Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODION EISTEDDFODOL.

News
Cite
Share

NODION EISTEDDFODOL. Dathlu coffa Dewi Sant mae'r Oymry Llundeinig y dyddiau hyn, a phrawf y brwdfrydedd ynglyn a'r cyfan fod yr ysbryd Cymreig mor fyw yn eia plith ag erioed. Ond ynghanol yr holl wleddoedd a'r rialtwch, nid yw Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwaith. Deallwn fod cyfarfodydd parhaus yn cael eu cynnal, ac fod y trefniadau ynglyn a'r gwahanol gynulliadau ar fia cael eu cwblhau. Mae'r corau mawr i ganu ar ,ddydd Mawrth; cadeirio'r bardd fydd prif atyniad ddydd Mercher, yna daw'r coroni ar ddydd lau, a'r corau meibion ar ddydd Gwener. Y rhai hyn fydd y pedair oedfa fawr yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Y Llywyddion. Mae amryw o wyr urddasol eisoes wedi -addaw llywyddu y gwahanol gynulliadau. Bydd angen am wyth o bersonau i gymeryd gofal o'r pedwar eisteddiad, sef un i lywyddu bob boreu, ac un ar y prydnawn. Ers cryn amser bellach, y mae Mr. Lloyd George wedi cael yr anrhydedd o lywyddu prif wyl y genedl ar ddydd y cadeirio, a da gennym ddeall ei fod wedi cymeryd at yr un gwaith eleni eto. Byddai yn anhawdd cael unrhyw berson i wneud y gwaith cystal ag efe, oherwydd byddai yn wrthun i gael araith Saesneg ar adeg fel honno. Balfour ac Asquith. Mae'r ddau wr enwog hyn, hefyd, wedi rhoddi addewid y bydd iddynt lywyddu yn yr oedfeuon. Feallai mai ar ddydd y corau mawr y daw Mr. Balfour, oherwydd y mae efe yn gerddor gwych ei hun, ac y mae wedi datgan ei obaith y caiff glywed canu Cymreig pan fydd yn bresennol yn yr Wyl. Feallai mai ar adeg y coroni y daw Mr. Asquith, a byddai'n ddyddorol cael arawd ganddo ar wyr coronog Ty'r Arglwyddi, neu rywbeth tebyg, pan yn annerch torf o Gymry yn yr Albert Hall. Y mae Mr. Vincent Evans, fel cadeirydd y pwyllgor gweithiol, yn hawlio un o'r cyngherddau i fod yn llywydd arno, yn rhinwedd ei swydd, a sibrydir, hefyd, fod Mr. J. Prichard-Jones i lywyddu un o'r ddau gyngerdd ereill. Gan fod yr Eisteddfod yn dod ar ymweliad i brif dref y Sais, priodol yw cael un neu ddau o'r Saeson-fel Asquith a Balfour-ond hyderwn mai Cymry glan, o iaith a theimlad, fydd y llywyddion ereill a benodir. Beth am y Suffragett? Ond bydd yn ddyddorol gwylio beth fydd ymddygiad y Suffragett tuag at yr Wyl os ydym i gael Mr. Lloyd George a Mr. Asquith yn lywyddion Golyga hyn y daw merched y sgrech yno yn heidiau, a'r pwnc yw, a fydd gan Bwyllgor yr Eisteddfod ddigon o wyr grymus at eu gwasanaeth i droi allan haid o wragedd afreolus. A mwy na'r cyfan, a'i nid oes berygl y llwyddir i niweidio yr Eis- teddfod os digwydd i unrhyw gyffro gymeryd lie. Ond ar y goreu, rhan fechan fydd gan bob un o'r gwyr da hyn i'w gyflawni yn yr Wyl. Fel math o ymwelwyr yn unig y deuant i'r Eisteddfod, ac ni roddir cyfle iddynt siarad ond araith ddeng munud. Ar yr un pryd, rhaid i'r Pwyllgor ofalu am drefnu digon o heddychwyr, a