Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y GWYLIAU.—Caed tywydd rhagorol i fwynhau gwyliau y Sulgwyn, a bu llu o'r dinasyddion am dro i'r hen wlad. MWYNIANT.—Oaed infer lliosog o wibdeith- iau ynglyn a'n Hysgolion Sul ar y Llun- gwyn, ac roedd y torfeydd eleni mor lliosog ag erioed. CYFARFODYDD.—Llwyddwyd i gael cyn- ulliadau mawr i gyfarfodydd pregethu y Boro' ar adeg y Sulgwyn, er fod y torfeydd wedi rhedeg i'r wlad am dridiau. Eto i gyd, daeth pobl o bell ag agos i wrando'r doniau oedd i wasanaethu yno, a byddai yn anhawdd cael dau mwy atyniadol i blant Ceredigion nag" Evans Llambed a Jones Llanelly." PLANT Y SIR.-Mae'r ddau yn enedigol o wlad y Cardis. Un o fechgyn ardal Hawen yw'r Parch. Evan Evans, ac mae wedi dringo i reng flaenaf y pulpud trwy ei hyawdledd swynol a'i gymeriad pur. Mae iddo barch mawr yn ardal Llanbedr, a chymer ran flaenllaw yn holl fudiadau cymdeithasau y cylch. EGLWYS BURDETT ROAD.Nos lau, yr ugeinfed cyfisol, cynhaliodd yr Eglwys uchod gyfarfod adloniadol olaf y tymor. Mwynhawyd gwledd o'r fath oreu trwy garedigrwydd Mr. a Miss Watkins, Forest Gate. Llanwyd y gadair gan y Cymro adnabyddus, Mr. D. H. Evans, yr liwn sydd wedi canu'n iach i firi a berw masnach, ac yn byw yn bresennol yn ardal dawel Victoria Park. Yr ydym yn hynod ddiolchgar iddo am ei bresenoldeb a'i gefnogaeth anrhyd- eddus. Cafwyd cyfarfod hwyliog iawn. Datganwyd, ymhlith lliaws ereill, gan Mr. C. Lloyd Davies, a chan gor meibion Dwyreinbarth Llundain, dan arweiniad medrus Mr. W. Bowen. Datganwyd unawd yr Anthem Genedlaethol gan Mr. Ifan Morrus yn swynol dros beii.-Cyfarfoclycid Blynyddol. —Cynhelir y rhai hyn ddydd Sul a nos Lun, Mehefin 13eg a'r 14eg, pryd y disgwylir y Parch. T. Twynog Davies, Caerdydd, i bregethu. Gan y bydd gwyl y genedl yn dechreu trannoeth, bydd yn gychwyniad priodol i'r holl drefniadau i gael cyfarfodydd arbennig ynglyn a'r Hen Fam yn Llundain. MOORFIEL-DS.Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Parch. Evan Williams, Rhos, ddeall ei fod yn aros yn y Brifddinas am ychydig. Bu yn pregethu yn Leonard Street y Sul diweddaf, a cheir cyfle i'w wrando yno eto y Saboth nesaf. Mae Mr. Williams yn un o brif bregethwyr ei enwad. WALHAM GREEN.—Nos lau, Mai 27ain, cynhaliwyd Cyngerdd Dirwestol Blynyddol y plant ynglyn a'r eglwys yn y lie hwn. 0 flaen y cyngerdd, rhoddwyd gwledd o de a danteithion i'r plant trwy garedigrwydd Mrs. Timothy Davies, yr hon hefyd a lan- wodd y gadair yn ddeheuig am y noson, ac a gyflwynodd i'r plant fathodau pwrpasol ar yr achlysur. