Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

---TALU DYLEDION CAPELAU.

News
Cite
Share

TALU DYLEDION CAPELAU. Dyma fater sydd yn prysur ddyfod i sylw o fewn y cylch Methodistaidd yn Llundain y dyddiau hyn, ac y mae pob arwyddion yn dangos y bydd gwaith mawr wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn o fewn y ddwy flyuedd nesaf. Da iawn gennym groesawu yr ysbryd newydd hwn, ynghyd a'r brwdfrydedd teilwng cysylltiedig ag ef. Y mae dyled drom bob amser, ac ymhob cylch, yn beth profedigaethus iawn, ac nid yn fwy felly mewn unrhyw gylch nag yn y cylch cref- yddol; ond y mae talu dyled bob amser, ac ymhob cylch, yn cynyrchu llawenydd a bywyd, ac yn rhoi calon i bobl weithio. Talu dyledion y capelau, neu o leiaf dalu rhan fawr o ddyledion y capelau, o fewn cylch y Brifddinas, yw gorchwyl Methodist- iaid Llundain ar hyn o bryd ac y mae pob lie i gredu y bydd llwyddiant mawr ar y gwaith. Mae'n hysbys i bawb sydd wedi talu sylw i'r mater, fod y Corff wedi bod yn helaethu ei derfynau, ac yn estyn ei gortynnau, gyda chyflymder mawr yn y blynyddoedd a aethant heibio. Y mae cymdogaethau newyddion wedi eu meddian-u, ac addoldai newyddion, ar draul fawr, wedi eu gosod i fyny at wasanaeth y Cymry yn y lieoedd hynny. Y mae y rhan fwyaf o'r hen gapelau hefyd wedi eu helaethu neu eu hadnewyddu. Y canlyniad yw fod y ddyled ar addoldai y Cyfundeb yn Llundain, ar hyn o bryd, ynghylch deugain mil o bunnau. Mae y swm yn fawr; ond cofier mai prawf o fywyd a nerth ydyw, ac nid arwydd o wendid a methiant. Nid yw'r ddyled ond canlyniad naturiol y gwaith mawr sydd wedi ei gyf- lawni yn ystod yr 20 mlynedd diweddaf ynglyn ag helaethu'r terfynau. Yr ydym yn falch o'r anturiaethau ffyddiog a wnaed yn y gorffenol; ac yn llawenhau wrth feddwl am y ddarpariaeth sydd gennym er galluogi Cymry Llundain i addoli Duw yn yr iaith Gymraeg bron ymhob adran o'r Brifddinas. Y mae'r ymgyrch anturiaethus wedi talu yn dda, fel y gwelir oddiwrth yr ychwanegiad yn rhif yr aelodau o fewn cylch y Cyfarfod Misol o fewn yr 20 mlynedd. Yn y flwydd- yn 1888, rhif yr aelodau oedd 2,400; ond yn 1908 yr oedd y rhif yn 4,400, yr hyn sydd yn dangos cynnydd o 2,000 mewn ugain mlynedd, o fewn terfynau'r Cyfarfod Misol. Gellir dweyd, gan hynny, fod yr ymgyrch gyda helaethu'r terfynau wedi talu yn dda, er mor fawr y treuliau arianol. Na feddylier ychwaith fod yr eglwysi wedi bod yn ddi-lafur gyda'r dyledion yn ystod y cyfnod a nodwyd. Ni ruthrwyd i ddyled heb feddwl am y canlyniadau ac ni adeiladwyd y tai heb yn gyntaf eistedd i lawr a bwrw'r draul. Onid oes gwastraff enfawr wedi bod? Nid wyf yn tybied y daw neb, a deifl olwg deg dros gapelau syml Llundain, i'r casgliad hwnnw. Cofier yn unig mai Llundain yw Llundain, a bod y draul mor fawr gyda phopeth yma. Y mae'r eglwysi wedi bod yn ofalus gyda'r treuliau, ac y mae'r ffigyrau canlynol yn profi eu bod wedi gweithio yn ardderchog gyda'r dyled- ion. Yn ystod y deng mlynedd diweddaf casglwyd £ 30,500 at y ddyled. Nid yw'r symiau am y deng mlynedd blaenorol wrth law gennyf ond gellir dweyd yn ddiogel fod Y,50,000 wedi eu talu at ddyledion y capelau yn ystod yr ugain mlynedd dan sylw. Y mae'r ffigyrau yn werth eu cofnodi, a phrofant nad yw'r ddyled bresennol o £ 40,000 ddim yn swm i ddychrynnu rhagddi. Ar yr un pryd, y mae'n swm y byddai yn dda iawn cael gwared o honi mor fuan ag sydd yn bosibl. Ar hyn o bryd, y mae'r Cyfundeb, fel y dywedwyd, wedi gwneud ei feddwl i fyny i symud rhan helaeth o'r baich, sef dim llaina Y,15,000 o fewn y ddwy ftynedd nesaf yma. Y mae pwyllgor grymus, dan nawdd y Cyfarfod Misol, wedi dechreu gweithio, yn cynrychioli yr oil o'r eglwysi, gyda Mr. 0. Morgan Owen yn gadeirydd, Mr. Timothy Da vies, A.S., a Mr. William Price yn drysor- yddion, a'r Parch. D. Tyler Davies yn ysgrifennydd. Deallwn fod amryw addew- idion tywysogaidd eisoes wedi eu sicrhau, a bod popeth yn arwyddo llwyddiant mawr. Hanfod y cynllun yw sicrhau cronfa o Y,10,000 i ddechreu ac yna fod yr eglwysi, sydd dan ddyledion trymion, i dderbyn allan o'r gronfa, yn ol graddfa fabwysiedig, ar yr amod eu bod hwy yn gwneud hyn a hyn ar gyfer hynny. Y mae gwyr grymus yn gweithio o blaid y cynllun, ac y mae eisoes frwdfrydedd mawr yn cael ei ar- ddangos ynglyn a'r mudiad. Os ceir cyd- weithrediad cyffredinol, ac os meddiennir pawb gan yr un brwdfrydedd ag sydd yn nodweddu y pwyllgor, ni fydd yn syn gennym weled £ 20,000 o'r ddyled wedi ei symud erbyn diwedd 1910. Wel, bendith fyddo ar y mudiad, a mynned pawb ran yn y gwaith o'i gario allan. Profer fod gennym galon i weithio, a goddefer i mi ychwanegu fod croesaw i'r rhai pell," yn ogystal a'r rhai agos," i gymeryd rhan yn y gwaith. J.E.D.

TELYNEG SERCH

[No title]

Am Gymry Llundain.