Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
ftLOBIDBE'S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE. LONDON W C. Horses of every class old by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded THE GREAT WELSH REMEDY. PJ A \/| r Q RELIEF FROM COUGH IN 5 VI \J U F0R C0UGHS' F0R C0LDSi FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS. FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. I I FOR COUGHS, FOR SORE 1.1 II II-L 1—4 THROAT, MOST SOOTHING. \J\J \J VJ I I WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM, FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. MIXTU R E t V < < 7 V < W < I U. 2s 9D. Postage, 3D. Proprietor, HUGH DAVIES. Chemist, Machynlleth. London Agents: Mr. Morgan, Chemist, Tavjstock Place, W.C.; Mr. Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W. Wholesale: Barclays, 95. Farrhigdori s-treet. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the ConstituentColleges of the University of Wales PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). QTUDENTS are prepared for Degrees in Arts, Science U (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £10. with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Hegis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. Warden Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law. Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. PROFESSIONAL COLUMN. MHOOe DAVIES, H.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. NOTE NEW ADDii.Ess:- 495, OXFORD STREET, W. (Near Marble Arch). MISS MRGGIE DAVIES, A.R.C.M., receives a limited number of PUPILS FOR SINGING. All communications to be addressed to Miss MAGGIE DAVIES, 50, Chandos Road, Willesden Green, N.W. GWYNNE DRVIES, H.R.e.M. TENOR. Oratorio and Miscellaneous Concerts, At Homes." F [Teacher Voice Production and Solo Singing L.C.M. 1, PORTLAND ROAD, FINSBURY PARK, N. Miss TEIFY DRVIES, SOPRANO, IN LONDON FOR THE WINTER. 10, WILLOW ROAD, HAMPSTEAD N.W. PEDR ALAW, Mus. Bac., Beirniad = ac Arweinydd = Cymanfaol CYIIEIRIAD- 302, GRAY'S INN RD. WILLIAM DAVIES, Dairy and Transfer Agent to the Milk Trade. 160, HIGH HOLBORN. City.—83 barns 4d. & 3d, shop £ 20, profitbi^. 91,100 28 barns 4d. and 5d,, shop 220, profitable t700 Highgate.—22 barns at 4d., shop 210, chtap.. £ 370 E.—18 barns 4d., shop tio, very nnwh heglected £ 320 S.W.-25 barns all 4d shop Si 8, good premises 9600 s .W.-14 barns 4d., shop k,20, call for bargain 2275 S.W.—11 barns 4d., shop £ 35, good district £ 240 S.W.—9 barns 4d., shop 223 pram, excellent -6200 Others good and cheap in all parts. Come to Davies for Genuine .Milk lousinesses, have had years' experiences. Indoors.—General weekly takings £25, only 260 for quick sale, others in dairy and generals in abundance, call and see, have sold several lately. Sellers kindly send your businesses to me for quick sale. I have clients up to zC2,000 ready to pur- chase for cash. Buyers, you would do well to consult me before buying, you can depend good advice given.
MESUR DATGYSYLLTIAD.
