Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
THIS C3 ES NT RAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed 911,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. bbBIGMTS, LTD., FOR tRTiriCUL TEETH. SPECIAL TERMS FOR WELSH PEOPLE Country Visitors are invited to call for Expeditious Work completed in a few hours 25 Expert Mechanics on the premises. 42, BISHOPSGATE WITHOUT, CITY. (near Liverpool Street Station.) NOTE NAME BEFORE ENTERING. 'Buses from all parts of London and Suburbs pass the door. SIA.REDIR CYRRAE,, 03 YN FWY DYMUNOL EGL WYS Y BEDYDDWYR HEOL = Y = CASTELL, W. 1859-1909. CYNHELIR ——— yfarfodydd i ddathlu I" Jiwbili yr Eglwys Sul a Llun, Mai yr 2 a'r 3. 1I!lI"'I!I!11111"'IJII"1)!11"lII"'IUII"II!(I"It!(tI"!jI1\tl"t¡l\I"(1t!It'I«fi'II'IfIC"'IK!I"U('(!t'{\I!I\! Pregethir y Sul, boreu a hwyr, gan y Parch. A. J. PARRY, D.O.; a'r Parch. EVAN THOMAS, Ealing (yn Saesneg) yn y prydnawn, am 3 o'r gloch. Cyfarfodydd Cyhoeddus NOS LUN, pan y disgwylir Cynrychiolwyr o'r gwahanol Enwadau i Siarad. Danteithion am 7 o'r gloch, a'r Cyfarfod i ddechreu am 8. — Gwatjoddiad cynnes i Gymry Llundaiq.—
Y GYLLIDEB.
Y GYLLIDEB. Dyddiau pwysig yw y rhain i'r gwleid- yddwr Cymreig. Yr wythnos ddiweddaf 'roeddem yn croesawu Meaur Datgysylltiad ar lawr y Senedd, mesur a'i holl fwriad at wneud cyfiawnder a Chymru a'r wythnos hon wele ni yn croesawu Cyllideb gan Gymro sy'n eilun cenedl gyfan. Gwir fod pym- theng mlynedd er y bu pwnc Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru ger brony Ty ond y mae cyfnod hirfaith iawn er y caed Cymro o Ganghellor i gyflwyno'r fath Gyllideb ar ran yr holl Deyrnas. Llwyddodd Mr. Lloyd George i gadw manylion ei gynllun yn hynod o ddiogel hyd yr awr olaf. Yr oedd pawb yn teimlo y byddai'n rhaid iddo osod trethi ychwanegol ar y deyrnas oherwydd yr oedd masnach wedi cilio i'r fath raddau nes gwneud y diffyg yn eithriadol o fawr. Roedd casgliad- au ac amcangyfrifon y Canghellor am y flwyddyn ddiweddaf wedi troi yn anghywir, ac yn lie cael mantolen ffafriol wele'r diffyg yn eithafol o isel, ac nid gwaith hawdd ar unrhyw adeg yw llanw'r bylchau yn nhreth- oedd y Deyrnas. Gorchwyl cyntaf Mr. Lloyd George oedd gosod y wlad ar sylfeini arianol gadarn a diogel. Nid peth i'w gyflawni ar fyr rybudd oedd hyn. Bu raid iddo bwyso a mesur ami i gynllun yn ystod y misoedd diweddaf hyn, a'r pwnc yn awr yw a fydd y wlad yn foddlawn ar delerau'r gyllideb hynodol hon. Gwaith aniolchgar yw gosod trethi, a diau y caiff Mr. Lloyd George gymaint o'i gystwyo ag unrhyw Ganghellor fu o'i flaen. Yr hyn sydd yn peri pryder ym meddwl y werin yw fod treuliau y Deyrnas yn par- hau i gynyddu yn hytrach nag i iselhau, a hynny mewn blynyddoedd o heddwch a chysur. Os ydyw'r gost i fod mor enfawr pan mae pawb yn gyfeillgar yn y gwahanol wledydd, beth am y draul pan fo'r gelyn wrth y drws, a rhyfel ar ei eithaf ? Mae y blaid Ryddfrydig wedi tynghedu i leihau y costau milwrol, eto i gyd dengys y ffigyrau am eleni fod y swm a geisir tuag at y Fyddin a'r Llynges yn myned ar gynnydd yn hytrach na lleihau. Gwir fod un dosbarth yn y wlad hon yn ceisio creu anghydfod rhwng teyrnasoedd ac yn galw am i bawb ddysgu dwyn arfau er mwyn amddiffyn y wlad, ond os yw ein uchelwyr am i ni am- ddiffyn y wlad, boed iddynt yng nghyntaf ddysgu'r werin i garu'r wlad drwy wneud cyfleusterau priodol i bob dosbarth o'r deiliaid i fyw bywyd hapus o'i mewn. Ond i ni greu gwerin hapus, fe sicrheir y fyddin briodol a'r brwdfrydedd angenrheidiol er cadw y wlad rhagpob gwrthwynebydd.
