Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cleber o'r Clwb.

News
Cite
Share

Cleber o'r Clwb. 'Doedd ond rialtwch a chan i'w glywed ar bob llaw nos Lun pan aethum i'r clwb. Y Sadwrn blaenorol 'roeddwn wedi dychwelyd o wlad yr haf, a phan droais i mewn i'r clwb, gan feddwl cael ymgom ddifyr a rhai o'r hen lanciau, wele yr oedd pob ystafell yn llawn, a gwedd pob un o'r rhai oedd yno yn tystio fod noson hwyliog i gymeryd lie. Y cyntaf i'm croesawu oedd ysgrifennydd y clwb, Capten Jenkins. Halo," gwaeddai, ashore once more ? ac yna gwahoddodd fi i ymuno a'r cwmni er rhoddi ciniaw i'r Capten John Pritchard, llywydd enwog y Hong Mauretania, y llestr hynod yna sy'n teithio yn ol a blaen o Lerpwl i New York mewn rhyw bedwar riiwrnod 'Dwy i ddim yn sicr o'r amser mae'n gymeryd i hwylio i New York, ond yr wyf yn eithaf sicr pe bae'r Capten hwn wedi llwyddo i wneud y daith o fewn pedwar awr ar hugain na fyddai ei groesaw gan wyr y clwb yr un mymryn yn fwy pybyr. Llywyddwyd y wledd gan Mr. Ellis J. Griffiths, yr aelod tros Fon, ac un o'r boys mwyaf talentog sydd gennym yn Nhy'r Cyffredin, ond mae'n debyg nad yw yn cael ei haeddiant yno am ei fod yn beirniadu gormod ar wendidau ei blaid, yn hytrach na cheisio manteisio arnynt a dringo i safle uchel. Beth bynnag am hynny yr oedd yn ei hwyliau mwyaf doniol heno, a rhoddodd air canmoliaethus i'r Capten oedd yn arwr y wledd am y noson. Ni honnai y Capten fod yn rhyw lawer o siaradwr, ac addefai fod yn llawer hawddach ganddo lywio y llong fwyaf trwy greigleoedd yn y mor garwaf na cheisio gwneud araith ger bron lot o wyr talen tog fel oedd yn y Clwb. Ar yr un pryd 'roedd yn llawen ganddo am y croesaw, a diolchai yn gynnes am yr anrhydedd oeddent wedi osod arno. Mr. John Hinds oedd i areithio ar ran llwyddiant y Clwb, a phan fo John yn gwneud hynny, y mae yn peri i mi deimlo yn hapus fod clwb wedi ei sefydlu, pe ond er mwyn rhoddi cyfle iddo fyned i'r hen hwyl Gymreig. Mae'n hyawdl ac yn hapus bob tro, a'r syndod yw, fod mor lleied o wyr mawr y Cymry yma heb ymuno a'r sefydliad ar ol clywed John yn traethu ar ei rinweddau. Mr. Woodward Owen fu'n cynnyg iechyd da i'r cadeirydd, ac atebodd Mr. Ellis Griffith yn hapus ddigoin, a diweddwyd noson ddifyr tros ben yn swn can gan Mri. Tim Evans, Edwin Evans, ac Osmond Jones. Deallais mai ar y funud olaf y gallodd y Capten gadw ei gyhoeddiad. Yr oedd wedi addaw dod i Lundain rhyw bythefnos yn flaenorol, ond daeth rhwystrau ar y ffordd, a bu raid gyrru ar ddiwedd yr wythnos na allai fod yn bresennol. Ar ol i'r ysgrifen- nydd gyhoeddi fod y cinio wedi ei ohirio, wele air arall yn dod gan ddweyd y byddai yma ar nos Lun. 0 dan y fath amgylchiad mae Captain Jenkins, o'r clwb, i'w longyf- arch ar y fath gynulliad-dros hanner cant mewn nifer-a hynny megis ar ychydig oriau o rybudd. Yr oedd Capten Pritchard yn teimlo yn falch iawn o'r croeso, ac aeth yn ol i Lerpwl drannoeth gyda syniad uchel iawn am aelodau caredig y Clwb Cymreig. Ap SHON.

Am Gymry Llundain.

A BYD Y GAN.