MESUR DATGYSYLLTIAD. Nid yw'r Mesur Datgysylltiad sydd ger bron y Senedd yn awr yn gwahaiiiaethu rhyw lawer oddiwrth yr hyn a gynwysai y Mesur a ddygwyd i fewn yn 1895. Dyma amlinelliad o amcan a cbynnwys y Mesur presennol:— Wedi delo'r Mesur yn ddeddf Datsefydlir yr Eglwys yng Nahymru a Sir Fynwy ar y laf o lonawr, 1911, ac wedi hynny ni phenodir gan y Brenin nac un- rhyw berson arall unrhyw un i swydd eglwysig yng Nghymru. Dadsefydlir pob eglwys gadeiriol a chor- phoraeth eglwysyddol; ni chaniateir i Esgob Cymreig eistedd yn Nhy yr Ar- glwyddi. Trosglwyddir i'r Dirprwywyr Cymreig holl eiddo eglwysig a ddelir yn awr gan y Dirprwywyr Eglwysig, a holl eiddo a berthyn i, neu a ddefnyddir gan, swyddog- ion eglwysig. Rhaid i'r Dirprwywyr Eglwysig, cyn dydd datsefydlu, ddangos pa eiddo neu arian a ddelir ganddynt a berthyn i Gymru neu Fynwy ac wedi hynny, ystyrir yr eiddo yn eiddo Eglwysig Cymreig, a throsglwyddir ef i,r Ddirprwyaeth Gymreig, ac wedi hynny trosglwyddir y cyfryw eiddo a chapeli anwes adeiladau eglwysig, yr holl dai clerigol, palasdai, yr esgoHon deoniaethau a pherson- dai sydd yn dyddio er 1662 i gorph yr Eglwys. Trosglwyddir i bob periglor presennol yn ystod ei berigloriaeth yr holl diroedd eglwysig a'r tiroedd claddu, ond ar derfyn y berigloriaeth bresennol aiff yr eiddo yma i'r Cynghorau Lleol. Trosglwyddir i'r Cynghor Sir y tâl. degwm o'r tir yn y sir ar y ddealltwriaeth eu bod hwy yn ei dalu i'r perigloriaid presennol. Er cario allan y Ddeddf penodir Comisiwn neu Ddirprwyaeth Gymreig hyd y flwyddyn 1915, a chanddynt hwy y bydd hawl i benderfynnu cwestiynau fydd yn debyg o godi, ond gellir apelio yn erbyn eu dyfarniad ar faterion o iawn neu rodd breifat. Ni ymyrir o gwbl a hawliau a chyflogau yr offeiriaid sy'n fyw telir hwy fel yn awr gan y Dirprwywyr, ac wedi hynny gan y Corff Cynrychioladol. Derfydd gwaith y Dirprwywyr wedi cyflawni cwrs y dadwaddoli, a chymerir eu He gan y coiff parhaol o gynrychiolwyr yr Eglwys. Ffurfir hefyd awdurdod canolog a elwir Cynghor Cymru, yn cael ei wneud i fyny o gynrychiolwyr y cynghorau dewisedig, trefol, a sirol, a throsglwyddir i hwn yr holl waddol- iadau canolog, yn ogystal a'r ddegfed ran o'r gwaddoliadau lleol, ac ar y cynghor hwn y syrth y draul o weinyddu'r ddeddf a llywod- raethu'r gwaddol. Darperir, ar ddiwedd y Mesur, ar gyfer defnyddio'r gwaddol i amcanion dyngarol, megys codi ysbytai neu leoedd lie y gwerthid cyffyriau (moddion) yn rhad, neu ar gyfer cynnal cartrefi i gleifion, penodi nurses i dlodion, sefydlu neuaddau lleol, neu ystafell- oedd darllen a llyfrgelloedd, addysg grefltiol ac uwchraddol, neu unrhyw bwrpas arall cyhoeddus a defnyddiol na ddarperir ar- eu cyfer gan y trethi.
[No title]
DYDD Mercher, yn Nhowyn, Meirionydd, bu farw y Parch. William Davies, diweddar o Llanegryn, yn 82 oed. Yr oedd yn un o "weinidogion hynaf y Metbodistiaid Calfrn- aidd. Cafodd ei ordeinio yn 1860. MAE'R meddygon Cymreig yn trefnu i gynnal eu cinio blynyddol ar nos Fawrth yn wythnos yr Eisteddfod. Dyma ddiwrnod y corau mawr, ac ar ol y fath ornest o ganu ni fydd hwyl i gael un cyngerdd y nOSOll honno. Cynhelir y cyngherddau nos Fercher, lau, a Gwener.
CYFARFODYDD.
