Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GWYL Y GENEDL.

News
Cite
Share

GWYL Y GENEDL. Daw adroddiadau o bob cyfeiriad am irwdfrydedd y cynulliadau Cymreig yn ystod dathliadau Gwyl Dewi. Ym mhrif drefi Cymru ei hun, fel,yr oedd yn weddus, caed gwleddoedd hynod boblogaidd ac areithiau penigamp ar ein prif nodweddion cenedlaethol. Mae hyn yn arwydd er daioni, ac yn brawf nad yw'r ysbryd cenedl- garol wedi llwyr gilio o'r tir ymhlith y bobl gartref. Ond yn sicr yr agwedd fwyaf gobeithiol yn ein bywyd Cymreig yw'r bri a roed i'r wyl ymysg ein hysgolion gwledig. Mewn ami i ardal bu'r dydd yn cael ei gynnal yn ddydd Gwyl. Rhoddwyd diwr- nod o lawen chwareu i'r plant, ac i blentyn bach mae diwrnod o seibiant oddiwrth lafur ysgol yn gosod rhyw gysegredigrwydd ar y diwrnod ar unwaith, a phery yr amgylchiad yn hir, hir yn y cof. Yn yr ysgolion canol- raddol caed chwareuon cenedlaethol er gosod arbenigrwydd ar Ddygwyl Dewi: drwy hyn dygwyd hen gymeriadau a henhanesion am Gymru Fu yn bortreadau byw ger bron y disgyblion. Yn nhrefi yr athrofeydd a'r prifysgolion gwnaed yr un modd; mewn cyfarfodydd cystadleuol a thrwy wleddoedd cyhoeddus. 0 blith yr holl ddathliadau hyn rhaid rhoddi sylw arbennig i ddathliad Plant Ysgol Llancrwys Yn ol y rhaglen ddaeth i law dyma'r wythfed tro i Gyngerdd Cenedlaethol gael ei gynnal yma ar raddfa eang, a dengys y rhaglen eleni fod yna lafur dirfawr ar ran y trefnwyr ynglyn a'r dathliad. Ardal wledig -anghysbell yw Llancrwys. Saif ynghanol mynydd-diroedd Sir Gaerfyddin, ymhell o swn trystfawr y trens a'r car modur mangre lie nas breuddwydiai neb am beryglon Sais- addoliaeth. Eto i gyd, myn yr ysgolfeistr cenedlgarol-Mr. Dan Jenkins-argraffu ar feddwl y to ieuanc sydd yno fod gwerth arbennig ym mhopeth Cymreig. Llwydda Mr. Jenkins i gael rhaglen newydd bob blwyddyn i'w gyngerdd. Ceir caneuon newydd, darnau newydd i'w hadrodd, hwian gerddi newydd, a chaiff y plant eu dysgu oil gogyfer a'r wyl nodedig hon. Ymhlith ei gynorthwywyr barddonol eleni ceir y beirdd Bethel, J. J. Williams, Eilir, Granellian, Ifano, Gwylfa, ac ereill. Dyma ddywed Ifano am Gymru Heddyw"— I godi'r henwlad yn ei hoi," Yw cri y chwythwr corn Ond ar linellau Seisnig ffol, Serch gwneud yr iaith yn sgorn. Rhyw Gymru feddal, hanner pan, Yw Cymru heddyw'n wir, A Sais yn dduw'n mhob tref a Ilan, A Chymro'n trin ei dir. Cydgan: Ond os daw pawb fel plant Llancrwys I siarad iaith eu mam Yn ysbryd Dewi torrir cwys I gladdu Die a'i gam. 'Does berygl i'r Gymraeg golli ei gwerth a'i dylanwad tra y ceir ysgolfeistr fel Dan Jenkins yn barod i drwytho'r plant a'r ysbryd iaithgarol a chenedlgarol hwn. Dyma'r ffordd mewn gwirionedd i godi'r Hen Wlad yn ei hoi. Yr Hen Frythoniaid Ar nos Fercher yr wythnos ddiweddaf y bu Cymdeithas yr Hen Frythoniaid yn cynnal eu gwledd flynyddol yng ngwesty Holborn eleni. Nid oedd y cynulliad yn lliosog iawn. Gan mai tan nawdd y Gym- deithas hon y rheolir ysgol y merched yn Ashford, yr oedd yn ddyddorol cael peth o hanes y sefydliad, a chael eyfle. unwaith yn rhagor i wrando ar y merched yn canu. Er mai hen waddoliadau a adawyd gan Gymry Llundain i gynorthwyo plant tlodion Cym- reig sy'n cadw yr ysgol i fynd, rhaid addef fod yr ysbryd Cymreig ynglyn a'r rheolaeth. a'r trefniadau wedi cilio bron yn llwyr o'r sefydliad. Mae'n resyn nas gallesid cael ychydig ddiwygiad ynglyn a'r Ysgol fel ag i'w gwneud yn fwy poblogaidd a mwy dylanwadol ymhlith Cymry y genhedlaeth hon. Gwledd Ffrwythau I orffen y dathliadau Llundeinig caed cynulliad cywrain nos Sadwrn ddiweddaf tan nawdd Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl Cymreig King's Cross. Gwledd ffrwythau oedd ar y