Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. COR YR EISTEDDFoD.-Mae'r cor mawr Cymreig sydd yn paratoi gogyfer a'r Eis- teddfod Genedlaethol, tan arweiniad Mr. Merlin Morgan, wedi cael cyfle, bellach, i ddangos ei nerth. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf rhoddwyd cyngerdd uwchraddol ganddo yn Queen's Hall, a chafodd ei edmygwyr, yn ogystal a'i feirniaid, fantais i ffurfio barn am dano. Addefir gan bawb fod yma ddefnydd rhagorol yn y cor. Mae'r lleisiau yn hynod bur, ac os llwydda'r arweinydd i gael digon o ymarfer, a cbryn dipyn o galedwaith ar ran y gwahanol aelod- au y gall sefydlu cor teilwng o honom fel -cenedl yn Llundain. 0 ran nifer y mae yn ychydig dros dri chant, ac mae'r gwahanol rannau yn hynod o dda. Y bass yw'r adran gryfaf o gryn dipyn, a bydd eisieu ychwan- egu llawer ar y tenors cyn cael y cydbwysedd dyladwy mewn cor mor liosog. Ac os gellir, hefyd, ychwanegu at nifer y sopranos, ni fyddai hynny o un niwed. Y peth mawr yn awr yw cael undeb priodol cydrhwng y gwa- hanol aelodau a chreu ynddynt ddigon o frwdfrydedd i gadw yn gyson gyda'r ymar- feriadau. Y CYNGERDD.-Amean pennaf y cyngerdd nos Iau oedd rhoddi mantais i'r cor i gael ychydig ymarfer cyhoeddus. Priodol oedd dewis Queen's Hall fel y neuadd i ganu ynddi am mai yno y cynhelir y cyngerddau ar adeg yr Eisteddfod. Profodd y cynulliad yn un hynod o anfoddhaol. Ni chaed yno ond ein pobl ieuainc i gefnogi'r cor. Roedd llu o wyr yr Eisteddfod, a'r rhai a honnant fod yn arweihwyr yn ein cylchoedd Cymreig yn absennol. Pa fodd i gyfrif am hyn ni wyddom, os nad y difrawder arferol ynglyn a phethau arbennig Cymreig. Feallai, hefyd, fod a fynnai'r rhaglen a phrinder y cynulliad. Nid oedd ond ychydig o arben- igrwydd ynglyn a'r holl gyfarfod, a bu raid wrth wasanaeth unawdwyr sydd wedi bod yn agos yn yr o'r oil cyngerddau Cymreig ar hyd y tymor, fel na chaed dim newydd-deb yn hyn o faes. Y COR.-Ond gan mai i wrando'r cor y'n gwahoddwyd yn bennaf rhaid i ni addef ein siomiant na roddwyd arlwy fwy cyfoethog ganddo. Yr oedd yn abl i gyflwyno gweith- iau llawer caletach na'r hyn a roed ganddo, ac 'roedd y syniad o gael cor mawr fel hwn i ganu rhai o hwian-gerddi Cymru yn ddangoseg o ddiffyg chwaeth gerddorol na ellir yn hawdd ei esgusodi. A rhaid addef mai portread cyfEredin a roed ganddynt o'r hen alawon gwerin hyn. Yr oedd Hail bright abode a Thanks be to God yn rhagorol, a chaed prawf drwy y rhai hyn beth allai'r cor wneud. YR UNAWDWYR oeddent Miss Edith Evans, Miss Gwladys Roberts, Mr. Spencer Thomas, a Mr. Ivor Foster-pedwarawd a haeddant bob cefnogaeth. Profodd Mr. Ivor Foster, y nos hon, ei hun yn bencampwr, ac yn ddios efe oedd arwr y cyngerdd. Profodd dewis- iad