Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. SWARPI.A wyddoch chwi beth yw hwimw ? Os na wyddoch, wel ewch i Castle Street nos Iau nesaf. Bydd y rhai sydd yn gwybod yno yn llu. Y SULGWYN.—Ar adeg gwyliau'r Sulgwyn cynhelir cymanfa bregethu capel y Boro. Mae argoelion y ceir cyfres fendithfawr o gyfarfodydd eleni eto. UNDEB Y GWEINIDOGION.—Cynhaliodd yr Undeb uchod ei gyfarfod misol E brill 26, yn Falmouth Road, dan lywyddiaeth y Parch. John Humphreys. Pasiwyd pleidJais o gydymdeimlad a Mr. Owen, Battersea Rise, ar farwolaeth sydyn ei frawd. Darllennodd y Parch. T. F. Jones bapur ar Thomas Aquinas," yn rhoi ei hanes a'i le a'i ddylan- wad yn nadblygiad diwinyddiaeth, athron- iaeth, a gwleidiadaeth Ewrop a'r byd. Dat- ganwyd cydymdeimlad a Mrs. Prytherch yn herwydd ei gwaeledd. Llanwyd ei He yn dra deheuig wrth y ford de gan Mrs. John Hughes, Clapham. Bydd y cyfarfod nesaf yn Battersea Rise, Mai 17, pryd y darllenir papur gan y Parch. S. E. Prytherch ar Bragmatiaeth." MR T. W. HANoooK.- Ebrill 26 bu farw yr uchod yn ei breswylfod, 35, Meadow Row, New Kent Road, S.E., wedi ychydig ddydd- iau o gystudd. Athraw ysgol oedd Mr. T. W. Hancock, o alluoedd uwchraddol. Cysegrodd ei fywyd i addysg a llenyddiaeth ei wlad. Ysgrifennodd lawer ar hynafiaeth- au Cymreig i wahanol gyfnodolion, ac ym- hyfrydai yu hanes a hynafiaethau siroedd Cymru. Meddai gasgliad gwerthfawr o hen lyfrau Cymreig, a threuliodd lawer o'i oriau hamdden yn yr Amgueddfa Brydeinig, &c., yn chwilio i henafion Cymru ac y mae yn golled na fuasai wedi ei osod am y deng- mlynedd-ar-hugain diweddaf i ysgrifennu ar hynafiaethau ein gwlad a'n cenedl. Nod- weddid ef gan ddiarddangosrwydd ysbryd ymgiliai yn naturiol o'r golwg bob amser, oddigerth pan osodid arno i ddarllen papur ar ryw destyn llenyddol neu hanesyddol, yna deuai ei nerthoedd a'i wybodaeth yn amlwg. Aelod oedd yn y Boro', ac yr oedd gan y Parch. D. C. Jones ae yntau afael rhyfeddol y naill yn y Hall. Nid oedd siarad- wr hyglyw a chlir ond yr oedd yr hyn a draethai yn werthfawr. Glynnodd yn afael- gar yn athrawiaethau y tadau drwy ei oes. Tra yn Rhyddirydwr cryf ac aiddgar mewn gwleidiadaeth bu yn eitbaiol geidwadol yn ei ddiwinyddiaetb, ac yn syml yn ei ffydd yn Nuw. Ymwrolai fel un yn gweled yr an- weledig. Dydd Gwener, Ebrill 30, gosodwyd ei farwol gorph yn ei fedd yn Nuohead. Gwenai y blodau a gwyrddlesni ieuanc y dail, a chanai yr adar o gylch y bedd. Gosodwyd garlantau ar ei arch gan ei gyf- eillion a'i edmygwyr. Gwelsom wrth ei fedd Mri. W. Prytherch Williams, Bond, James Jones, G. Jenkins, &c. Gweinydd- wyd yn y ty, yn yr eglwys, ac wrth y bedd gan ei gyfaill mynwesol y Parch. D. C. Jones. Diau y cyhoeddir ei hanes a'i waith cyn hir. Pwysed y ddaear yn esmwyth ar ei fynwes, a nodded Duw i'w feibion enwog i gerdded yn ol ei draed. MR. W. J. LEWIS, NEW NORTH ROAD.— Dydd Llun, Mai 3ydd, bu farw'r masnachwr adnabyddus uchod yn ei breswylfod, 24, Marquess Road, Canonbury, ar ol hir gys- tudd, ac efe yn 52 mlwydd oed. Brodor o ardal Talybont, Ceredigion, oedd Mr. Lewis, ond yr oedd wedi ymsefydlu yn Llundain ers blynyddau, ac yn dra Ilwyddiannus fel llaethwr. Yr oedd yn aelod ffyddlawn ar byd y blynyddau yng ngbapel y Tabernacl, King's Cross, a chymerai ran flaenllaw ynglyn a'r eglwys yn ei holl fudiadau tra y caniataodd ei iecbyd. Rhyw bum mlynedd yn ol daeth yn ddioddefydd tost o'r diffyg tieuliad, ac o'r adeg bonno byd yn awr bu'n dihoeni tan yr anhwyldeb, a hynny er gwaetba pob gallu meddygol. Dydd Llun diweddaf daearwyd ei weddillion yng ngbladdfa Abney Park, ynghanol arwydd- ion o alar cyffredinol. Mae cydymdeimlad ei lu cyfeillion a'r weddw a'r tri mab sydd wedi eu gadael i alaru eu colled mawr. Nodded y Nef fo trostynt yn awr eu trallod. CYFARFOD RHYDDFRYDIG.-Mae Cymdeithas y Rbyddfrydwyr Cymreig yn trefnu i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Holborn Town Hall ddydd Mawrth nesaf, pryd y disgwylir amryw ddoniau areithyddol i draethu eu barn ar bwnc Datgysylltiad. Cred Cymry Llun- dain fod yn hen bryd i ddihuno'r wlad ar y pwnc hwn, ac, feallai, os ceir ami i gyfarfod cyhoeddus, y bydd yn rhyw symbyliad i'r Weinyddiaeth i hyrwyddo'r Mesur drwy ei dri darlleniad yn Nhy'r Cyffredin. I HOLLOWAY.- Nos Iau. Ebrill y 29ain cyf cynbaliwyd Swper Coffi llwyddiannus yng nghapel Sussex Road, dan lywyddiaeth medrus J. Foulkes Jones, Ysw. Datganwyd ac adroddwyd gan nifer o bobl ieuainc yr eglwys, a chafwyd sketch dyddorol allan o'r Bardd a'r Cerddor." Haedda'r ysgrifen- yddion, Miss Maude Williams a Mr. R. H. Jones, glod am drefnu rhaglen mor odidog, ac hefyd Mr. a Mrs. 0. M. Williams am ei gwledd haelionus. CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL CYMRY LLUN- DAIN.—Dymunwn alw sylw ein darllenwyr at yr hysbysiad, mewn colofn arall, o gyfarfod y Gymdeithas uchod ar y 18fed o'r mis hwn, o dan lywyddiaeth William Jones, Ysw., A.S.

Bwrdd y Gol.

Advertising