Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. CYNGERDD.-Nos Iau nesaf cynhelir y cyngerdd blynyddol ynglyn a chapel Moor- fields. Gwelir oddiwrth restr y cantorion fod y talentau goreu wedi eu sicrhau am y noson. ———- CYFARFODYDD MAL-Mae swn yr haf ger- 11aw, ac mae cyfarfodydd Mai mewn 11awn hwyl. Yn y byd Cymreig dechreuir y mis gyda chyfarfodydd pregethu ar y Sul cyntaf —sef Mai 2ail-yng Nghapel Moorfields," Leonard Street, City Road, lie y gwasan- aethir gan yr Athro J. J. Evans, M.A., Bangor, a Mr. T. Huws Davies. Yn Radnor Street, Chelsea, lie y ceir clywed y Parchn. Peter Price a W. J. Nicholson; yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, lie y gwasanaethir gan y Parch. James Davies, Lerpwl. YR ATHRO J. T. EVANS.-Nid yn ami y ceir clywed y gwr ieuanc hwn yn Llundain, a da gennym weled fod y cyfeillion yn Moorfields wedi ei sicrhau i'w cyfarfod- ydd blynyddol. Ystyrir ef yn un o ddoniau mwyaf gobeithiol sydd gan y Bedyddwyr, a sicr y bydd yn llawen gan ei hen gydnabod yn Llundain gael y cyfleustra hwn i'w glywed eto. ———— OANU CORAWL.-Caed cyngerdd rhagorol yn St. James' Hall nos Fercher ddiweddaf gan y London Men's Choral Society," dan arweiniad Mr. Maengwyn Davies. Daeth cynulliad lliosog ynghyd, a chynorthwywyd y cor gan yr unawdwyr canlynol:—Miss Violet Ludlow, Miss Helen Blain, Miss Marguerite Loriot (y crwth), Mr. Gwynne Davies, a Mr. Edwin J. Evans, i'r rhai y rhodd- wyd derbyniad calonog iawn. Y mae Mr. Davies wedi llwyddo i gael cor rhagorol o leiswyr, a diau y ceir ei glywed yn ami ym mhrif gynulliadau y byd Seisnig. YR UNDEBWYR CYMREIG.-Mae'r Ceid- wadwyr a'r Undebwyr Cymreig yn par- hau i gynnal ciniawau blynyddol yn Llun- dain, ac er mwyn dangos nad oeddent yn malio botwm am waith y Weinyddiaeth yn dwyn Mesur Datgysylltiad i'r Senedd, cyn- haliasant eu gwledd flynyddol yn West- minster Palace Hotel nos Fercher ddiweddaf, tan lywyddiaeth Arglwydd Kenyon. Bu yno gryn siarad ar ol y wledd, ac i godi'r hwyl Gymreig ymhlith yr aelodau, daeth nifer o gantorion i roddi hen alawon Cymreig iddynt. Trodd y eyfan yn llwyddiant yn ol barn vr aelodau. ———— CAMBRIAN CHORAL SOCIETY." Rhoddir perfformiad o'r May Queen gan gor Mr. T. Vincent Davies yn ei gyngerdd yn y Queen's Hall, Mai y 4ydd. Y mae y gwaith hwn yn un o'r cantawdau mwyaf clasurol a phrydferth. Cyfansoddwyd ef ar gyfer gwyl gerddorol Leeds yn 1858, gan Syr William Sterndale Bennett, un o brif gerddorion Lloegr. Y mwyaf, feallai, wedi Purcell. CAN A CHNVARE.-Rhoddodd hyrwyddwyr y Cricket Club," ynglyn ag eglwys y Tabernacl gyngerdd campus nos Sadwrn ddiweddaf i ddechreu eu tymor chware, a daeth cynulliad boddhaol i roddi cychwyn i'r gwaith. Mae'r clwb wedi sicrhau cae addas yn ardal Cricklewood, a bydd yr aelodau yno bob prydnawn Sadwrn drwy yr haf. Ceir y manylion ond gohebu a'r ysgrifen- nydd, Mr. C. J. Evans, 20, Canonbury Grove, N. Yn y cyngerdd llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. Edward Owen-un o gefnogwyr goreu y mudiad-a chaed caneuon gan Miss Mary Davies, Mri. J. W. Pugh, D. Walters, a'r cantor poblogaidd, Mr. Evan Felix-" Caruso'r Clwb" ys dywedai Mr. Edward Owen am dano. Caed detholiadau ar y berdoneg gan Mr. D. Richards, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant mawr.
Y GOG.
