Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. Mae'r ysbryd cystadleuol yn parhau mor fyw ymhlith corau Cymreig ag erioed. Caed prawf eglur o hyn ar adeg Eisteddfodau y Pasc. Roedd nifer yr eisteddfodau a gaed yn anarferol o liosog, ac ymhob un caed cystadleuon bywiog iawn. Yn Neheudir Cymru caed y prif Eisteddfodau yn Aber- pennar ac Abergavenny, ac mae'n ddydd- orol nodi i'r un prif gorau gystadlu yn y ddau le, er fod pellder dirfawr cydrhwng y ddwy wyl. Er mwyn hwylysu'r trefniadau 'roedd trens arbennig wedi eu trefnu i gludo'r cystadleuwyr o'r naill le i'r llall, ac 'roedd y brwdfrydedd mor uchel a phe bae gornest y bel droed yn cymeryd lie yno. Yn Aberpennar—neu Mountain Ash, fel y myn y Saeson alw'r lle-rhoddid tair gwobr, sef £ 70, JE20, a £ 10, i'r corau a ganent yn oreu By Babylon's Waves" (Gounod), ac ymddangosodd chwech o gorau gan roddi datganiadau hynod o foddhaol. Y beirniaid oedd Dr. McNaught, Mr. Merlin Morgan, a Mr. John Price, ac yn ei feirniadaeth dy- wedodd y blaenaf mai diffyg pennaf y corau oedd difiyg addysgiad priodol. Meddent ar leisiau campus, ond credai mai gwir angen y dyfodol oedd addysg ac ymarferiad priodol. Y tri chor goreu oeddent—1, North Stafford- shire, 75 o farciau; 2, Rhymney, 71 3, Cwmavon, 70; ac yna deuai Casnewydd, Treborth, ac Aberpennar yn olaf. # O'r corau uchod ymddangosodd Cas- newydd, Rhymney, a North Staffordshire, ar y llwyfan yn Eisteddfod Abergavenny, yn y prydnawn yr un dydd, lie y beirniadid gan Mri. Granville Bantock, Birmingham; J. H. Roberts, Lerpwl; a D. C. Williams, Merthyr. Yma eto y prif ddarn ydoedd By Babylon's Wave," ac roedd y brwdfrydedd yn uchel iawn oher- wydd fod cor y Saeson wedi curo'r ddau yn gynnarach yn y dydd. Caed canu rhagorol eto, ond teimlai y beirniaid yma mai cor Rhymney oedd wedi canu oreu. ac iddo ef y rhoddwyd y wobr o £ 70. Aeth yr ail wobr o C20 i gor y Saeson, a'r drydedd o Y,10 i gor Casnewydd. Yr oedd cor Rhymney, yn 01 y prif feirniad, wedi rhoddi datganiad y byddai'n anhawdd ei guro. Yn un o Eisteddfodau'r Gogledd bu Mr. Harry Evans, unwaith yn rhagor, yn con- demnio yr "her unawd," a'r arfer o roddi unrhyw unawd" yn destyn cystadleuaeth. Nid teg i'r beirniaid na'r cantorion yw rhoddi unrhyw unawd" i gystadlu arnynt gan fod y cantorion yn dewis rhai mor amrywiol. Feallai fod llawer i'w ddweyd yn erbyn y dull yma o gystadlu, ond os yw mor wael ac mor ddiraddiol i gerddoriaeth ag y myn y beirniad hwn ei fod, paham y mae ef ac ereill o'r un dosbarth yn cefnogi'r cynllun trwy ddyfod yn feirniaid yn y fath wyliau ? Fe wyr y beirniaid beth i'w ddis- gwyl yn y fath gystadleuon, a thipyn o hymbygiaeth noeth yw codi i fvny a cheisio lladd ar y pwyllgor pan mai'r beirniad ei hun sydd i'w feio am gefnogi'r fath ysbryd materol. Gellir dweyd yr un peth am y dosbarth hwnnw o feirniaid eisteddfodol sydd byth a hefyd yn curo ar y pwyllgorau am eu dewisiad o alawon, neu ddarnau cystadleuol. Meddai un beirniad yn ddiweddar Mae'r gan bron yn fwy ad das i fod yn faled pen ffair nag yn destyn cystadleuol." Gan fod y orawd