Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

" SOSIALAETH YNG NGOLEUNI'R…

News
Cite
Share

SOSIALAETH YNG NGOLEUNI'R BEIBL." Bwganod mawr y wlad hon heddyw ydyw'r Sosialiaid a'r German iaid. Mae enwi'r naill neu'r Hall yn ddigon i ddychrynu'r Sais arianog i waelodion ei esgidiau. Mae'r wlad wedi cael prawf ar y bwgan olaf yn ystod yr wythnos sydd newydd fyned heibio, ac mae eto heb sobri a dod i'w iawn bwyll gan ofn gweled rhyw fil o longau rhyfel yn rhedeg i fyny ar hyd ein hafonydd by chain. Er adeg yr etholiad cyffredinol mae'r Sosial- ydd wedi bod yn fwgan lied effeithiol hefyd ymliob etholiad leol, a gosodir pob bai cenedl- aethol ar ei ysgwyddau ef. Rhywfodd neu gilydd, nid yw eto wedi llwyddo i ddanfon y Cymro cyffredinol i unrhyw berlewyg ofnus, nac wedi achosi iddo golli fawr o gysgu. Yr unig ddosbarth sydd wedi ceiaio gwawdio tipyn arno yw'r Rhyddfrydwyr parchus a'r pregethwr gwleidyddol, tra y mae'r squire a'r Saeson anwar ereill sydd yn ein mysg yn hollol fel eu cymrodyr yn Lloegr yn myned fel draenogod ar wrych pan y sonir y fath enw wrthynt. Ond waeth hynny na rhagor, myned ar gynnydd mae Sosialaeth yng Nghymru. Yn ardal y glofeydd-drwy yr holl Ddeheubarth —mae'r genadwri newydd hon yn ennill tir yn gyflym, ac yn awr wele'r Gogledd yn canlyn o birbell gan ddechieu cyltoeddi llyfrau Cymreig yn ymdrin ag egwyddorion sylfaenol Sosialaeth. Mae pamphledyn bychan o dan y penawd uchod newydd wueud ei ymddangosiad tan nawdd y Fabian Society, a'r awdwr yw Mr. J. R. Jones, Caernarfon. Ymdrin a'r pwnc o safle dysgeidiaeth y Beibl mae Mr. Jones, a cheir ganddo lawer o brofion mai'r Sosialwyr goreu a welodd y byd oedd Iesu Grist a'i ddisgyblion. Dyma ddywed :— Y mae Cristionogaeth a Sosialaeth yn ymestyn at Gymdeithas Berffaith-at Deyrn- as Nefoedd. Gellir dweyd fod Cristionog- aeth yn ymwneud a Theyrnas, uwch lawer nag y dyhea Sosialaeth am dani. Gall fod cymundeb yr enaid, teyrnasiad gras, teyrn- asiad ysbrydol sydd yn anrhaethol uwch na dim a ellir ei gyfyngu o fewn terfynau Sosialaeth, ac nad oes ond ir credinwyr fynedfa i hon, a hynny trwy ail-enedigaeth. Gwir. Yn y bennod gyntaf o Efengyl loan, modd bynnag, darllenwn fod Crist, y Gair, yn llewyrchu yn y tywyllwch a'r tywyll- wch nid oedd yn ei amgyffred.' Ac eto yr oedd Ef yn oleuni dynion,' er nad oeddynt hwy yn amgyffred hynny. Y mae y Gair, gan hynny, yn y byd yn ogystal ag yn yr eglwys, yn nheyrnas natur a theyrnas gras, ym mywyd daearol y byd hwn yn ogystal ag ym mywyd ysbrydol crefydd. Nid oedd Ef yn llai yno am nad oedd y byd yn ei am- gyffred. Pa mor wahanedig bynnag y byddo yr eglwys oddiwrth y byd, yr un yw Pen unoliaeth yr eglwys a Phen unoliaeth y byd hwn. Gall yr eglwys fod ar wahan