Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

COFIO "GLAN GEIRIONYDD."

News
Cite
Share

COFIO "GLAN GEIRIONYDD." Mae enw Ieuan Glan Geirionydd yn anwyl gan bob Cymro a gar lenyddiaeth a -chrefydd ei genedl; a syniad hapus ar ran pobl Trefriw oedd gosod tabled ar ochr y ffordd sydd yn arwain i Tanycelyn-ei hen breswylfod yn Nhrefriw—i ddynodi i'r oesau a ddel mai yno y trigax'r bardd am ei oes. Daeth tyrfa fawr o edmygwyr y bardd Cymreig ynghyd i bentref Trefriw, ddydd Sadwrn diweddaf, er cymeryd rhan yn seremoni dadorchuddio y tabled. Canwyd, i ddechreu, yr hen emyn Ar lan Iorddonen ddofn," ac yna sylwodd y cadeirydd—y Parch. Henry Jones—eu bod wedi cyfarfod ar amgylchiad dyddorol anghyffredin-am- gylchiad, ysywaeth, oedd yn llawer rhy anaml ynglyn a phentrefi Cymru. Yr oedd dynion wedi gadael eu hoi ar y pentref, ac wedi enwogi eu hunain a'u gwlad. Oad ychydig oedd nifer y pentrefi oedd wedi codi cofadail i goffadwriaeth eu henwau. Fy mhlant i," meddai Mr. Jones wrth y bobl ieuainc oeddynt yn bresennol, bach- gea cyffredin fel chwithau oedd Ieuan, ond trwy rym penderfyniad, goresgynodd am- gylchiadau a cherfiodd ei enw ar galon y wlad. Fe aberthodd lawer er mwyn ei rieni tlawd. Ar un amgylchiad dewisodd ddeg punt yn lie tlws a chadair eisteddfodol fel y gallai gynorthwyo ei rieni tlawd. Y Parch. Evan Davies ddadorchiodd y tabled, ar yr hwn yr oedd yn gerfiedig:- TANYCELYN. Cartref Ieuan Glan Geirionydd. 1795-1855. Dyn ardderchog-awenydd per, Sant cerddorol—gweinidog Ner. Sylwodd Mr. Davies fod ym mwriad y pwyllgor wneud rhywbeth mwy sylweddol, ond ni chawsant y gefnogaeth a ddymunent, ac nid oedd yr esgobion am wneud rhyw lawer i goffhau Ieuan Glan Geirionydd. Gwnaeth Ieuan y goreu o'r manteision oedd yn ei gyrraedd, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rad Llanrwst. Dechreuodd ei yrfa trwy gadw ysgol gyffredin yn Nhalybont. Yr oedd yn gyfieithydd rhagorol. Cyfieith- iodd lawer o emynau, ac nid oedd ol cyfieith- iad arnynt. Yr oedd yn lienor ac yn fardd. Yr oedd ei erthyglau yn y Gwladgarwr yn ardderchog, ac, o bosibl, yr erthyglau hynny oedd y pethau goreu a ysgrifenwyd ganddo. Cysegrodd Ieuan ei holl alluoedd i wasanaeth crefydd, er y beid yr Esgob- ion Cymreig am nad oeddynt wedi cydnabod ei wasanaeth a'i allu. Yna cafwyd anerchiadau barddonol gan Dewi Deulyn, Dewi Mai o Feirion, a Mr. Maddocs (Llanrwst). Hefyd darllenwyd a ganlyn gan Mr. R. H. Williams :— Geirionydd hawddgar-anian-ei genedl Barcha gynnar-drigfan Minnau 'ngwres ei gynnes gan Rof fow i Gartref Ieuan. Job. Glynnu mae enw ein glan emynydd Ar gyrrau anial a brig y mynydd Bywiol yw yni ei ddawn ysblenydd; Mawrheir ei awdlau, er marw'r odlydd Wyneb anian wen, beunydd—fu'n serchus Yn swyno graenus awen Geirionydd. Eljyn. Yna canwyd yr emyn Mae'n hyfryd meddwl ambell dro," a chafwyd ychydig aylwadau gan y Parch. John Gower (rheithor Trefriw). Ar ran y pwyllgor cyflwynwyd y tablet" i'r plwyf gan Mr. Richard Jones.

[No title]

EISTEDDFOD Y PLANT