wedi cytuno i fod yn feirniad, onid ei ddyledswydd ef oedd cael y goreu allan o'r "baledwyr" oedd yn ymgeisio? Ond y gwir am dani oedd mai digter at awdwr yr unawd oedd wrth wraidd y condemniad i gyd. Os nad yw'r alawon neu'r darnau yn werth eu canu, dylai'r beirniad wrthod a'r gwaith, a dweyd hynny mewn amser cyfaddas wrth y pwyllgor ei hun. Deallaf fod rhagolygon am gystadleuon rhagorol yn Eisteddfod Lluodain. Nid yw'r corau eto wedi gyrru eu henwau i fewn, ond y mae sibrwd y bydd o leiaf i hanner dwsin ymddangos yn y brif gystadleuaeth. Mae tua'r un nifer hefyd yn paratoi gogyfer a'r ail gystadleuaeth. Am y corau meibion y mae'n anhawdd dweyd eto pa nifer a ddaw. Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd o leiaf ddwsin ar y maes, yn rhai tebygol o ym- ddangos, fel na raid i'r pwyllgor bryderu am ddim ond am le i'w cynnal! Y mae'r darnau cystadleuol yn rhai newydd bron i gyd, ac mae hyn yn golygu llawer iawn o ymarfer ar ran y corau. Ac os llwyddir i gael nifer go dda o gorau, bydd gwaith pwyllgor Eistedd- fod Llundain yn dewis darnau mor ragorol wedi ei gyfiawnhau yn hollol. Mae'n rhaid i enwau y cystadleuwyr gael eu danfon i law ysgrifenyddion Eisteddfod Llundain erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Cofied y cantorion am hyn rhag iddynt gael eu siomi. Gan fod yr Wyl i'w chynnal gannol mis Mehefin, rhaid gwneud y trefn- iadau yn brydlon, ac mae'n rhaid i bawb a fynnont gystadlu gydymffurfio a'r telerau arbennig osodir i lawr yn rhaglen Testynau'r Eisteddfod. Gellir cael hon ond danfon wyth geiniog mewn stamps i Swyddfa'r CELT.
U GWLAD Y MYNYDDOEDD."
U GWLAD Y MYNYDDOEDD." TEYRNGED MR. GEORGE MEREDITH I GYMRU. Yn y wasg Seisnig telir teyrnged i Gymro athrylithgar fel datganwr, bardd, a chyfan- soddwr caneuon, ymherson Mr. Trevor Evans, y tenorydd sydd wedi ei anrhydeddu lawer gwaith gan y Brenin, y Frenhines, ac aelodau ereill o'r teulu Brenhinol. Rhedodd ei gan "Cartref" i serch y genedl mewn amser byr, ond ei gan ddiweddaraf, sef "Long Ago" (yr amser gynt), sydd wedi tynnu y gydnabyddiaeth oreu am ei ben. Efe ydyw awdwr, nid yn unig y gerddor- iaeth, ond y geiriau Cymreig a'r Seisnig, a disgrifir y gan yn gampwaith, ac megys wedi rhedeg yn glir o'r galo". Dyma ddywed Mr. George Meredith, prif nofelydd Lloegr, am dani:— "April, 1909. Dear Sir,—I beg that you will let it be known to Mr. Trevor Evans how much I feel indebted to him for the song, music, and verse which he has commissioned you to send me. I have done my best to read the music, enough to see that it is excellent; but this is mere spelling, and my daughter or my daughter-in-law (who is a composer of cantatas) will vocalise it for me. Wales has always been the land of song. I rejoice that we have a distinguished singer of his own pieces, who will bring this rich gift of the Land of the Mountains prominently before the public.—Yours truly, GEORGE MEREDITH."
[No title]
GWNAED elw o yn agos i bedwar ugain punt oddiwrth gyngerdd Cor yr Eisteddfod, gynhaliwyd yr wythnos o'r blaen yn Queen's Hall.
Cleber o'r Clwb.