wnant ofalu fod pob dynes a grea derfysg i gael ei dwyn i'r cylch barddol ar unwaith, i gael ei hurddo yn ol braint a defawd gan yr Arch- dderwydd Dyfed ei hun. Y Cantorion. Yn anffodus ni fydd angen am nifer fawr o gantorion i wasanaethu yn y tri chyngerdd a roddir tan nawdd yr Eisteddfod yn Llun- dain. Mae dau neu dri o weithiau i gael eu cyflwyno gan gor yr Eisteddfod, tan reolaeth Mr. Merlin Morgan, a chymer y rhai hyn fwy na hanner amser y cyngerdd. Yna trefnir i gael unawdwyr Cymreig i lanw gweddill yr amser, ac ni chaniata hyn ond i bedwar neu bump o leiswyr i wneud eu hymddangosiad. Gan fod gennym y fath dorf o unawdwyr rhagorol bydd gorchwyl y dewis yn un hynod o anymunol. Mae'r pwyllgor cerddorol mor gynrychiadol a di- bartiaeth ag sydd bosibl iddo fod, ond P") byddai wedi ei gyfansoddi o angylion di- gwymp, byddai rhai yn barod i bigo beiau arno. A diau y byddis yn ei feio wedi iddo wneud ei ddyfarniad yn hysbys. Mae pob cantor a chantores adnabyddus i gael cyf- lawn ystyriaeth gan yr holl bwyllgor gweithiol, fel mai nid o fwriad y caiff neb eu taflu dros y bwrdd yn y dewisiad olaf a wneir. Un peth yn unig a hyderwn y ca y rhai a gydnabyddir yn oreu gan bob plaid, y ca y rhai hyn eu sicrhau er mwyn urddas yr wyl, ac er mwyn cyflwyno ein cerddoriaeth ar ei oreu ym mhrif ddinas y byd. Eisteddfod 1911. Deallwn fod pobl Caerfyrddin yn gweithio yn egniol tros sicrhau yr Wyl i'r dref henafol honno yn 1911. Daw'r penodiad ger bron pwyllgor yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod yn Llundain, a bydd yn ornest galed rhwng pobl Oaerfyrddin a Chymreig- yddion y Fenni. Mae Aberystwyth wedi penderfynnu i gilio o'r ymdrechfa y tro hwn, ond hysbysir fod rhai o drefi y Rhondda yn barod i wneud cais hefyd, fel rhwng popeth a'i gilydd, mae argoelion am ddadl pur fywiog. Colwyn Bay. Mae pwyllgor Eisteddfod 1910, yr hon a gynhelir yn Colwyn Bay, yn myned ymlaen yn hynod o lewyrchus gyda'r gwaith o drefnu y rhaglen. Y beirniaid cerddorol fydd Mri. David Jenkins a David Evans, a Dr. Walford Davies a Dr. Coward, ynghyd a Dr. Rogers, os llwyddir i sicrhau ei wasan- aeth. Mae'r unawdau wedi eu dewis ar gyn- llun tebyg i un Llundain un darn olasurol ac un darn Cymreig. Gofynir hefyd i Mri. David Evans, David Jenkins, Emlyn Evans, a Harry Evans i ddanfon unrhyw waith newydd o'r eiddynt er ystyriaeth y pwyllgor Y Prif Destynau. Testyn y gadair fydd awdl ar Yr Haf." Testyn y Goron, "Ednyfed Fychan." Cywydd, Yr Angel Myfrdraeth, Paul yn Arabia"; Telynegion, Bywyd Pen- trefol Englyn, Y Wawr." Cyfanswm y gwobrau yn yr adran lenyddol a barddonol fydd tua £ 260, ond y mae disgwyliad y ceir amryw o wobrau arbennig eto i chwyddo y rhestr cyn y rhoddir cyhoeddusrwydd cyffredinol iddi. Mae pobl Colwyn yn addaw bod yn eithaf anturiaethus, ac os nad ydym yn camgymeryd, bydd iddynt weithio Eis- teddfod hynod o lwyddiannus.

[No title]

EISTEDDFOD Y TABERNACL.