Miss Evans o'i chan gyntaf Ocean, thou mighty monster," yn ormod baich iddi wneud cyfiawnder a, hi ei hun, ond yn ei halawon yn yr ail ran yr oedd yn canu'n swynol iawn. Roedd yn amlwg fod Miss Gwladys Roberts a Mr. Spencer Thomas yn dioddef tan anwyd, yr olaf yn hynod felly, a thrueni iddo ateb i'r ail-alwad gafodd am ganu Y Ferch o Benderyn." Haeddai gydymdeimlad am ei ymdrechion yn hytrach na threth drwy ganu ychwaneg. Yr offeryn- wyr oeddent Mri. Idris Lewis ar y berdoneg, Mr. David Richards, A.R.C.O., ar yr organ, a chyfeiliwyd yn hynod o gelfgar i'r cor gan Miss Sallie Jenkins a Mr. D. Richards. LLWYDDIANT.—Er i'r cynulliad fod yn fychan, eto deallwn fod elw o tua hanner can punt wedi deilliaw drwyddo. Fel yr hys- byswyd gan Mr. Vincent Evans yn y cyng- erdd, yr amcan pennaf oedd gwneud yr Eisteddfod yn fwy hysbys a gwneud pres. tuag at ei chynnal. Llwyddwyd i ryw fesur gyda'r ddau. Ond rhaid addef i'r rhaglen gael ei llwytho i ormodedd gydag unawd- wyr. Bu hyn yn achlysur i ail-alwadau, a'r canlyniad fu i'r cyngerdd fyned ymlaen am hanner awr yn hwy nag y dylasai. Rhaid wrth well trefniant na hyn os am sicrhau llwyddiant y cyngherddau ym Mehefin. MR. BALFOUR.—Nid yw pawb yn gwybod fod arweinydd yr Wrthblaid yn y Senedd yn gryn dipyn o gantor ei hun, ac yn mwynhau canu corawl bob amser. Pan aed ato i ofyn iddo lywio un o ddyddiau'r Wyl, cydsyniodd gyda pharodrwydd. Ei unig amod oedd y rhoddid eyfle iddo glywed canu corawl Cymreig, a phan ddeallodd mai efe oedd i lywio ar ddydd y corau mawr yr oedd mor hapus a phe wedi llwyddo i guro'r Wein- yddiaeth mewn brwydr etholiadol. # SANTLEY YN GYMRO.—Dywedir ein bod fel cenedl yn barod i hawlio pob cerddor o fri yn Gymro. Nid wyf yn cofio i neb hawlio Syr Charles Santley fel disgynnydd o gyff Cymreig, eto i gyd, addefa ef ei hun hynny yn ei hunangofiant a gyhoeddodd ychydig 9 wythnosau yn ol. Yr oedd un o'i hynafiaid yn rheithor Gwrecsam yn 1630 ac o'r ardal honno yr ymfudodd teulu'r Santleys i ardal Caerlleon, a symudodd rhai o'r teulu yn ddiweddarach i Lerpwl, lie y ganwyd y baritone enwog yn 1834. TELYNORION.—Paham na chlywir y delyn yn fwy ami yn ein cyngerddau Cymreig? Ar un adeg deuai Pencerdd Gwalia i ganu'r delyn yn lied ami yn ein cynulliadau, ond erbyn hyn y mae dyddiau henaint yn ei orfodi i leihau oriau ei lafur, ac ni ellir disgwyl iddo ein gwasanaethu o hyd. Ond pa le mae'r rhai sydd i'w ddilyn ? Beth pe bae Cymdeithas y Oymmrodorion yn annog rhyw delynor ieuanc i ddod i Lundain a'i benodi yn Delynor i'r Gymdeithas. Oni ellid rhoddi cychwyn i'r mudiad yn awr a dwyn yr hen offeryn i fri ym mlwyddyn yr Eisteddfod yn Llundain.

----------MARWOLAETH MR. LEWIS…

[No title]

ATHRODI MR. LLOYD GEORGE.