i'r wladwriaeth ond nid yn ddiberthynas a hi; gan mai yr un yw Pen y ddau. Y mae gan yr eglwys, yn ddiau, ei bywyd cysegredig, cyfrin, mewn ymneilltuaetb o'r byd, ond y mae iddi hefyd ei bywyd fel dinesydd, ac ni all ei osgoi. Cawn gyfeiriadau a chrybwylliadau trwy yr ysgrythyr am ddyfodiad y Cyfiawn.' Ond y mae dyfodiad Crist yn golygu dyfod- iad Teyrnas-sefyllfa o gymdeitbas brydferth a hapus. Yr oedd y Graig ysbrydol,' sef Crist, yn canlyn trwy daith yr anialwch. Ond yr oedd teml pob oes yn myned yn anigonol i amlygu y Dwyfol. Dymchwel a wnai teml ar ol teml." A Sosialaeth yn unig, yn ol dysgeidiaeth Mr. Joces, sydd i sefydlu'r wir Deyrnas ar y ddaear ac i ddwyn hawddfyd ar y bobl fel y dysgir ni gan y Beibl. Nodwedd arbennig dysgeidiaeth yr lesu yw gwerth cymdeithas cymdeithas yn gorff sydd yn rhoddi posibilrwydd llawnder bod- olaeth i ddynion. Ac er dyddiau yr lesu, nid oes dim wedi nodweddu y byd yn fwy na'r graddol gynnydd a amlyga dynoliaeth yn y gallu i gyd-gynnull a chyd-weithredu. Y mae nifer yr Associations ('Sassiynau) sydd yn bod heddyw yn afrifed, ac nid oes neb a wyr beth yw dyfodol a phosibilrwydd y cyd- weithrediad dynol. Teyrnas yw. Teyrnas Nefoedd ar y ddaear. Ymestyn y cydweith- rediad, nid at bethau ysbrydol a meddyliol yn unig, ond at holl fywyd dyn. Y mae 'beth a fwytawn, beth a yfwn, âpha beth yr ymddilladwn ? yn rhan o honi, canys yn ol yr lesu, trwy Deyrnas Nefoedd y ceir hwynt. Eithr yn gyntaf ceisiwch Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.' Dyma egwyddor y Ddwyfollywodraeth (Theocracy) Iuddewig. Yn ei genedl y cai yr Iddew ei fywyd; ar wahan, syrthiai i ddiddymdra. Ei genedl oedd ei gartref, a'i fyd, ei ffon bara yn ogystal a'i fan cyfarfod hebddi nid oedd ond alltud a chorff marw. Condemniai yr lesu, gan hynny, y bywyd personol a'r ymdrech am gyfoeth unigol. Ynfyd oedd y gwr goludog ac yn uffern y codai ei olwg. Yr oedd ymgecru ynghylch cyflog yn dangos fod y llygaid yn ddrwg. Dengys dameg y Llafur- wr mai yr unig gyflog ddylai fod i bawb. Y cyflog hwnnw oedd ceiniog. Dyna oedd nid yn unig ewyllys benarglwyddiaethol y gwr o berchen ty, ond dyna oedd yn gyf- iawn. Yr oedd llygaid y grwgnachwyr yn ddrwg am nad allent weled cyfiawnder o safle cymdeithas gwelent ef o safle'r unigol. Eithr nid yn ol gweithredoedd y tAl Duw nac y dylai dynion. Ac nid rhywbeth y gellir ei mesur a'i phwyso yw y geiniog. Y mae ffiniau eiddo yn diflannu i'r Iesu oedd yn gweled y tu draw i orwelau bychain gwyddonau dynol. Cariad yn gwasanaethu cariad yw economeg y Gymdeithas Ber- ffaith." Nid yw'r pamphledyn ond pris ceiniog eto mae'n arwydd o'r amserau fod y fath ddysg yn cael ei Iledaenu yng Nghymru.

-----_---YN Y NOS.

[No title]

Advertising