Y GOG. Gwcw, gwcw, gwcw, gwcw, Clywch y beraidd hyfryd sain, Ar y fedwen werddlas acw Sydd wrth droed y lasfron gain. Lion edmyga dymor gwanwyn Ieuanc flwyddyn ar ei sedd, Mewn awelon, iachus, hyfwyn, Pur ac addfwyn-llawn o hedd. Gwcw, gwcw, gwcw, gwcw,. Dyr ar glust y boreu gwyn, Uwch murmuron cornant hoew Ar ei thaith i fynwes glyn. Lion yw'r nodau, per eu miwsig Dan belydrau haul y dydd, Diolch i ti Gog garedig Am adlonijcalon brudd. Gwcw, gwcw, gwcw, gwcw, Myn fy awen lunio cerdd, Dynwareda'th acen groew Yn y loew goedwig werdd. Hawdd yw canu yn dy gwmni- Hawdd yw gwenu bob yn ail, Tra chwareua'r awel heini' Alaw dlos ar dannau'r dail. Harrow. LLINOS WYRE.
Ar Ben y Wyddfa.
Ar Ben y Wyddfa. Y dyddiau hyn mae dynion ar waith yn clirio yr eira allan o'r agorfeydd (cuttings) sydd ar linell yr Wyddfa. Bu Mr. Owen, gorsaf-feistr, ar ei chopa uchaf y dydd o'r blaen. Yr oedd y tai wedi cadw yn dda rhag eael eu dinystrio gan y gwyntoedd mawrion. Yr oedd ceunen o rew drostynt. Yr oedd yr agorfa ger Clogwyn Coch yn llawn o eira, yr hwn a fesura tua ugain llath o hyd, wrth ddeg troedfedd o ddyfnder, ac un arall tebyg iddo yn uwchi fyny wedi ei lanw hefyd, tra yr oedd llechwedd Clogwyn Coch bron ar ei hyd yn llathen o drwch. Mae y gwlaw diweddar wedi bod yn gyn- northwy mawr er ei symud ymaith. Dywedodd Mr. Owen mai yr hyn a'i syn- odd pan ar ei chopa oedd gweled dwy ddafad yno. Gwyr pawb fu ar ei phen uchaf nad oes yno flewyn i'w gael yn yr haf rhagor y gauaf. Dywedodd hefyd y byddai dwy ddafad yn arfer bod ar ei chopa yn yr haf, a'u bod yn berffaith ddofion. Aent i'r tai a chymerent damaid o fara o law y dieithriaid, ac os gwelent rai yn bwyta oddeutu y twr. elent atynt a bwytaent yr hyn a gaent Tybiai ef mai yr un ddwy oeddynt, ond ni allai sicrhau.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Gan fod yr Eisteddfod yn agoshau mae'r beirdd yn dechreu ymysgwyd. Daeth amryw o'r hil i'r cyn- ulliad wytbnosol, ac edrychai'r dorf megys pe yn disgwyl awdlau hirion. Ond cyn i'r Gol. gael amser i wneud y cyhoeddiadau arferol wele'r Llinos yn neidio i ben y bwrdd ac yn hawlio gwrandawiad. Rwy am ddysgu i chi boys sut i ganu pan fydd yr Orsedd yn Hyde Park. Dyma i chi engraifft o'r modd y cenais i yn Eisteddfod Dewi Sant ar LIun y Pasc." Ac yna aeth ymlaen i adrodd a ganlyn ynghanol taranau o gymeradwyaeth- ANERCHIAD I Eisteddfod Eglwys Dewi Sant, Llun y Pasc, Ebrill 12ed, 1909. 0 fewn Eisteddfod Dewi Sant Rhaid taro'r tant Cymreigiol, I foddio'r gwr, y wraig a'r plant, Hyn yw fy chwant awenol. Ar ol y tê a'r bara brith Cewch drwy fy llith eich lloni, Fel teg rosynau dan y gwlith Ar seddau syth yn gwenu. Pob peth oedd drefnus yn ei le, A'r llestri te yn tincian. Tra meinwen dlos a'i ffydd yn gre' Mewn ne' yn berwi Morgan. Mae swyn i wraig yn suad hwn, Ysgafna bwn ei chalon Wrth yfed te ymgilia'n grwn,— Da feddyg, gwn, i gleifion. Er fod y LIew" o fewn y lie Ca'dd drwy y te, 'i wareiddio, Hoff wron derch, a'i serch yn gre' 0 fewn y dre'n preswylio. Er myn'd yn hên, mae 'i wen i fardd Fel gardd yn llawn o flodau, Ei fywyd gwyn o'i ol a chwardd Ar derfyn hardd ei lwybrau. Datblygu talent, can a lien, Ac awen, wna'r Eisteddfod Ca'r byd drwy hon weld synwyr pen Mewn Eden ddi-anghydfod Os cregyn fydd yn sach y brawd Ni ddychwel blawd o honi, Bydd ef fel asyn ar ei rawd Mewn gwawd-ni wna ddaioni. 