Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

11CYFARFODYDD.

News
Cite
Share

CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin, Chwefror 24. Llywydd, Mr. E. Edwards, M.A. 1. Dechreuwyd gan Mr. William Evans, Wilton Square. 2. Cadarnhawyd y cofnodion argraffedig o'r cyfarfod gynhaliwyd Ionawr 27ain, a darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion o'r cyfarfod arbennig gynhaliwyd Chwefror 4ydd. Yn y cyfarfod arbennig, diolchiwyd yn gynnes iawn i'r Parch. F. Knoyle, B.A., am ei wasanaeth medrus a ffyddlon fel ysgrifennydd y Cyfarfod Misol am dair blynedd. Hefyd mabwysiadwyd y cynllun gymeradwywyd gan Bwyllgor Dyledion y Capelau i geisio talu 215,000 o'r 243,000 o ddyled sydd ar gapelau y Cyfarfod Misol o hyn i ddiwedd 1910, a datganodd y C.M. ei barod- rwydd i gynorthwyo y pwyllgor i ddwyn y cynllun hwn i weithrediad terlynol. 3. Darllenwyd (a) llythyran yn cydnabod cydymdeimlad a hwy ac a'u teuluoedd oddiwrth Mrs. Robert Parry, Llanrug • Mr. T. J. Anthony, Shirland Road; Mr. E. W. Jones, Holloway; a Mr. Rees Jones, Mile End Road; (b) llythyr oddiwrth Mr. Ben Griffiths, Charing Cross Road, yn datgan ei anallu i weithredu fel ysgrifennydd Casgliad y Symudiad Ymosodol. Cadarnhawyd y llythyr, a dewiswyd Mr. William Lewis, Willesden Green, yn ysgrifennydd yn lie Mr. Griffiths. (c) Llythyrau oddiwrth y Parch. Lewis Ellis, Rhyl (1) yn cydnabod yn llawen benderfyniad y Cyfarfod Misol i beidio apelio am grant eleni oddiwrth Bwyllgor Arianol y Symudiad Ymosodol; (2) yn apelio am gefnogaeth yr eglwysi yn Llundain i'r ymgais wneir o dan arweiniad y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, i dalu P,20,000 o ddyled y symudiad ymosodol y ftwyddyn hon. Nodwyd yn bwyllgor i drefnu i gario allan awgrymiadau y llythyr hwn y Parch. P. Hughes Griffiths; Mr. William Evans, Wilton Square; Mr. William Lewis, Willesden Green; ynghyda llywydd ac ysgrifennydd y Cyfarfod Misol. (d) Llythyr oddiwrth Mr. H Hughes, Shirland Road, yn addaw gweithredu fel ystadegydd y C.M. eleni, ag (e) llythyr oddiwrth y Parch. R. Dewi Williams, M.A., ysgrifennydd C.M. Arfon, yn trosglwyddo y Parch. D. Davies, Talsarn, i aelodaeth o G.M. Llundain, ar ei waith yn ymsefydlu yn fugail ar eglwys Walham Green. Derbyniwyd Mr. Davies yn aelod o'r C.M. yn frwdfrydig iawn, a dymunwyd ei lwydd yn fawr eto yn Llundain. Cydnabyddodd yntau deimladau da y C.M. tuag ato mewn ychydig eiriau tra phwrpasol. Cyfeiriad Mr. Davies yn Llundain yw 27, Quarendon Road, Parsons Green, S.W. 4. Penderfynwyd fod cofion a chydymdeimlad i'w danfon at y Parch. P. Hughes Griffiths yn ei waeledd, ynghyda'u dymuniadau taerion am ei adferiad' buan Hefyd cydymdeimlwyd a Mr. R. O. Edwards, Holloway, yng ngwyneb marwolaeth ei dad a gwaeledd ei briod. 5. Cyflwynodd Mr. J. Herbert, Wilton Square, adroddiad y Pwyllgor Enwi, a chadarnhawyd dewisiad y Parch. F. Knoyle yn ymwelwr a'r eglwysi, a Mr. Edward Jones, Wilton Square, yn aelod i'r Pwyllgor Dirwestol. Etholwyd y Parch. D. Tyler Davies a Mr. J. Thomas, Warwick Road, Walham Green, i gynrychioli y C.M. mewn cymdeithasfa yn y Deheudir eleni. 