Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. Yr Eisteddfod A barnu oddiwrth nifer y corau sydd wedi danfon eu henwau i fewn y mae rhagol- ygon yr Eisteddfod Genedlaethol yn addawol dros ben. Daw'r prif gorau i gyd o Gymru, ac mae hyn yn brawf nad yw pellter ffordd o un anfantais i'r cystadleuwyr aiddgar hyn. Ymhob adran mae'r cystadleuwyr yn dra Iliosog, a bydd rhaid chwynnu cryn lawer yn yr unawdau, &c. Ni chaniateir dim rhagor na thri o'r goreuon ymhlith yr unawdwyr a'r deuawdau i ymddangos yn gyhoeddus, a gwneir rheol bendant ar hyn gan y pwyllgor. "Cyngherddau Dal i ganu mae'r Cymry, ac mae'r cyngh- erddau mor boblogaidd y dyddiau hyn a phe yn cael eu cynnal ganol gaeaf. Yr wythnos nesaf ceir gwyl o gan yn Eglwys Dewi Sant, pryd yr ymddengys rhai o'r unawdwyr mwyaf poblogaidd ac mae rhagor o gyfarfodydd cyifelyb i ddilyn cyn y daw emu mawr yr Eisteddfod i lonni Llundain a'i swyn. # Wilton Square Ar nos Iau, Ebrill 22d.in, caed cyngerdd uwchraddol yn y lie hwn, a daeth llond yr adeilad o wrandawyr i fwynhau y wledd oedd wedi ei pharatoi iddynt. Nid yn ami y gwelir y fath nifer o ganeuon clasurol yn cael eu cyflwyno yn yr un cyngerdd ag a gaed y noson hon, a baedda'r cantorion a'r trefnwyr air o glod am y fath arlwy. Y datgeiniaid oeddeut Miss Gertrude Hughes, Miss Hannah Jones, Mr. Cynlais Gibbs, a Mr. Watkin Mills. Rhoddwyd hefyd alawon ar y sodd-grwth gan Mr. Morgan Morgan, a chyfeiliodd Mr. Merlin Morgan i'r oil o honynt. Caed canu rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Llywyddwyd gan Mr. Hugh Lewis, rheolwr y Central Insurance Com- pany. Can Newydd Mae Mr. Merlin Morgan yn dechreu dod yn enwog fel cyfansoddwr. Efe, fel y cofir, yw awdwr y gdn Meddyliau Plentyn," ac yn awr wele ef yn torri allan mewn dull m wy mawreddug gyda'i Can y Forwynig," ar eiriau cyfansoddedig gan Machreth. "Canwyd hi am y tro cyntaf yng nghyngerdd Wilton Square gan Miss Gertrude Hughes, yr hon bia'r hawl i'w chanu, ac ar y cyfan y mae'n gan lied swynol, er yn bur anhawdd i gantor cyffredin. Gwnaeth Miss Hughes, gyda'i llais cyfoethog, gyfiawnder a hi y nos hon, a chyfeiliwyd iddi gan yr awdwr ei hun. Chelsea Ynglyn a chapel yr Anibynwyr Seisnig yn Markham Square, rhoddwyd cyngerdd rnawr yn neuadd drefol Chelsea nos Fercher, Ebrill 28ain, pryd y caed gwasanaeth tal- entau o fri i ddyddori'r dorf fawr oedd wedi dod ynghyd. I Gymry'r ardal, dau atyniad pennaf y rhaglen oedd ymweliad Mr. John Walters, o Abertawe, a chor meibion Mr. Merlin Morgan Mae Mr. Walters yn ten gantor adnabyddus ymhlith Cymry Llun- dain, ac roedd yn llawenydd i'w glywed unwaith eto yn canu mor rhagorol. Rhodd- odd cor Merlin amryw ddarnau gyda mawr foddhad i'r dorf. Y cantorion ereill oeddent Miss Margaret Layton, Mr. J. A. Bovett, Cor Markham Square, tan arweiniad Mrs. Layton, F.R.C.O, a Miss Marjorie King- Beer fel unawdydd ar y crwth. Moorfields Nos Tan yr wythnos ddiweddaf oedd noson y cyngerdd mawr ynghapel Leonard