0 fewn y gadair brydferth hon Mor lion yw ein Cadeirydd, Dihafal hedd fel esmwyth don A wna ei fron yn ddedwydd. Mwynha ei hun yn Dewi Sant Ymysg y plant Cymreigiol, Ac iddo ef y rhydd y tant Ei foliant awenyddol. Harrow. LLINOS WYRE. Hawyr," gwaeddai Eifionydd o'r gongl bellaf, "a feiddia un bardd anerch yr Orsedd ond mewn cyng- hanedd ? Paham lai," oedd ateb parod y Llinos. Wel, fe gaiff Dyfed ddweyd y drefn wrthych, frawd, pan ddaw'r Wyl i Hyde Park." Son am yr Wyl," ebai D. R. Hughes, mae'n weddus coffau y beirdd a phawb ein bod ni yn cau rhestr y cystadleuwyr ddechreu Mai felly, os oes rhai o honoch am gymeryd rhan yn y gwaith, gyrrwch eich henwau ar unwaith er mwyn eu gosod vn v rhae'len." J A'c Iluniau, hefyd, er mwyn harddu'r llyfr," ebai Risiart Ystwyth, yn wawdlyd 'Nawr dim rhagor o bethau Eisteddfodol heno," llefai'r Gol., ac aeth popeth ymlaen yn hwylus wedyn.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. CYHOEDDWYR YR YMLADDWYR. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. SYR,—Gwelaf oddiwrth eich colofnau fod pedwar pregethwr Ymneilltuol wedi addaw dweyd gair o blaid yr Ymladdwyr. Y pedwar ydynt Parchn. T. C. Williams, R. E. Morris, D. Hoskins, a D. W. Howell. Nis gwn ai y Queensbury rules ai rhyw rai ereill, y maent yn ei gefnogi. Yngwlad Groeg, pan fyddai dyn yn wael, arferid myned ag areithydd i'w gymell i gymeryd y dogn aflas. Y mae rhai o'n pregethwyr wedi gwneud gwaith rhagorol yn y cyfeiriad hwn i feddyginiaethu ag sydd wedi dod a lies anrhaethadwy i filoedd o bobl, ac yn enwedig i bocedau y perchenogion. Yr oedd yr apostolion yn meddu y gallu i iachau yn uniongyrchol, ond nis gall eu holynwyr ond argymell nwyddau pobl ereill. Dywedai yr Athraw Mawr ei fod wedi gorchfygu y byd. Nid yw gweinidogion ein hoes ni yn dweyd fod Efengyl cariad mor beryglus a hynny, ond gallent argymell, meddent hwy, beirniannau a wnant orchfygu y byd ond cael digon o honynt. Os nad oes mwyach rym yn Efengyl Cariad, y mae grym yn Efengyl y Gwn. A rhag ein bod heb ddim, y maent yn argymell y diweddaf, fel mai os methiant fydd y cyntaf, peth da yw cael dwy saeth i'r bwa. Ond yn fy myw nis gallaf beidio edmygu yr Apostolion am fod ganddynt gred yn eu nwyddau eu hunain. Yr eiddoch, SYLWEDYDD.
Yn Well na'r Tad !
Yn Well na'r Tad Adroddwyd ystori ddyddorol y dydd o'r blaen gan Mr. Lloyd George wrth ffrynd iddo. Mae mab hynaf y Canghellydd yn awr yn efrydydd yng Nghaergrawnt, a chymer ran flaenllaw yn nygiad ymlaen y gwasanaeth crefyddol Oymreig a gynhelir yno ar y Sul. Anfonodd diaconiaid eglwys fechan i'r Bedyddwyr ychydig allan o Caergrawnt wahoddiad i'r efrydydd ieuanc, oddiar ym- deimlad o edmygedd at ei dad, i ddod i ymweled a hwy. Cytunodd Lloyd George ieuanc i fyned, gan gredu na byddai raid iddo ond rhoddi anerchiad byr. Mawr oedd ei ddychryn pan gyrhaeddodd y pentref i ddarllen yr hysbysiad y byddai "Mr. Lloyd George (ieu.) yn pregethu." Yr hyn ddigwyddodd a ddisgrifir yn ei adroddiad ei hun i'w dad :—" Yr oedd yn rhy hwyr i gilio yn ol. Gwnes yr hyn y bu- asech chwi wedi ei wneud gwynebais yr amgylchiadau. Aethum i'r pulpud, dewisais destyn o'r Epistol at y Rhufeiniaid, a phre- gethais am hanner awr." Pan ddywedodd y ffrynd wrth y Canghell- ydd fod yr amgylchiad yn brawf fod ei fab yn "IIathen o'r un brethyn," atebodd, "Mae'n well na'.r hen frethyn. Ni fedrwn i wneud peth fel yna yn ei oed ef."