6. Cyf- lwynodd Mr. R Vaughan Thomas adroddiad Pwyll- gor yr Adeiladau. Hysbyswyd fod y capel newydd yn Ealing Green wedi ei adeiladu yn fanwl unol a'r cynlluniau penodedig. Costiodd yr adeilad P,907 (41d. per foot cube), a bwriedir i 266 eistedd yn gysurus ynddo. Cadarnhawyd yr adroddiad calon- ogol hwn, a phenderfynwyd tod diolchgarwch y C.M. i'w dalu i Mr. Howel J. Williams, Charing Cross Road, am ei gynorthwy effeithiol ac haelionus gydag adeiladu y capel hwn yn Ealing. 7. Cyflwynwyd a chadarnhawyd trefniadau y pwyllgor ar gyfer Cym- anfa y Pasc nesaf. Ymddiriedwyd trefnu y lluniaeth i Mr. W. W. Griffith, Wilton Square, a Mr. O. M. Owen, Charing Cross Road. Trefnwyd i'r Seiat Fawr fod yn Jewin Newydd boreu Gwener y Groglith. Mater y Seiat fydd "Crist, Pen yr Eglwys" (Eph iv. 15). Y gweinidogion wahoddwyd i'r Gymanfa eleni ydynt—Jewin Newydd, Parchn. S. T. Evans, Conwy, ac S. George, B.A., Llan- drindod; Charing Cross, Parch. R. Roberts, Colwyn Bay; Wilton Square, Parch. R. Humphreys, Lerpwl Falmouth Road, Parch. W. W. Lewis, Abertawe; Mile End Road, Parch. T. Williams, Gwalchmai; Shirland Road, Parch. R. E. Davies, Pontardulas; Holloway, Parch. E. Davies, Llan- pumsaint; Hammersmith, Parch. R. Morris. M.A., Dolgelley Stratford, Parch. J. O. Jenkins, Mountain Ash Clapham, Parch. J. D. Jones, Gellifor, Ruthin Walham Green, Parch. J. Tudno Williams, M.A., Dinbych; Willesden. Green, Parch. R. D. Row- lands (Anthropos), Caernarfon Lewisham, Parch. W, Richards, Briton Ferry Walthamstow, Parch. J. Emlyn Jones, Porth; Wood Green, Parch. J. Smith, Nantglyn Ealing, yr enw i'w hysbysu eto. 8. Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion gan Mr. G. W. Jones, Lewisham, a phenderfynwyd fod cais eglwys Ealing am grant o £ 20 i'w gyflwyno i ystyriaeth y Pwyllgor Arianol. Aelodaeth bresennol Ealing yw 70, cynnydd o 10 mewn blwyddyn. 9. Cadarnhawyd penderfyniadau canlynol y Pwyllgor Addysg (a) Ail etholwyd Mr. W. Prydderch Williams yn llywydd, a dewiswyd y Parch. J. Thickens, Willesden Green, yn ysgrifen- nydd y pwyllgor; (b) fod llythyr y Parch R. J. Williams, Lerpwl, yn gofyn am genhadwr i Was- tadedd yr India i'w osod gerbron yr eglwysi gan swyddogion yr Eglwys, er mwyn gwybod a oes brawd yn ein plith yn barod i gynnyg ei wasanaeth i'r Genhadaeth Dramor yn ol y cais (c) fod trysorydd y C.M. yn talu treuliau teithio. 10. I Penderfynwyd (a) fod yr ymweliad a'r eglwysi i'w ohirio hyd mis Mai, ac (b) fod adroddiad arbennig o'r ymweliad i'w gyflwyno i'r C.M. Dewiswyd Mr. M. Morgan, Falmouth Road, yn ymwelwr yn lie Mr. J. Jenkins, Wilton Square, yr hwn sydd yn analluog i weithredu eleni. 11. Cadarnhawyd trefniad Pwyllgor Dyledion y Capelau fod cyfarfod cyhoeddus ynglyn a'r cynllun i leihau dyledion y capelau i'w gynnal yn Charing Cross Road Mawrth 18, 1909. Bydd te yn yr ysgoldy o hanner awr wedi chwech i wyth o'r gloch. Llywyddir y cyfarfod gan Mr. J. Richards, Shirland Road, a siaredir gan Mr. T. Davies, A.S., Walham Green; Mr. Howell J. Williams, Charing Cross; Mr. E. Vincent Evans, Jewin, ac ereill. Awdurdodwyd trysoryddion y pwyllgor i geisio addewidion yn yr eglwysi, fel ag i'w cyhoeddi yn y cyfarfod arbennig. 12. Penderfynwyd fod adroddiad Pwyllgor Blwydd-dal i Weinidogion i'w gyflwyno yn y C M. nesaf. 13. Galwyd sylw at bresenoldeb y Parch. J. Vincent Thomas, Ceunant, a T. J. Williams, Wattstown, yn y Cyfarfod Misol, a ohydnabyddodd y ddau y cyfarchiad. 13. Terfyn- wyd gan y Parch. D. Davies, Walham Green. GWILYM H. HAVAPD, Ysg.