Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y SULGWYN. Cyfarfodydd pregethu eglwys y Boro' fydd prif gynulliadau'r Sulgwyn fel arfer. Y doniau eleni yw'r Parchn. J. J. Jones, Llanelly, ac Evan Evans, Llanbedr. PLESERDEITHIAU.—Ar y Llungwyn bydd amryw o bleserdeithiau ynglyn a'r gwahanol Ysgolion Sul. Ac os ceir tywydd ffafriol mae gobaith am dyrfaoedd lliosog i fyned am y diwrnod i'r wlad. CENHADON o AFFRICA.-Ers cryn amser mae parti o Affricaniaid bychain wedi bod ar ymweliad ar wlad hon yn canu emynau diwygiadol. Gofelir am danynt gan Mr. J. H. Balmer, F.R.G.S., a nos 1au yr wythnos ddiweddaf daeth llond capel y Tabernacl o bobl i glywed y rhai bach yn canu eu hemynau gyda'r fath swyn. Aeth- ant drwy raglen faith, ac roedd pawb wedi cael boddhad arbennig i glywed y cenhadon duon hyn yn rhoddi i ni o ffrwyth ein cen- hadon i wledydd anwar Affrica. Ar y terfyn diolchwyd i'r cor a'r arweinydd gan Mr. Glyn Evans ar ran y dorf oedd yn bresennol. WILLESDEN GREEN. —Mae'r gynulleidfa Fethodistaidd yn y lie hwn wedi trefnu gogyfer ag adeilad hardd i addoli ynddo, a nos 1au ddiweddaf, yr 20fed, buwyd wrthi yn ceisio cael ychwanegiad at y Gronfa Adeiladu trwy gynnal cyngerdd mawreddog, a da gennym ddeall fod llwyddiant wedi dilyn yr anturiaeth. CASTLE STREET.—Os am gyngerdd o'r fath oreu ewch i Castle Street. Mae hon bron yn ddihareb ymhlith Cymry Llundain, a chadwyd i fyny gymeriad cyngherddol y lie nos lau, yr 20fed, pan y rhoddwyd Soiree a chan ar raddfa hael. Llywyddodd boneddi- gesau siriol y lie o gylch y gwahanol fyrddau tê a gaed cyn dechreu a'r gan, ac nis gellid dymuno am wledd mwy moethus. Yn adran y canu llywyddwyd gan Mr. William Price, Great Western Dairies, gwr sy'n hael a'i law ac yn ddoeth ei gyngor mewn cadair. Y cantorion oeddent Madame Laura Williams, Miss Dilys Jones, Mr. Cynlais Gibbs, a Mr. T. Bryniog Jones, ynghyd a Mr. D. Richards, A.R.C.O., fel cyfeilydd ac unawdwr ar yr organ. Cyngerdd i dalu rhan o ddyled yr organ ydoedd, felly gweddus oedd cael unawdau ar yr offeryn newydd gan Mr. Richards, ac nis gellid wrth ei well. Rhoddodd ddau ddetholiad penigamp, drwy y rhai y prof odd ei fedr ei hun fel chwareu- wr, a dangosodd y fath offeryn swynol mae'r eglwys wedi ei sicrhau yn y lie. Am y can- torion, nis gellir ond rhoddi'r ganmoliaeth oreu, a bu raid iddynt ganu eilwaith er cyfoethoced y rhaglen i gychwyn. Diolch- wyd i'r cefnogwyr gan y Parch. Herbert Morgan mewn araith fer yn ystod y cyfarfod. MR. JOHN OWEN.-I'r gwr ieuanc gweith- gar hwn mae Eglwys Castle Street yn ddyledus am lawer o'i chymeriad uchel fel mangre'r gan. Myn Owen gael y talentau goreu bob amser, a gofala am drefnusrwydd y rhaglen gyda chraffder sydd yn haeddu edmygedd. Ac yn ben ar y cyfan mae ef a'i holl galon yn y gwaith. Mawr yw braint eglwysi'r ddinas sydd a phobl ieuainc yn cymeryd y fath ddyddordeb yn eu gweith- rediadau. EGLWYS ST. BENET.