drefnlen, a'r prif ymwelydd ar yr achlysur oedd Syr S. T. Evans, K.C., y Cyfreithiwr Cyffredinol, a'i briod. Yn lie y gwleddoectd moethus arferol trefnwyd am- rywiaeth o ffrwythau a chan fod y fath newydd-deb ynglyn a'r cyfan priodol fyddai gosod y rhaglen yma- Y FWYDRES. Gelleig Bricyll Ceulfwyd Afalau Ffrwyth y Banwydd Aurafalau Grawnwin Almonau Sychrab Teisenau Diodydd amrywiol. Yr oedd neuadd eang y Tabernacl wedi ei throi yn neuadd o wledd am y noson, a'r byrddau wedi eu hulio i ddau cant o ber- sonau. Llanwyd y lleoedd hyn erbyn wyth SYR S. T. E.VANS, K.C. (Y Cyfreithiwr Cyffredinol). o'r gloch, pryd y cymerodd y llywydd, y Parch. H. Elfed Lewis, y gadair. Gyda'r Parch, a Mrs. Lewis eisteddodd Syr S. T. a Lady Evans, ac yn eu ewrnni oedd y Parchn. Towyn Jones, Mr. a Mrs. Wilfred Rowlands, Mr. a Mrs. W. Glyn Evans, Mr. B. Rees, Mrs. T. J. Eyans, Miss Griffiths, Chelsea Mr. T. E. Morris, LL.M.; Parch. W. Griffith, St. Padarn Mr. Watkin Jones, a'r ysgrifen- nydd gweithgar, Mr. Ben Edwards. Ar y llwyfan roedd cerddorfa Gymreig YI1 canu hen alawon Cymrll yn ystod y wledd, a rhoddasant ddetholiadau rhagorol dros ben. Yr Areithiau Wedi yfed iechyd da'r Brenin," y llwncdestyn cyntaf oedd Coffa Dewi Sant," ar yr hon caed araith gan Mr. T. J. Evans, ac atebwyd mewn arawd edmygol o'r hen Sant gan y Parch. W. Griffith, offeiriad St. Padarn, Holloway, yr hwn a ddywedodd mai nodwedd amlwg yn Dewi oedd ei awydd dros unoli'r genedl, ac mai hon oedd y wers fawr i Gymra heddyw ei dysgu. Ar ol hyn caed arawd ar Cymru a'r Cymry," gan Elfed, yr hwn, yn ei ddull barddonol, a dystiodd fod daear Cymru yn fwy cysegredig ganddo ef na daear un wlad arall. Ac wrth garu daear Cymru yr oedd yn naturiol caru yr hen genedl oedd wedi gwneud enw mor ardderchog iddi ei hun. Syr S. T. Evans Atebwyd ar ran Cymru a'r Cymry," gan y Cyfreithiwr Cyffredinol yn ei ddull Cym- reig hapus. Mae'r testyn, meddai, yn rhannu ei hun yn naturiol i ddau ben-y ddaear a'i phobl. Gwlad fechan oedd Cymru, ond fel popeth bach, roedd yn dlws iawn a gwerthfawr yn ei olwg. Ond os mai bechan ydoedd, credai fel Islwyn, fod iddi bob ceinder is y ne." Yr oedd ef yn caru pob congl o honi-ei bryniau, ei dolydd, a'i nentydd a'i hafonydd. Gwlad ag iddi hanes yw Cymru, ac er mor ragorol ei gorffenol, yr oedd ef yn credu fod ei hoes euraidd eto i ddod. Mae'r cynnydd dirfawr mae wedi wneud ynglyn ag addysg i ddwyn ei ffrwyth yn y man, a gobeithiai weled ddydd gwyn yn ei hanes pryd hynny. Towyn ar yr Eisteddfod Y llwncdestyn nesaf oedd Llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llundain," a chynygiwyd ef mewn araith hyawdl gan y Parch. Towyn Jones. Un o blant goreu'r genedl," meddai, yw'r Eisteddfod, a phan y bo ar ymweliad gyda chwi yn nhir yr estron, byddwch yn dirion o honi a gofelwch na lethir mo honi gan Seisnigeiddrwydd y ddinas. Mae genych chwi ddigon o feirdd yma i ganu ei chlodydd, a diolch fod digon o Gymry glew yma i'w hamddiffyn ymhob cylch. Dymunodd iddi bob llwydd a bri. Atebwyd gan Mr. T. W. Glyn Evans, un o is-ysgrifen- yddion yr Eisteddfod, yr hwn roddodd ychydig o hanes y trefniadau ynglyn a'r Wyl. Diolch Ar derfyn yr areithiau hyawdl hyn rhoddwyd diolch cynnes i Syr S. T. Evans am ei bresenoldeb gan Mr. Evan Griffiths, Chelsea, ac yna caed geiriau edmygol am Elfed gan Syr S. T., a diweddwyd yn swn yr hen alaw Hen Wlad fy Nhadau." Ar yn ail a'r areithiau caed caneuon Cymreig gan Miss Gwladys Davies, Miss Maggie Pierce, Mri. Tim Evans, a Mr. Stanley Davies. Teimlad pawb ydoedd, fod hon yn un o'r dathliadau mwyaf Cymreig a gaed yn y ddinas erioed, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant digymar.

Am Gymry Llundain.