Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
TO THE WELSH RESIDENTS OF LONDON. AN eminent firm of Welsh Architects, Surveyors and Sanitary experts, holding the Diplomas of the Civil Engineers, Surveyors, and Royal Sanitary Institutes, having commenced practice in London, hope, by giving personal attention to the require- ments of Property Owners, Buyers of Businesses, &c., to prove of valuable assistance to their countrymen in the preparation of Plans and Specifications for all kinds of Buildings, Valuation, and management of properties, surveying of houses, testing of drains, &c. Os am gyfarwyddyd dewch at y Cymry." Cyfeiriad—Architects. Cklt Office, 302, Gray's Inn Road, W.C.
[No title]
•« THE FLUTTER OF THE DOVECOT."
MESUR DATGYSYLLTIAD.
MESUR DATGYSYLLTIAD. CYMRY LLUNDAIN A'R WEINYDDIAETH. Nos Fawrth ddiweddaf caed cyfarfod pwysig yn Holborn Town Hall i ymdrin a phwnc Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, ac i draethu barn y Cymry ar y Mesur presennol sydd ger bron y Ty. Galwyd y cyfarfod ynghyd gan Gymdeithas Ryddfrydol Cymry Llundain, a llywydd- wyd y gweithrediadau gan William Jones, Ysw., A.S. Yn ei gefnogi ar y llwyfan oedd Mr. Ellis J. Griffith, A.S., Cadfridog Ivor Herbert, A.S., G. Hay Morgan, Ysw., A.S., Mri. John Hinds, T. Woodward Owen, T. W. Glyn Evans, Howell J. Williams, C.S.LI., William Evans, C.B., J. Foulkes Jones, a'r ysgrifennydd, Mr. D. R. Thomas. Yn ei araith agoriadol dywedodd y Cadeir- ydd ei fod newydd ddychwelyd o'r Alban, lie 'roeddent wedi cael datganiad croyw ar ran Datgysylltiad, ac 'roedd yn llawen ganddo weled Cymry Llundain yn dihuno i gefnogii Llywodraeth yn yr ymgais arall yma ar ran rhyddhad crefydd yn yr hen wlad. Yr oedd y Mesur presennol yn hynod deg, yn wir yn rhy ffafriol i'r Eglwys i foddio rhai pobl; ond ni chollai'r Ymneilltuwyr ddim trwy ymddwyn yn rhyddfrydig tuag at fuddiannau yr Eglwys. Pan ddeuai'r Mesur yn ddeddf ni welid mwyach mo'r pedwar Eegob Cymreig yn Nhy'r Arglwyddi, ond prin y credai y byddai hynny yn golled aruthrol. Ymneilltuaeth Cymru oedd wedi rboddi iddi ei chewri yn yr oesau sydd wedi mynd heibio ac i'r capel Cymreig yr elai mwyafrif gwerin Cymru heddyw. Eisieu eglwys rydd oedd ar Gymru, ac 'roedd ei chais yn hyn o beth yn berffaith deg a gonest. Cynygiodd Mr. Woodward Owen bender- fyniad yn diolch i'r Llywodraeth am ddwyn i fewn Fesur Datgysylltiad, ac yn taer annog y Weinyddiaeth i wthio'r Mesur drwy ei dri darlleniad yn y Cyffredin yn ystod y Senedd- dymor presennol. Eiliwyd y cynygiad hwn mewn araith alluog gan y Parch. Herbert Morgan, Castle Street, yr hwn a ddywedodd eu bod fel Ym- neilltuwyr yn gofyn am Ddatgysylltiad, am amryw resymau. Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig i Mr. Ellis J. Griffith yn ei waith yn codi i gef- nogi'r penderfyniad, a dywedodd mai dyled- swydd y Cymry oedd cynnal cyfarfodydd o'r fath yn awr fel ag i gadarnhau gwaith y Llywodraeth yn ceisio rhoddi ei hiawnderau i Gymru. Am dros ddeugain mlynedd roedd Cymru wedi traethu ei barn gon- demniol o'r Eglwys Sefydledig, ac ymhob etholiad cyffredinol roedd y genedl wedi dychwelyd mwyafrif mawr o blaid Datgys- ylltiad, ac er ein bod wedi gorfod aros yn hir nid oedd ef eto wedi llwyr golli ei hyder yn mwriad a gonestrwydd y Weinyddiaeth. Mae'n wir nad oedd eto wedi myned mor bell a'r Mesur hwn, ag a wnaed yn 1895, ond yr oedd y penderfyniad hwn yn annog ar i'r Llywodraeth ddanfon y mesur drwy Dy'r Cyffredin yn ystod y tymor presennol. Os nad oeddem ymhellach ymlaen yn awr nag yn '95 yr oedd yn werth diolch nad oeddem chwaith ymhell ar ol. Dywedodd un siarad- wr ein bod yngolwg gwlad yr addewid, ond ofnai ef mai yn nhiriogaethau yr addewidion oeddem er hynny, rhaid bod yn lied galonog, oherwydd yr oedd Mr. Asquith wedi rhoddi addewid pendant y cerid y Mesur drwv'r Ty os caniatai amgylchiadau. Ar ol aros mor hir, os siomid Cymru y tro hwn, credai ef y byddai'n rhaid i Gymru roddi ail ystyriaeth i'w chynlluniau gwleidyddol. Mae'n bosibl trethu gormod ar amynedd y mwyaf teyrn- gar. Yr oedd yn rhaid parhau i ddysgu Cymru yn y cwestiwn oll-bwysig hwn, ac er mwyn y tadau oedd wedi llafurio mor galed hyderai y gwnai y to presecnol weithio yn unol a phendant dros y rhyddid hwn. Boed i ni fod yn ffyddlon i'r daliadau, a dal i fyny faner rhyddid ein gwlad a'n crefydd. Ategwyd yr aelod tros Fon gan Cyrnol Ivor Herbert, yr hwn, er yn Babydd, sydd yn gefnogol i Fesur Datgysylltiad. Fel hen filwr teimlai ef fod y gelyn yn canfod gwen- didau eu caerfeydd, ac na fydd raid i Gymru aros yn hir cyn ennill y frwydr yn hollol. Mr. G. Hay Morgan oedd y siaradwr olaf, a theimlai ef y dylid rhoddi cyfle i Dy'r Arglwyddi i wrthod y Mesur. Nid teg oedd condemnio'r Ty Uchaf cyn iddo ddangos ei wrthwynebiad i'r Mesur. Yr oedd yr Arglwyddi wedi pasio mesurau Hawn mor chwyldroadol a hwn, a chredai ef y caniateid i hwn fyned trwodd, os teimlai'r uchelwyr hyn fod y wlad yn unol drosto. Felly, ei gyngor ef oedd ar i bob capel Ymneilltuol ddanfon deiseb i Dy'r Arglwyddi i'w harnog i wneud y Mesur yn Ddeddf yn ddiymdroi. Pasiwyd y penderfyniad yn ddiwrth- wynebiad, a chyn ymadael rhoddwyd diolch i'r siaradwyr ar gynygiad Mr. John Hinds ac eiliad Mr. T. W. Glyn Evans. Ar ddechreu'r cyfarfod darllenwyd amryw lythyrau gan yr Ysgrifennydd, oddiwrth bersonau yn datgan eu gofid am na allasent fod yn bresennol.
[No title]
MAE'R Barnwr Vaughan Williams wedi mynd i Aberystwyth i astudio ffigyrau'r Ddirprwyaeth Eglwysig ac i baratoi ei adroddiad. YMHLE yr oedd y Paich. J. Hugh Edwards ddydd Mawrth diweddaf? Disgwyliai pawb ei weled, a'i glywed, yng nghwrdd y Datgysylltwyr yn Holborn Town Hall. MAE'R Prifathraw Ellis Edwards o'r Bala, yn lied wael ei iechyd ar hyn o bryd, ac mae wedi mynd am seibiant o rai wythnosau i Gonwy.