—Cynhaliwyd y gwas- anaethau blynyddol eleni ar y 16eg a'r 17eg o'r mis. Dechreuwyd yr wyl trwy gael Gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 1030 ac yn ei ddilyn gan wasanaeth boreuol a phregeth. Yn y prydnawn, am 3.30, cafwyd emynau, gweddiau, ac anerchiad byr yn Saesneg, a hefyd ail ddatganiad o'r gantata, Rhyfelwyr y Groes." Yr hwyr, am 6.30, gwasanaeth hwyrol a phregeth, ac eto nos Lun, am 8, gwasanaeth a phregeth. Lion oedd gennym weled cynulleidfaoedd mor ardderch- og; yr oedd yr eglwys yn Hawn iawn nos Sul, yr orielau a'r aisles wedi eu llanw. Arweiniwyd yr oil o'r gwasanaethau, wrth gwrs, gan ein ficer gweithgar, y Parch. J. Crowle Ellis, a'r pregethwr neilltuol oedd y Parch. W. Uar Edwards. Cyfrifwn ef yn un o honom ein hunain, ac ni chawsom ein siomi. Yn y gwasanaeth nos Lun, cawsom olygfa bleserus iawn, drwy weled a chlywed y pump offeiriaid Cymreig ag sydd mewn gofal o'r achosion Cymreig yn y Brifddinas, yn cymeryd rhan yn yr un gwasanaeth.— Rhodd: Pan yr oeddem yn mwynhau te yn yr ysgoldy, rhwng y gwasanaethau y Sul yr 16eg, rhoddodd y ficer anerchiad byr i ni, gan adrodd ychydig o hanes ein cyfaill, Mr. Edwards, yn cyfeirio ato fel ei blentyn Eglwys, ac at St. Benets fel ei Fam Eglwysig, ac am ei alluoedd a'i rinweddau a'i weith- garwch tra yno, gyda'r Ysgol Sul, y Cor, a'r Gymdeithas Lenyddol, &c. ac fel arddang- osiad bychan o deimladau ei hen ddosbarth yn yr Ysgol, ac ychydig gyfeillion ereill, yr oedd yn fraint iddo gael dywedyd eu bod wedi pwrcasu Pocket Communion Service i Mr. liar Edwards fel adgofiad bychan o honynt, a galwodd ar Mrs. John Williams i'w gyflwyno, yr hyn a wnaeth gyda geiriau pwrpasol. Diolchodd Mr. Ilar Edwards mewn araith fer o dan deimladau dwys, ac yn dweyd fod geiriau Ceiriog, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon yn bortread pur o'i deimladau. MARWOLAETH.—Dydd Sadwrn, Mai 22, bu farw Mrs. Mary Jones, 298, Cable Street, Shadwell, E. Merch oedd i Mr. William Jones a'i briod, Mrs. Jane Jones, Tymawr, Mallwyd, yn Sir Feirionydd. Cymerwyd Mrs. Jones yn wael yn Nhachwedd diweddaf, a pharhaodd i waelu yn raddol hyd adeg ei marwolaeth.' Gadawodd briod, dau fab, a thair merch i alaru eu colled ar ei hoi. Yr oedd yn aelod crefyddol o gapel y Boro', a bydd ei lie yn wag iawn yn yr eglwys honno. Dynes siriol, garedig, a fiyddlon oedd Mrs. Jones. Dydd Mawrth diweddaf claddwyd ei gweddillion daearol ym meddrod y teulu yn Nunhead. Gweinyddwyd gan y Parch. D. C. Jones. Daeth cynulliad mawr o bobl ynghyd i ddangos eu parch i'w choffadwr- iaeth a'u cydymdeimlad a'r teulu.

Bwrdd y Gol.

Y DYFODOL.

[No title]

Advertising

MIRFR AELODAU.