Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
THE CENTRAL t- INSURANCE COMPANY, LIMITED. GUARANTEED BY THE Etfrerpoal aittr Hanfton aub dlobe Insurance Qta. Assets exceed = = = £ 11,000,000. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS, &c. I 1 KINDLY 1 sPecial attention is called to the Company's FORE- 1 MOST Personal Accident & Disease Policy, which WRITE FOR I provides for Free Medical Attendance of Assured's nan^nr^Tnc. 1 own Doctor, in addition to the usual Compensation PROSPECTUS j for Accidents and Diseases. Branch Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for ————— F I R E INSURANCE. Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager & Secretary. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. 0 ae of the Constituent Colleges of the University of Wales. PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). STUDENTS are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910. with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis. tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. Warden' Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DA VIES, M.A., Registrar. Fullwood's Dairy Agency, 156, STRAND, LONDON. W,C. ESTABLISHED OVER 70 YEARS. TELEPHONE 5790 GERRARD. Ilford-114 gallons daily; trial; bargain 2750 | Brighton—160 gallons daily old estab. £ 1800 Dulwich-40 gls. daily 612 shop 2 prams 2150 Willesden Green—16 gis. 4d.; 916 shop; pram 2200 Houtslow—46 gallons daily 2 rounds 2450 N.W.-66 gallons daily; 625 shop P,650 Gower Street. nr.—30 gls. daily; 212 shop 9360 Worthing-32 gallons daily nice shop 2350 S.W.-24 gallons daily P,20 shop £ 190 Walthamstow-28 gls. daily old estab. 2250 Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig.
YR ERLIDWYR GWLEIDYDDOL.
YR ERLIDWYR GWLEIDYDDOL. Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan y bu raid i Mr. D. Lloyd George ofyn am nodded Llys Cyfraith rhag ei erlidwyr, a gorfu i'r troseddwr y pryd hwnnw dalu yn hallt am ei ensyniadau maleisus. Wedi methu a damnio ei gymeriad moesol wele adran arall o'i wrthwynebwyr yn awr yn ceisio darostwng ei glod gwleidyddol drwy ei bardduo fel gelyn y deyrnas hon gan honni mai i'w ymyriadau ef y bu raid i'r Weinyddiaeth gwtogi ar y cynllun oedd ganddi mewn golwg ynglyn ag adeiladu rhagor o longau rhyfel. Nid oes eisieu dweyd mai ffug ac anwir- eddus hollol yw'r chwedl hon eto. 0 fewn y Weinyddiaeth does yr un aelod yn fwy selog dros les ac urddas y Deyrnas na'r aelod tros Gaernarfon. Gwir ei fod am sicrhau yr amddiffyniad goreu i'r deyrnas am y pris mwyaf rhesymol; ac yn sicr y mae i'w ganmol am gwtogi llawer o'r gwastraff pechadurus sydd ynglyn a'r Llynges yn ogystal ag yn y Fyddin ei hun. Ei waith cyntaf ef yw gofalu ein bod i gael y gwerth priodol am yr arian a roddir i'r gwahanol swyddfeydd, a chan fod ami i fudiad gwas- traffus wedi ei atal ganddo eisoes, y mae rhai o wyr blaenllaw y blaid yn manteisio ar y cynildeb drwy honni mai ar gost diogel- weh y wlad yr arbedir y cyfan Y ffaith yw, mae adran gadarn o erlidwyr y Canghellwr ymysg y blaid Doriaidd ar hyn o bryd. Maent wedi tynghedu i'w ddarostwng, ac ni waeth ganddynt trwy ba ddichell y llwyddant yn eu hamcanion. Mae gweled Cymro gwerinol wedi dringo i'r fath safle drwy ei dalentau disglair ac heb y rhithyn lleiaf o ddylanwad teuluol yn ormod o dreth i feddwl ac ysbryd balch y Sais. A dyna sydd wrth wraidd y cynhyrfiad presen- nol i'w erbyn. Ond nid gwr i'w frawychu a rhith gyhuddiadau fel hyn yw Mr. Lloyd George. Aeth ef drwy wrthwynebiad llawer tostach pan yn pleidio achos y Bauwyr gynt, ac mae cofio am ei lwyddiant y pryd hwnnw, a gwybod fel y gwireddwyd ei holl ofnau yn gwneud plaid rhyfel yn fwy llidiog fyth tuag ato. Eithr megys y daeth yn fuddug- oliaethus drwy dan gwrthwynebiad rhyfel y Transvaal, daw eto o dwrf tonnau cynhyrfus a rhu gwyr y Llynges, gan fwynhau ymddir- iedaeth llwyr ei blaid a'i genedl ei hun.
Datgysylltiad
Datgysylltiad Dyna oedd cri y Gynhadledd fawr gaed yng Nghaerdydd un diwrnod yr wythnos ddiweddaf. Amcan y cynulliad oedd creu math o galondid i'r Llywodraeth yn ei gwaith yn trefnu gogyfer a mesur Datgys- ylltiad, a chwythu bygythion os digwyddai iddi laesu dwylaw ar y funud olaf. Aeth pump o aelodau Seneddol i'r Gynhadledd, a thraddodwyd areithiau grymus gan yr oil o honynt; rhai ar gwestiwn Datgysylltiad, a'r lleill ar ddifrawder y blaid Gymreig yn y Senedd. Pasiwyd nifer o benderfyniadau, a diau y ca'r oil ystyriaeth lwyraf y Weinydd- iaeth pan ddygir pwnc yr Eglwys o flaen eu hystyriaeth. Parch. Evan Jones Mae adran o'r Wasg Gymreig wedi bod yn gwaeddi am i'r Brifysgol gyflwyno gradd anrhydeddus i'r llenor gwych hwn o Gaer- narfon. Anffawd prifysgol Cymru ydyw'r ffaith mai Saeson yw'r mwyafrif o'r rheolwyr, ac o ganlyniad, pan enwir rhyw Gymro fel un haeddiannol o radd anrhydeddus, mae agos yr oil o'r aelodau-y rhai a ffurfiant Senedd y Brifysgol-mewn anwybodaeth hollol am ei dylanwad a'i waith. Nid oes neb wedi gweithio mwy tros addysg a rhyddid, gwladol a chrefyddol, a'r hen ymladdwr o Gaernarfon a byddai'n goron deilwng i'w lafur, i'r Brifysgol gydnabod hynny trwy gyflwyno iddo ei theyrnged o barch a chyflwyno y gradd o D.Litt. ar yr hen bererin enwog hwn. Graddau'r Papur Newydd Er fod y Parch. Evan Jones yn cyflawn haeddu unrhyw anrhydedd a all y Brifysgol osod arno, y mae'n resyn o beth mai'r Wasg yng Nghymru sy'n gorfod dwyn y pethau hyn i sylw'r awdurdodau. Cofus gennym i wr dylanwadol arall-rai blynyddau yn ol— gael adran o'r Wasg Gymreig i'w gefnogi, a'r canlyniad fu i Senedd y Brifysgol gyf- Iwyno'r gradd a geisiwyd iddo. Mae perygl yn y cynllun hwn, oherwydd gall pob gwr cyhoeddus sicrhau rhyw adran o'r Wasg i gefnogi ei hawliau, a buan yr elai graddau'r Brifysgol yn ddiwerth oa mai yn ol cyfar- wyddyd y papurau newydd y gweithreda Senedd y Brifysgol. Yr unig fEordd i sicrhau diwygiad yw drwy i ni gael cynllun addysg trwyadl i Gymru, a Chymry yn brif reolwyr arno, o'r ysgol elfenol isaf hyd at y Brif- ysgol ei hun.