Street, "City Road, ond yn anffodus trodd y noson yn un hynod o anffafriol o ran yr hin. Er hyn oil daeth cynulliad boddhaus ynghyd, a chaed canu rhagorol yn y lie. Yr unawdwyr oeddent Miss Laura Evans, Miss Lilian Rickard, Mr. Gwynne Davies, a Mr. David Evans, ynghyda Miss Jennie Jones fel cyf- eiles, a Mrs. Ethel Humphreys yn adrodd. Byddai'n anhawdd cael gwell cyfuniad o dalentau, a theimlai pawb eu bod wedi cael gwledd o'r fath oreu. Santley yn Gymro Gwnaed sylw yn y golofn hon beth amser yn ol fod y cantor hwn yn ymfalchio yn ei haniad Cymreig, a gwelsom brawf ychwan- egol o hynny y dydd o'r blaen. Mae gan Mr. Philip Lewis, y crythor Cymreig, ddar- lun o Sir Charles Santley, ar yr hwn y mae yn ysgrifenedig, To Philip Lewis, Welsh violinist, from Charles Santley, Welsh singer," a theimla Mr. Lewis yn falch iawn o'r anrheg. Nid yw pawb, efallai, yn gwybod mai fel crythor y dechreuodd Sir Charles ei yrfa ymyd y gan, ond ni bu yn hir cyn i'w lais cyfoethog dynnu sylw pawb, a chafodd y crwth lonydd wedyn. Philip Lewis Daeth y crythor hwn i fri yn ein plith yn ieuanc iawn, ac er ei fod bellach wedi gorffen tyfu o ran corff, y mae yn parhau i gynyddu mewn bri fel chwareuwr. Mae wedi ei benodi yn un o'r rhai sydd i gymeryd rhan yn nghyngherddau yr Eisteddfod fel un- awdydd, a bydd hefyd yn arweinydd rhan o'r gerddorfa Gymreig sy'n cymeryd rhan ym mherfformiad Caractacus." Yr Her Unawd Oes y champion solo yw hon, ac er mor boblogaidd yw'r gornestau, diau nad oes yr un ymdrechfa yn y maes cerddorol (os cania- teir i ni ddefnyddio'r fath frawddeg), yn rhoddi mwy o anfoddhad i'r beirniaid. Mae Harry Evans ac ereill wedi bod yn pregethu yn erbyn y fath gystadleuon, ond yn ofer. Myn y cyhoedd eu cae], ac nid oes yr un atyniad gwell mewn Eisteddfod neu gyng- erdd gwledig. Mae lJawer i'w ddweyd dros y cynllun, yn enwedig o du y gwrandawyr. Mewn un cyngerdd clywsom am gystadleu- aeth soprano neu denor ar 0 na byddai'n haf o hyd," a bu raid i'r dorf ddioddef deunaw o gantorion yn gwaeddi'r hen ddymuniad. Mewn her unawd agored ceir digon o amrywiaeth, a cha'r gynulleidfa gan newydd gan bob cantor bron. Am hynny mae'r cynllun yn atyniadol i'r rhai sy'n talu am y mwynhad o glywed y canu. Troion Digrif Ond gwaith anhawdd, fel yr awgrymwyd, yw i'r beirniad wneud ei feddwl i fynny. Ceir dau neu dri mor gyfartal fel y mae'n rhaid rhannu'r llawryf rhwng tri neu ychwaneg o'r cystadleuwyr. Cofus geanym glywed am un beirniad oedd mor ansicr ei feddwl fel y penderfynodd rannu y wobr o banner gini rhwng pump o gystadleuwyr! Yn Aberavon y Sadwrn diweddaf rhoddid cwpan arian i'r goreu, a dyfarnwyd tri yn gyfartal ar y diwedd, a'r pwnc ydoedd sut i rannu'r gwpan arian ? Yn y fath benbleth awgrymodd rhywun ar i'r tri dynnu blewyn cwta," fel y dywed pobl Morganwg, am y wobr, yr hyn a wnaed 0 ran budd cerddorol a gaed o'r ymdrech, gallasai'r tri fod wedi mabwysiadu'r fath gynllun ac arbed y drafferth o ganu

[No title]

EISTEDDFOD LLUNDAIN.