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan liaws o'r plant, yn cael eu cynorthwyo gan ereill mewn oed. Trodd yr oil allan yn llwyddiant mawr, ac nid gormodiaith fyddai dweyd fod yr oil o'r rhaglen faith yi aed drwyddi yn adlewyrchu clod nid bychan ar y rhai fuont yn llafurio gyda'r plant yn ystod yr wythnosau aetbant heibio. Caed hefyd anerchiadau gan y Gadeiryddes, Miss Mary Jones, a'r Parch. D. Davies, ynghyd a Timothy Davies, Ysw., A.S. Wedi pasio y diolchiadau arferol, terfynwyd un o'r cyfar- fodydd mwyaf difyr a gawsom trwy i Mrs. Timothy Davies ganu Hen Wlad fy Nhadau." R. EGLWYS ST. BENET.—Gwibdaith yr Ysgol Sul.-Dydd Llun y Sulgwyn, fel arferol, aeth nifer dda o'r aelodau o London Bridge Station i Upper Warlingham, a dringwyd i fyny i Court Farm, mangre ddymunol dros ben i wario diwrnod mor hafaidd ac a gawsom y tro hwn. Ar ol amryw chwareuon a rhodianau, &c., cawsom de yn y Pavilion eang am 4 o'r gloch. Da oedd gennym weled ein Ficer siriol a'r ddau warden, &c., gyda ni. Ar ol treulio diwrnod campus yn y wlad, dychwelwyd yn ol yn ddianaf. LEWISHAM. Aeth aelodau Eglwys Lewi- sham yn gryno i Keston, Caint, y Llungwyn, ac yno, mewn tywydd hyfryd hafaidd, caf- wyd amser rhagorol, yr oil yn mwynhau eu hunain gydag aiddgarwch, ac am y tro yr oedd y rhai mewn oed yn gymaint plant a'r ieuengaf o honom. Bu'r wibdaith flynyddol eleni yn fwy llwyddiannus nag y bu erioed o'r blaen. BORo'Tebyg mai i'r foneddiges garedig Mrs. Jones, Lawn Villa, y perthyn yr an- rhydedd o fod yr aelod crefyddol hynaf yn holl eglwysi Cymreig Llundain. Mae Mrs. Thomas, 99, Great Dover Street, yn hynach mewn dyddiau na hi y mae ar fin ei 90 oed. Ond y mae Mrs. Jones, Lawn Villa, wedi bod yn y Boro' er pan oedd yn eneth ieuanc. Teimlai pawb yn yr eglwys honno yn falch i'w gweled mewn cwrdd nos Saboth yn ddiweddar. Mai 30 yw ei dydd pen blwydd. Llongyferchir hi gan gylch mawr o gyfeillion ar ei phen bl wydd eleni. Boed iddi gael prydnawnddydd teg i fwynhau daioni ei Duw. Boed i Mrs. Thomas, Great Dover Street, hefyd yr un dymuniadau da.— Nos Fercher ddiweddaf cyflwynodd cor canu y Boro' godaid o aur i'w harweinydd galluog, Mr. D. James, A.C., fel arwydd fechan o'u parch iddo a'u cymeradwyaeth o'i lafur a'i wasanaeth. Mae ganddo gor da, ac y maent yn bwriadu ymegnio i berffeithio caniadaeth y cysegr yn y lie.
