Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

RHAGRITH E I N H A R W Ell…

News
Cite
Share

RHAGRITH E I N H A R W Ell N W Y R CENEDLAETHOL. Mewn ysgrif alluog ar Ddylanwad y Colegau ar Grefydd y Myfyrwyr" yng Ngheninen Ebrill, dywed y Parch. R. Silyn Roberts eiriau llym ar bydredd a rhagrith ein harweinwyr cenedlaethol yng Nghymru yn yr oes ffug-grefyddol hon. Dyma ddywed Y peth a bar syndod yn ami i ni yw, nid fod cymaint o'n pobl ieuainc dysgedig yn ymddieithrio oddiwrth yr eglwysi, ac yn colli eu parch i'w gwlad a'u cenedl, eithr yn hytrach fod y dorraeth o honynt yng ngwyneb prydedd a rhagrith bywyd cyhoeddus Cymru, yn peidio gwneud hynny, a hwythau'n cael profiad mynych o hono ar bob llaw. Ni welais i erioed athraw mewn coleg yn ddyn diegwyddor ac anghyfiawn, gan nad beth fo'i gredo ond cefais engreifftiau ddigonedd o hynny ymhlith rhai o'r sawl a ystyrir yn arweinwyr ein cenedl heddyw ac arwein- wyr gyda chrefydd yng Nghymru yw ar- weinwyr ein bywyd cyhoeddus hefyd. Prin y ceir mewn un wlad fwy o bydredd gydag apwyntio swyddogion cyhoeddus nag a geir yng Nghymru. Nid a ydyw'r ymgeisydd y dyn mwyaf cymwys ar y rhestr i'r swydd ydyw'r cwestiwn a oyfynir, eithr yn hytrach dylanwad pwy sydd y tu cefn iddo; nid a yw'n ysgolhaig ac yn gymeriad cryf, sydd yn bwysig, ond a ydyw'n gardotyn pleidleisiau. A dyma ychydig engreifftiau diweddar, heb enwau lleoedd na phersonau, i brofi'r pwnc. Y mae'r enwau a'r holl fanylion gennyf wrth law, tae fater am hynny. Yr oedd eisiau swyddog dan gynghor sir nid anenwog yng Nghymru. Yr oedd i ffarinwr cyffredin yn y sir honno fab yn meddu'r ddysg a'r profiad angenrheidiol i gyflawni'r swydd ac anfonodd y bachgen ei enw a'i lythyrau canmoliaeth i law mewn pryd. Rai dyddiau cyn cau'r rhestr pers- wadiodd rhywun dad y llanc nad oedd ganddo siawns am y swydd oni byddai iddo gardota pleidleisiau mwyafrif y pwyllgor apwyntio. Cychwynodd y tad ar daith i weled rhai o honynt, rhag ofn fod hyn yn wir. Y cyntaf yr aeth ato oedd un o flaen- oriaid parchusaf y sir mewn byd ac eglwys; a'r ateb a gafodd gan hwn oedd na fedrai wneud dim iddo am ei fod eisoes weddi addo ei bleidlais i ymgeisydd arall, a alwaf yn John Jones, mab i wr adnabyddus yn y sir. Galwodd y tad sylw'r gwr at y ffaith fod eto bedwar diwrnod cyn cau'r rhestr ond tra'n addef hynny nid oedd modd ei symud oddi- wrth ei addewid i John Jones. Aeth y tad at dri arall; ond tebyg oedd yr ateb ymhob- man-John Jones wedi galw o'i flaen. Daeth dydd y penodi; ac wrth gwrs penodwyd John Jones, am ei fod yn fab i'w dad ac yn gardotyn pleidleisiau. Yn awr, os mai fel hyn y penodir swyddogion, paham yr eir i gost i hysbysebu ? Gwelir yr un pydredd yn ami yn y dull y penodir prif athrawon ein hysgolion sir Pa ddewin fedr ddweyd beth yw'r cymwysterau angenrheidiol mewn dyn i sicrhau ei apwyntio i'r safle bwysig hon? Gall dyn feddu'r ddysgeidiaeth ddisgleiriaf, profiad maith a hollol lwyddiannus fel is athro, cymeriad dilychwin a phersonolaeth gref, a bod ei siawns yn y diwedd am le fel prif athro'r ysgol sir bron yn hollol anobeithiol. O'r ochr arall, os y medd ddylanwad cym- deithasol cryf wrth ei gefn, ni raid iddo feddu fawr o ddim arall i sicrhau iddo le yn brif athro. Bum, yn ddiweddar, yn bwrw golwg tros qualifications and testimonials nifer fu gerbron dau neu dri o bwyllgorau dethol; a rhoddaf her i aelodau'r pwyllgorau hynny i egluro ar ba egwyddor yr oeddynt yn dethol (1) enwau ymgeiswyr ar y rhestr fer i ymddangos o flaen y pwyllgor penodi, ac yn (2) beth oedd cymwysterau arbennig y sawl a benodwyd rhagor ei gyd ymgeiswyr. Nis gellir cynnyg ond un o ddau eglurhad ar y gweithredau rhyfedd hyn un ai y mae aelodau'r pwyllgorau yn ddwl ac anwybodus, neu ynte jobbery" pwdr ydyw'r cyfan. Ac eto fe ddywed ambell un fod llawer o'n pobl ienainc dysgedig yn oeri at ein gwlad a'n heglwysi; ac fe synnant oblegid hynny. Y rhyfeddod i mi yw fod cymaint yn parhau yn ffyddlon i'w gwlad a'u crefydd er gorfod gweled rhagrith a phydredd cyhoeddus ar bob llaw, ac arwyr "jobbery'r" pwyllgorau yn arweinwyr crefydd ar y Sul! Y mae'r amser wedi dod i rywun siarad yn blaen, digied a ddigio ac anodd i'r neb a gar Cymru a chrefydd Crist dewi lawer yn hwy. Ni ddylai anffyddloniaeth a diffyg crefydd dysgedigion Cymru boeni chwarter cymaint arnom, a malldod rhagrith ei bywyd cyhoedd- us. Gwell arweinwyr i'n gwlad fuasai agnostics" gonest ar air a gweithred na dynion a deitlant eu hunain yn Gristion- ogion ac a adawant i ffafriaeth fradychu'r ymddiriedaeth gysegredig a roddes gwerin Oymru ynddynt. Os na cheir diwygiad gyrrir ein dynion goreu i wledydd ereill, gadewir ein plant at drygaredd yr edlychod ac aberthir gobeithion gwynnaf Cymru Fydd ar allor hunanoldeb. Bloeddiwyd am flynyddoedd, oddiar bob llwyfan yng Nghymru, fod yr arglwyddi tir a'r person- iaid yn troi pob ffrwd at eu melin eu hunain a diau fod gwir sail i'r gwyn ond a fydd Cymru lawer ar ei mantais o gymeryd ei llywodraeth o ddwylaw landlordiaid a pher- soniaid a'i gosod yn nwylaw arweinwyr sectau a phleidiau a apwyntiant eu dyn eu hunain, bid gam bid gymwys, i bob swydd o ymddiriedaeth ? Dyma gwestiwn y gweddai i bob cywir Gymro ei ystyried gyda difrifwch.

Am Gymry Llundain.

RHWYSG HANES CYMRU.