Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TALHAIARN.

News
Cite
Share

TALHAIARN. (Parhad.) Y mae Llanfairtalhaiarn yn gorwedd mewn lie dymunol iawn-mewn pant, tra'r myn- yddoedd o'i amgylch yn ei noddi. Pentref bychan ydyw, digon di-nod yr olwg arno y tai, oddigerth yr ysgwar (square), fel pe bae y gwahanol adeiladwyr wedi methu cytuno ynghylch y drefn yn ol pa un yr oeddynt i adeiladu. Y mae yno gysondeb mewn un petb, modd bynnag, sef fod y tai gan mwyaf wedi eu gwyngalchu, ac fe geir eu bod, yn bennaf, wedi eu gwneud o gerryg calch. Y mae yno gysondeb arall, sef fod yr afon Elwy, sydd yn rhedeg drwy ei gwaelod tua'r mor, yn canu yn awr fel y canai yn yr amser y byddai y bardd Talhaiarn yn myfyrio ar ei glan. Cyn ini fyned a'r darllennydd i dy y bardd ac at ei fedd, buddiol ydyw dweyd gair am darddiad yr enw Llanfairtalhaiarn. Dywedir y tardd o Dalhaiarn, Sant a bardd a flodeuai yn y burned a'r chweched ganrif. Mab ydoedd i Garthwys ap Morydd ap Cenen ap Coel Codebog, a phreswyliai yn Carlleon ar Wysg. Daeth yn gaplan (chaplain) i Emrys Wledig (Ambrosius), Brenin Prydain, yr hwn adeiladodd y gweddillion' Derwyddol a elwir Stonehenge, er cof (fel y meddylir) am y Cymry syrthiasant pan yn ymladd y Saeson o dan Hen gist. Ar farwolaeth Emrys, ymneilltuodd Talhaiarn i Lanfair, ac yno sefydlodd fynachlog. Wedi hynny cododd eglwys yno, yr hon gysegrwyd i St. Mary-Llan Fair. Dywedir mai y Talhaiarn hwn ydoedd awdwr y wedi ddefnyddir yng Ngorsedd y Beirdd hyd heddyw: Duw, rho nerth; 1 Ac o nerth, pwyll Ac o bwyll, gwybod ( Ac o wybod, y cyfiawn Ac o'r cyfiawn, ei garu; Ac o garu, caru popeth; Ac o garu popeth, caru Duw. Os ydyw yr honiad yn un cywir parth awdwriaeth y weddi hon, y mae gan drigol- ion Llanfairtalhaiarn le i ymfalchio yn eu pentref. Wedi ymholi am y ty lie y trigai y bardd John Jones, sef (hyd y gwn i) yr ail Dal- haiarn, deallwn mai enw'r cyfryw ydoedd "Hafod y Gan." Safai ar godiad caregog Euthum tua'r ty tra'r gwragedd segur ac ychydig blant yn gwylio fy nghamrau fel pe na welsent ddieithr ddyn erioed. Curais wrth y drws. Wedi i wraig dda y ty ei hagor, gofynais yn Gymraeg a fyddai mor garedig a gadael imi ddod i mewn i weled cartref y bardd. Atebodd fi na ddeallai y Gymraeg Buasai dyn yn meddwl na cheid ond y Gymraeg mewn lie mor bell o swn y byd Ond na, nid ydoedd gwraig y ty lie y ganwyd, y magwyd, ac y bu farw Talhaiarn, yn deall iaith y gwr enwog. Ond nid dyma'r syndod mwyaf a gefais yn y lie bychan hwn, canys wrth ymholi mewn lie am ymborth, atebwyd fi mewn Saesneg tramoraidd: "No Welsh." Deallais mai Ellmynwyr oeddynt, wedi dod yn ddiweddar o Lerpwl i fyw yn Llanfair. Ond i ddychwelyd at y ty y deuthum i'w weled. Gwahoddwyd fi yn garedig i mewn, a dodwyd fi yn y parlwr. Yma y byddai y bardd yn bwyta, fel y deallais a thra bu'm yn edrych o'm cwmpas, aeth y wraig i nol y gwr, sef Mr. David Davies, yr hwn siaradai Gymraeg da. Ystafell hir ydoedd hon, gyda nenfwyd (ceiling) lied isel, fel ag a geir ym mwyafrif yr hen dai. Nis gwn ydoedd y bwrdd ar ganol yr ystafell yno yn adeg Talhaiarn ai peidio ond yr oedd yn giog ar y pared Bassoon, berthynol i dad Mr. Davies. Rhaid ei bod hi yno yn adeg y bardd, canys yr oedd yn perthyn yn agos i Mr. Davies, a mynych iawn y byddai y gwr hwn (fel y dywedodd wrthyf) yn eistedd ar lin y bardd, gael iddo glywed can! Yn wir, yr oedd golwg hen ar bron popeth yn yr ystafell, fel y dichon fod y dodrefn yno pan yr oedd Talhaiarn yn ymborthi ynddi. Ar yr un llawr yr oedd myfyrgell (study) y bardd. Ystafell fechan ydoedd, yn cael ei goleuo gan ffenestri bychain. Yn hon y cafodd Talhaiarn afael mewn llawer i feddylddrych barddonol. Llawer gwaith y bu, yn ddiau, yn edrych drwy y ffenestri hynny ar fawredd y mynyddoedd gerllaw. Yma y ganwyd llawer o'i feddylddrychau, pa rai ydynt yn yn aros, ac yn fwy parhaol na'r mynyddoedd ond y bardd a giliodd i'r cysgodion Dangosodd Mr. Davies ei ddarlun olaf imi, ar gerdyn bychan, tua 2t modfedd wrth dair. Ni allwn ganfod lliw ei lygaid bywiog; ond yr oedd yn edrych yn wr rhadlon a chryf. Meddai faif laes roddai iddo ryw gymaint o urddas, heb gymorth y peth diweddar-y moustache. Os ydyw y darllennydd yn fardd, caiff ddisgrifiad gwell gan Eben Fardd fel a ganlyn :— Gwelwn wr o bryd glan iawn Digystudd—dwyrudd diriawn, A thro olwyn athrylith Yn ei lygaid, nid rhaid rhith A'i wallt trwm yn hollt yr iad 0 wawr winen yn ei raniad Wrth y drych ar ei berth drom Pwy yw ? sylwid, Ap Salmon ? Ei farf laes a fwriai flew I'w eofndal fron lyfndew :i A'i osodiad fel sawdwr Oil yn ddel a lluniaidd wr Talgryf a heinyf hynod- Ni wyddwn i ei wedd nod. Yn yr ystafell uwchben y fyfyrgell yr oedd ei ystafell wely. Bechan ydoedd hon hefyd, a dim neutuol ynddi i dynnu sylw. Yma y ganwyd Talhaiarn yn y flwyddyn 1810, ac yma y bu farw yn y flwyddyn 1869, yn yr oedran cymharol ieuanc o 59. (I'w barhau.)

Bwrdd y Gol.

Advertising