Cleber o'r Clwb. Caed cynulliad hapus yn y clwb ddech- reu'r wythnos hon. Roedd pobl y gwyliau wedi dychwelyd ar ol mwynhau amser braf yn yr hen wlad, ac roedd urddasolion y Senedd yn edrych megis pe yn dyheu am ornest fawr Datgysylltiad. Mewn congl arall gwelem haid o bwyllgor yr Eisteddfod mewn ymgom fywiog gyda'r Archdderwydd, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'i daith tua ynysoedd gwlad yr haf. Y cyntaf i dorri ar dawelsvch y lie oedd Morus Glaslyn, yr hwn oedd newydd ddod yn ol o ardal y Fenni, lie y bu'n areithio ar werth y Gymraeg, a thystiai Sarnicol ac Eifionydd-y rhai oeddent yn y cylch-fod Morus Glaslyn wedi gwneud i fyny am absenoldeb Dyfed. Tra bo Morus gennym," ychwanegai Sarnicol, gall pob archdder- wydd fyned i wlad yr haf neu i le cynesach fyth." Ond tra roedd y bardd o Borthmadog yn traethu mor hwylus ar fawredd yr Eisteddfod, dyma John Hugh Edwards i fewn, yn wen o glust i gilydd, ac yn llongyfarch Dyfed a Vincent a Morus Glaslyn, a'r cwmni i gyd. Beth yw'r newydd diweddaraf," ymholai. 'Rwyf newydd weld George, ac mae ef dros ei ben a'i glustiau mewn ffigyrau, ac ni allai ddweyd gair wrthyf am Feirionydd." A ydych chwi yn ymgeisydd hefyd," holai Morus Glaslyn, gan edrych yn bryderus. Dim o gwbl," ebai John Hugh. Nid chwilio am sedd dros Gymru wyf fi, a phe bawn yn cael cynnyg un yforu ni fuaswn yn ei derbyn." Ond ai nid doeth fyddai gyrru Dyfed i'r Parliament," holai Sarnicol. Y mae e wedi bod yn son ar hyd y blynyddoedd am Reform Bill yr Orsedd, ond mae hwnnw, fel Bill yr Eglwys, heb ddod yn ddeddf eto." Na gobaith am gael y naill na'r llall i fotwm byth," chwarddai Marchant, yn wawdus yng ngwyneb Machreth. Na hidiweh am bethau henafol yr Orsedd, a rhyw ofergoeledd felly," ebai John Hugh, "ond 'dewch i ni gael pender- fynu pwy sydd i gael eistedd yn y Senedd dros Sir Feirionydd." Mae Silyn a fi wedi bod yn siarad am y lie," addefai Norick, gan chwythu ei gwmwl mwg o'i bibell Sosialyddol, "ond rwyn ofni fod Haydn yn ormod o ddyn i ni." Impossible," llefai John Hugh, yn sarug. Beth ? Silyn yn amhosibl," taranai Norick. "No, no, my dear boy," ebai John Hugh, yn dyner, mae Silyn yn eithaf da, ond beth am ei ddaliadau Sosialyddol ? Gwel- wch fel y mae Grayson wedi cawleiddio'r cyfan, a byddai cael Silyn eto o Gymru i'w gicio dros y terfynau yn ddigon i yrru George ac Asquith yn hanner gwallgof." Oad beth am Finsent," meddai John Hinds. Un o foys Trawsfynydd, Sir Feirionydd, yw efe, a gwr a wyr fwy am waith y Senedd na chi, boys, bob copa wall- tog o honoch chi-yn ogystal a chithe sydd heb wallt," ychwanegai, gan droi at John Hugh a Morus Glaslyn-a chwarddodd pawb yn hapus ar ben yr ergyd hwn. Ac ar ol siarad am beth amser deuwyd i'r penderfyniad i ddanfon Finsent at bobl Meirionydd i ddweyd fod Cymry Llundain wedi ei gymeradwyo yn galonog. Ac fe wyr pobl gall Meirion mai yr hyn a gymeradwya Cymry Llundain heddyw a gyflawnir gan Gymru yforu, ac fel rheol mae'r gwaith yn troi yn llwyddiant perffaith. Felly, three cheers i Mr. Vincent Evans, A.S. gwaeddai Norick. Ac yn swn y dymuniadau hapus hyn aeth pawb adref gan deimlo fod gwaith pwysig wedi ei gyflawni. Ap SHON.