NODION EISTEDDFODOL.
NODION EISTEDDFODOL. Mae dydd yr Eisteddfod yn agoshau. Rhaid i bob ymgeisydd anfon ei enw i'r ysgrifenyddiou heddyw os am gymeryd rhan yn y gwahanol gystadleuon, ac mae'n rhaid danfon y cyfansoddiadau llenyddol fel ag i gyrraedd swyddfa'r Eisteddfod erbyn y cyntaf o Fai. Ceir y manylion ynglyn a'r gwahanol gystadleuon yn ogystal a'r holl reolau yn rhestr testynau yr Wyl, yr hon a geir o'r swyddfa hon am wyth geiniog drwy'r post. Yn ol adroddiad diweddaraf yr ysgrifen- yddion, y mae rhagolygon am gystadleuon dyddorol yn adran y corau. Bydd rhai corau Seisnig yn ymddangos, ond mae'n amlwg mai o Gymru y daw mwyafrif y partion. Ac am yr unawdwyr dylai'r nifer fod yn lliosog iawn. Gwaith nesaf y pwyll- for fydd trefnu pa ddyddiau i osod y gwa- anol gystadleuon i gymeryd lie, a pha nifer o ragbrofion fydd raid eu cynnal. Mae pwyllgor Adran y Celfau tan gyfar- wyddyd Mr. Goscombe John, R.A., wedi trefnu i gael hysbyslenni hynod o gelfgar i gyhoeddi'r Wyl ar barwydydd y ddinas a phrif drefi Cymru. Tipyn o gamp yw cyn- llunio hysbyslen atyniadol mewn oes fasnach- 01 fel hon, pryd y mae pob dyfais yn cael ei defnyddio i roddi rhinweddau sebon a whisky o flaen llygaid y werin ar lenni o bob lliw ond credwn fod y pwyllgor Wedi bod yn ffodus i sicrhau pobl gelfgar fel Mri. Goscombe John, Christopher Williams, a Kelt Edwards i fod yn gyfarwyddwyr yn hyn o faes. Ceir gweld a lwyddant i dynnu'r miloedd drwy yr hysbyslen newydd. Yn ol pob rhagolygon mae Cor yr Eis- teddfod yn sicr o godi canu corawl i gryn fri yn ein mysg ar adeg yr Wyl. A barnu oddiwrth yr ymarferiadau geir, y mae yn un o'r corau goreu sydd wedi bod ymysg Cymry Llundain. Y dyddiau hyn mae'r aelodau yn prysur ddysgu gwaith newydd Mr. D. Thomas, ac er mor anhawdd yw'r darn, hysbysir y gellir ei gyflwyno i'r cyhoedd mewn modd hynod o foddhaol yn un o gyngherddau'r Eisteddfod. Mae'r oil o'r cantorion wedi eu sicrhau bellach ac er fod rhai enwau wedi eu gadael allan, credwn y byddai'n anhawdd i ragori ar y rhestr mae pwyllgor y gan wedi ei ddewis. # Y pwnc nesaf i'w benderfynu fydd, llety- garwch i'r ymwelwyr. Pa nifer o Gymry Llundain sy'n barod i gynorthwyo yn hyn o waith trwy ofalu am letty i rai ddigwyddant ddod i'r ddinas am wythnos yr Wyl. Os oes rhai o'n darllenwyr yn abl i roddi gwybodaeth am leoedd cysurus boed iddynt anfon y manylion yn ddioed, ynghyd ag amcangyfrif o'r prisiau, a pha nifer ellir dderbyn. Oaed cynulliad mawr o arweinwyr y by,l Eisteddfodol, a mawrion y cylch Cymreig, i gapel Jewin ddydd Mawrth diweddaf, i gymeryd rhan ym mhriodas Miss Gladys E. A. Vincent Evans, unig ferch Y Finsent," cadeirydd poblogaidd pwyllgor yr Eisteddfod yn Llundain, ac ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod, ac amryw Gym- deithasau ereill sydd ¡t'u hamcan i godi lien a chymeriad cenedl y Cymry. Caed gwas- anaeth tri o feirdd-bregethwyr, cadeiriol a choronog, i roddi'r cwlwm priodas, sef Rhuddwawr, Elfed, a Machreth, a phe bae'r Archdderwydd o fewn cyrraedd, buasai yntau yno hefyd, ond gan na allai ddod ei hun, anfonodd awdl ei fendith mewn cyf- archiad cynnes.