Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD LLUNDAIN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

EISTEDDFOD LLUNDAIN. Y RHAGLEN YN BAROD. Mae'r pwyllgor wedi gorffen ei holl drefn- iadau gogyfer a'r Wyl yr wythnos nesaf, a dengys y rhaglen sydd wedi dod i law fod yma wythnos ddiwyd yn aros y gwahanol swyddogion. Oeir rhaglen gyflawn o'r holl gyfarfodydd a'r cyngherddau yn cynnwys y manylion a geiriau'r gwahanol alawon am swllt, ond mae rhaglen arall yn cynnwys prif drefniad- au yr Eisteddfod i'w chael am chwe cheiniog, ac yna ceir rhaglenni rhad yn y gwahanol gyngherddau o'r gweithiau am y noson. Prif gyfarfodydd yr wythnos fyddant fel a .ganlyn :— DYDD LLUN. 8 0 Croesaw y Oymmrodorion yn y Princes' Galleries, Piccadilly, am 8 o'r gloch, pryd y derbynir y gwahoddedigion gan Arglwydd Tredegar. Noson o gan a llawen chwedl fydd hon, a cheir y manylion gan ysgrifennydd y Gymdeithas, Mr. E. Vincent Evans, 64, Chancery Lane. DYDD MAWRTH. 9J15 Hyde Park (Kensington Gardens). Gorsedd y Beirdd. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Arglwydd Tredegar. Amryw gystadleuon. 1 0 Cadeirydd y prydnawn, y Gwir Anrhydeddus A. J. Balfour, A.S. 2 15 Cystadleuaeth y Oorau Mawr. DYDD MEReHER. 9 15 Cymdeithas Can Gwerin Cymru. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Arglwydd Aberdare. Unawdau a chystadleuon ereill. 2 0 Cadeirydd y prydnawn, y Prif Weinidog, Mr. H. H. Asquith, A.S. Coroni'r Bardd. 2 45 Ail Gystadleuaeth Gorawl. 6 0 Cyfarfod y Beirdd. 6 30 Cymdeithas Lyfryddol Cymru yn Castle Street. •8 0 Cyngerdd cyntaf yn Queen's Hall. Cadeirydd, J. Pritchard Jones, Ysw., D.L. DYDD IAU. "9 15 Gorsedd yn Kensington Gardens. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Syr John Williams, Barwnig, K.C.V.O. 12 0 Cystadleuaeth y Madrigals. 2 0 Cadeirydd y Prydnawn, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, Ysw., A.S. Cadeirio'r Bardd. 3 0 Corau Merched. 5 0 Cymdeithas yr Orsedd a'r Eis- teddfod. -8 0 Ail Gyngerdd yn Queen's Hall. Cadeirydd, Syr S. T. Evans, K.C., A.S.

DYDD GWENER.

GAIR I YMWELWYR.

NODION EISTEDDFODOL.