Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

I DDECHREU yr wythnos caed deuddydd o hAf, a thystiai y miloedd, wel, dyma hin braf; ond, boreu ddydd Mawrth, daeth gwlawogydd a gwynt, ac heddyw mae'r hin yn anwadal fel cynt. Bu Cymmrodorion Caerdydd am bererin- dod i wlad Islwyn ddydd Sadwrn diweddaf. Ymhlith y cwmni 'roedd Dyfed a Mr. T. Lovell, a chaed anerchiadau Cymraeg gan- ddynt uwch bedd y bardd. BYDD yn llawen gan gyfeillion Mr. Lleufer Thomas glywed am ei ddyrchafiad i fod yn ynad cyflogedig ym Mhontypridd, yn olyn- ydd i'r diweddar Mr. Lewis. Mae Lleufer yn Gymro glan, yn fargyfreithiwr llwydd- iannus, a chyn ei symudiad i ardal Abertawe, bu'n preswylio. am flynyddau yn Llundain, ac yn aelod o eglwys Fetter Lane a'r Tabernacl. YN 01 pob argoelion, bydd y brif gystadleu- aeth gorawl yn Eisteddfod Llundain yn un hynod o ddyddorol. Daw tystiolaethau calonogol iawn i law am bob un o'r corau sydd yn myned i gystadlu DAW rhaglen testynau Eisteddfod Oolwyn Bay allan o'r wasg erbyn adeg yr Eisteddfod yn Llundain. ACHOS gofidus yw achos Mr. J.J. Williams, yr hwn fu o flaen y llys ddydd Iau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf rhadlon a diddan, a sicr fod ei helbulon arianol wedi effeithio a'r ei feddwl. Mae cydymdeimlad cyffredinol a Mrs. Williams yn ei thrafferth- ion cynnar. MAE Caerdydd yn gweithio yn brysur iawn ynglyn a'r arddangosiad fawr-y Rhwysg-hanes, fel ei gel wir-syd d i fod yn y ddinas ym mis Gorffennaf. Cymerir rhan gan lu o bendefigion a gwyr blaenaf y cylch. Dylai'r anturiaeth fod yn llwyddiant mawr.

MASNACH RYDD.

Advertising