CYFARFODYDD. COFNODION CYFARFOD MISOL MAI, 1909. LLUNDAIN, Mai 26, 1909. Jewin Newydd.-Llywydd- ion, Mr. E. Edwards, M.A ,a Mr. W. W. Griffiths, Wilton Square. (1) Dechreuwyd gan y Parch. M. Williams, Cil- fynydd, Dwyrain Morganwg. (2) Cadarnhawyd cof- nodion y cyfarfod blaenorol. (3) Cyflwynwyd llythyr Mr. Pryse Jones, Newboro', Mon, o barth i ysgolor- iaeth gerddorol Eleazar Roberts, i ystyriaeth Pwyllgor Cymanfa Ganu y C.M. (4) Yn unol ag apel daer oddiwrth Mr. Edmund Hay Currie ar ran Ysbytai Llundain, pwyswyd ar i'r holl Eglwysi wneud ym- drech arbennig gyda'r Casgliad at yr Ysbytai eleni, ar Sul yr Ysbytai, sef Mehefin 13. (5) Cyflwynwyd i sylw Pwyllgor yr Achosion Newyddion lythyr y Dosbarth Beiblaidd Cymreig yn Watford, yn diolch am gefnogaeth y Cyfarfod Misol i'r achos yno, ac yn apelio am gael gweinidogion a phregethwyr y C.M. i bregethu iddynt yno mor ami ag sydd modd. (6) Dar- llenwyd llythyr oddiwrth y Parch. Owen Evans, 74, Raleigh Road, Hornsey, yn datgan ei benderfyniad i aros yn Llundain am ysbaid, ac i ymaelodi yn y C.M. Derbyniwyd Mr. Evans yn serchog iawn, a chydna- byddodd yntau y derbyniad drwy ychydig eiriau pwrpasol. (7) Penderfynwyd danfon cofion a chyd- ymdeimlad at Mr. J. Eynon, Clapham Junction, yn ei henaint a'i lesgedd. (8) Rhoddodd y Parch D. Tyler Davies adroddiad o'i ymweliad fel cynrychiolydd y C.M. a Chymdeithasfa y Deheudir yn Blaengarw, Mai 18-20. (9) Derbyniwyd archebion am Gylch y Weinidogaeth am yr hanner blwyddyn olaf o 1909. (10) Cadarnhawyd adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion, a phenderfynwyd (a) fod Mr. O. M. Williams yn gofalu am yr arian a'r llyfrau sydd yn weddill yn Tottenham, ac yn rhoddi adroddiad am danynt yn y C.M. nesaf (b) cymeradwyo cynllun y Pwyllgor i uno eglwysi Stratford a Walthamstow yn un ofalfa fugeiliol, a bod y Parch. T. J. Jones a Mr. T. Benjamin, Jewin, yn ymweled ag un o'r eglwysi, rc a'r Parch. J. Thickens, a Mr. O. Lloyd Owen, Willes- den Green, yn ymweled a'r llall, ar Mehefin 27, i egluro iddynt y cynllun, ac i ddwyn adroddiad o'u hymweliad i'r C.M. (1L) Cadarnhawyd adroddiad Pwyllgor Dyledion y Capelau. Hysbyswyd fod rhagolygon y casgliad yn .ddisglair iawn. Awgrym- wyd y dylai yr eglwysi hynny sydd i dderbyn cymorth o'r Gronfa wneud eu rhan dros Gronfa y Deng Mil cyn dechreu casglu y swm sydd yn ofynol iddynt ei gasglu er mwyn cael cyfranogi o'r Gronfa. Pender- fynnwyd oedi cynnal cyfarfod cyhoeddus eto o blaid y casgliad hyd yr Hydref. (12) Penderfynwyd cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Jewin mewn cysylltiad a Chyfarfod Misol Mehefin i ddathlu 5 can.mlwyddiant genedigaeth John Calfin. Enwyd i siarad y Parch. J. E. Davies, M.A., F. Knoyle, B.A., a P. H. Griffiths. Awgrymwyd fod arbenigrwydd i'w roddi ar y can- mlwyddiant yn y pregethau nos Sul, Mehefin 27, ac fod arolygwyr yr ysgolion yn trefnu i roddi sylw i'r mater yn vr ysgolion y Sul cyntaf yng Nghorffenaf. Penderfynwyd dathlu can-mlwyddiant Dr. Lewis Edwards mewn cyfarfod arbennig yn yr Hydref. (13) Eglurodd y Parch. P. H. Griffiths y cynygiad a rhoddasai rybydd am dano-" Ein bod yn ystyried y priodoldeb o symud dyddiad Cymanfa y Pasc i Saboth arall, yn ogystal a gwneud cyfnewidiadau ereill, yn enwedig yn y ffordd o ddewis pregethwyr." Ar ol ymdrafodaeth faith a manwl, gohiriwyd dyfod i benderfyniad ar y mater hyd Cyfarfod Misol Medi nesaf. (14) Cyflwynwyd i sylw y Pwyllgor Arianol y genadwri o eglwys Holloway-" ei bod yn adeg y dylai y Cyfarfod Misol ostwng rhan-dal yr eglwysi i'r C.M i l yr aelod- (15) Cadarnhawyd, gyda gofid, ymddiswyddiad Mr. T. Pritchard o'r flaenoriaeth yn eglwys Mile End Road. (16) Terfynwyd, drwy weddi, gan yr Ysgrifennydd.