[No title]
Y MAE mudiad ar droed i osod cofeb, o waith Goscombe John, ar gefn y sedd yr arferai.y diweddar Mr. Tom Ellis, A.S., eistedd ynddi pan yn fachgen, yng Nghapel Cefnddwysarn, ger Bala, lie y mae ei weddill- ion hefyd wedi eu claddu. Y MAE y Parch. James Morris, LlaDstephan, yn ddyfal wrthi yn casglu defnyddiau at ei gyfrol newydd, sef Hanes Methodistiaeth yn Sir Gaer. Y mae y testun yn un wrth fodd yr awdwr, a theimla pawb yn sicr y bydd y gyfrol wrth fodd y darllenwyr. YSTORIAU DIFYR ydyw enw llyfr bychan sydd newydd ei gyhoeddi gan Mri. Hughes a'i Fab. Ei gynnwys ydyw yr ystoriau o gasgliad y Parch. T. Mardy Rees, a farnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Llangollen. Mae yr awdwr yn dweyd yn blaen mai gyda'r bwriad o greu chwerthin diniwed yr ysgrifenwyd hwy, y chredaf y caiif y darllennydd eu bod yn ateb diben eu creadigaeth.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. 'Roedd Ellis Griffith a George wedi addaw dod i chware golff gyda'r Gol. ar adeg y gwyliau, ac er mwyn cadw ei gyhoeddiad gyda'r ddau Seneddwr, cyhoeddodd y pennaeth na fyddai yn gyfleus ganddo gael cynulliad o'r beirdd yr wythnos hon. Ar y funud olaf, er hynny, wele William Jones yn anibenu'r cyfan. George," meddai, dewch i chware marbles efo hogiau hen ysgol Llanystumdwy," ac 'roedd adgof o'i hen ddyddiau ysgol yn ormond profedigaeth i George, a ffwrdd a hwy fel plant ysgol i gael banner diwrnod hapus o gylch yr hen ysgoldy. Wel, gan fod George wedi torri ei gyhoeddiad, mi af finne i lawr i Fon," ebai Ellis, a chan ei fod newydd ddychwelyd o Epsom, lle'r oedd wedi bod yn cyd-Iawenhau a'r Brenin ar ei fuddugoliaeth yn ennill y Derby (ac 'roedd yntau, fel pob gwr teyrngar arall, wedi rhoddi coron ar geffyl lorwerth); ac yn Eisteddfod Amlwch, ddydd Llun, bu'n cymharu'r Eisteddfod a'r rhedegfa, ac yn dweyd p'un oedd oreu. Wedi colli ei holl gyfeillion, felly, aeth y Gol. yneu unigedd i Battersea Park, lie y bu yng nghwmni John Burns, yn cael eglurhad llawn ar Fil y Llaethwyr. Ar ei ddychweliad i'r Swyddfa, dacw'r Macwy yn ei hysbysu ei fod wedi troi'r CELT yn bapur dyddiol, a bydd yn dod allan bob dydd ar adeg yr Eisteddfod. A'r anwyl sy'n gwybod beth fydd y diwedd! Os caiff hogia'r offis yma eu ffordd eu hunain, daw'r CELT allan hanner dwsin o weithiau yn y dydd, a synwn ni ddim na fydd digon o gopi" i'w lanw, heiyd, pan ddaw Bil John Burns yn ffaith, a'r llaethwyr yma gael eu dirwyio wrth y cannoedd Ond na hidiwch am hynny yn awr. Ein gwaith yn awr yw cyhoeddi am yr Eisteddfod, a gadewch i ni gael y papur dyddiol i gychwyn y miri cenedlaethol hwn
Advertising
THE LONDON RETAIL DAIRYMEN'S ASSOCIATION. $tyubtie Tfteeting will be held at 262, GRAY'S INN ROAD, W.C., 0i) TUESDAY EVENING, JUNE 8th, 1909, at 8 o'clock sharp, To Discuss Mr. Burns's New Bill. —— All Retailers earnestly requested to attend. THE LONDON WELSHMAN AND KELT (CELT LLUNDAIN). A WELSH WEEKLY NEWSPAPER. Established 1895. The Official Organ of the London Welsh Community TRADE ADVERTISEMENTS. Displayed. Per insertion Per Inch, in Column 2/6- Half Column. 15/- Column 1/8/0 „ Page 4/0/0 Reduction for a series of I3 or more insertions. Special Position by Arrangement. Official or Leg-I Announcements, Profes, sional Notices, Company Prospectuses, &c.- will be charged at the rate of Sixpence a line- per insertion. Eight lines to the inch. It circulates among the 50,000 Welsh residents in London, and has a large and influential circulation throughout Wales and the Provinces. The only Welsh Paper Published in London EVERY SATURDAY. ONE PENNY. NOTE.-Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- lated into Welsh free of charge. All Communications to the Editor or to the Publisher should in future be addressed to KELT OFFICE, 302 GRAY'S INN RD., LONDON, W.C.