wedi troi i fod yn gyhoeddwr ei hun, a llafur ei flyn- yddoedd wedi ei osod mewn cyfrol fechan a ledaenwyd ymysg ei ychydig gyfeillion yn unig. Gan fod y casgliadau sydd bellach yn Aberystwyth a Bangor a Cbaerdydd yn dra chyflawn, oni ellid cael cyfrol safonol ar Lyfryddiaeth ein cenedl ? Y mae amryw geisiadau wedi eu gwneud o bryd i bryd er rhoddi rhestr gyflawn o lyfrau Cymreig. Y mwyaf manwl hyd yn hyn yw eiddo Gwilym Lleyn, o dan yr enw Llyfryddiaeth y Cymry," tra mai'r mwyaf defnyddiol i'r efrydydd yw catalogue Llyfr- gell Caerdydd. Gan nad yw catalogue Caerdydd ond rhestr o'r llyfrau oeddent yn y Llyfrgell honno yn 1898, ac fod mwyafrif eu llyfrau hynafol a gwerthfawr wedi eu sicrhau wedi'r flwyddyn honno gellir deall yn hawdd nad yw ond rhywbeth hannerog dros ben. Am gasgliad Bangor nid oes neb a wyr ei werth ond Mr. Shankland yn unig. Mae'r casglydd hwn wedi bod yn ddiflino ers amryw flynyddau bellach yn hel trysorau i'r llyfrgell ynglyn a choleg y Gogledd, ac mae lie i gredu fod ganddo gasgliad sydd bron yn gyfartal i'r ddau arall. Yn wir, os nad ydym yn camgymeryd, y mae ei gasgliad o hen gylchgronau'r genedl yn fwy cyflawn na'r ddau arall gyda'u gilydd. Hwyrach y gwna'r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig gymeryd at y gorchwyl hwn cyn hir. Mae'r gymdeithas hon wedi dechreu yn dra addawol, ac os caiff gefnogaeth sylweddol gan rai o garwyr lien ein cenedl, y mae gobaith y gall wneud Uawer o les. Cyn- helir cyfarfod arbennig o'r Gymdeithas yn Llundain ar adeg yr Eisteddfod, a byddai yn werth iddi ystyried y priodoldeb o drefnu cynllun ymarferol sut i lanw'r diffyg presen- nol ynglyn a rhestr gyflawn o'n llyfrau. Gellir rhannu cynyrchion ein pulpud fel rheol i dri dosbarth-barddol, cofiantol, neu ddiwynyddol, ond nid ydym i feddwl nas gall rhai o'n doniau pregethwrol ysgrifennu llyfrau dyddorol mewn meusydd ereill. Gwyr pawb am 'Elwyn,' bellach, ei fod yn un o'r nofelwyr goreu sydd gennym, a deallwn fod y nofel Gymraeg ddiweddaf o'i eiddo wedi cael gwerthiant lied foddhaol, ac mae hynny yn rhywbeth i awdwr i ymfalchio ynddo yn y dyddiau hyn. Yr wythnosau hyn cy- hoeddir nofel arall o'i waith yn uh o newydd- iaduron Seisnig y Deheudir, nofel am ba un yr enillodd y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Cymry. O'n blaen wele gyfrol newydd gan wei B idog arall. "Ystoriau Difyr" yw enw'r gyfrol ddel, a'r awdwr yw'r Parch. T. Mardy Rees, Markham Square, Llundain. Ffrwyth yr Eisteddfod yw cynnwys y gyfrol hon eto, ac os yw'r gwaith yn ddangoseg priodol o'r awdwr rhaid fod Mardy yn storiwr tan gamp. Ym mroydd Morganwg ac ardal y glofydd ca Mr. Rees ddefnyddiau ei storiau,, ac mae'n amlwg ei fod yn deall y glowr a'i arferion i'r tipyn. Yn ei ragymadrodd dywed yr awdwr mai ei fwriad yw creu chwerthin diniwed, ac yn hyn y mae wedi llwyddo yn rhagorol. Mae pob stori a edrydd yn llawn o ffraethebau bro'r Rhondda, ac yn fyw o droion difyr y glowr, ac i bawb a wyr rhywbeth am y collier bydd y portreadau hyn yn gymorth i greu chwerthiniad iachus. Nid yw'r pris ond swllt, ac mae'r cyfan wedi ei argraffu yn Jân gan y Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a'i haddurno a darluniau nodweddiadol Gymreig.

Advertising

NODION EISTEDDFODOL.