Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

NODION EISTEDDFODOL.

News
Cite
Share

NODION EISTEDDFODOL. Llywyddion. Un o anhawsterau pwyllgor Eisteddfod Llundain fydd dewis llywyddion priodol i'r gwahanol gyfarfodydd. Bwriedir cael dau lywydd i bob cyfarfod o'r Eisteddfod-un y boreu a'r llall y prydnawn, ac un llywydd yng nghyngerdd y nos. Golyga hyn un ar ddeg o wyr enwog a'r gamp fydd penodi rhai addas i'r gwahanol gyfarfodydd. Arweinyddion. Ychydig yw nifer ein harweinyddion Eisteddfodol. Mae hon yn grefEt na all pawb gyflawni yn hawdd, er fod ami i wr wedi credu ei fod yn meddu ar y ddawn arweinyddol. Saif Llew Tegid o'i ysgwydd- au yn uwch na'r un gwr arall heddyw am gadw torf mewn trefn, a bydd raid wrth ei wasanaeth ef yn yr Albert Hall. Bai pennaf y pregethwyr a'r clerigwyr yw eu bod yn rhy araf a phregethwrol ar y llwyfan. Does dim mynd" ar y gwaith pan fo'nt hwy yn gofalu am yr arweinyddiaeth. A'i nid oes un o'r aelodau Seneddol yn abl i gymeryd lIe Mabon yn y grefft hon ? Hen Eisteddfodwyr Nid oes ond nifer fechan o hen arwyr Eis- teddfodol yn Llundain ar hyn o bryd. Mae'r hen do wedi cilio bron yn llwyr, a Ilenwir eu lie gan ieuenctyd dibrofiad. Rhyw banner can mlynedd yn ol yr oedd yma dorf o wyr lien a gymerent lawer o ddyddordeb yn yr hen Wyl, ac ar adegau cynhelid Eis- teddfodau mawr tan eu nawddogaeth. Bydd yn ddyddorol gwylio faint o les wna'r ym- weliad Eisteddfodol eleni i'r ysbryd Cymreig yn Llundain. Mae eisieu rhywbeth i'w symbylu yn yr oes faterol hon. Gwrgant oedd yr olaf, feallai, o'r hen hil Eisteddfodol Gymeig yn y ddinas, a bu ef farw yn ei breswylfod yn Gravesend yn Mehefin 1886, rhyw flwyddyn cyn cyn- haliad Eisteddfod Genedlaethol 1887. Brodor o Sir Ddinbych ydoedd, ac wedi treulio oes faith yn Llundain. Yr oedd yn 84 mlwydd oed pan fu farw, ac yn fawr ei barch ymhlith ei gydgenedl yn Llundain. Y Gwyneddigion. Pan ysgrifennir hanes Cymdeithasau Llundain yn llawn bydd yn rhaid rhoddi lie amlwg i weithrediadau amrywiol y gym- deithas hon. Oynhaliodd nifer o Eistedd- fodau tra enwog, a chyhoeddodd lawer iawn o'r gweithiau fuont fuddugol yn y gwahanol Wyliau hyn. Yn wir, Cymdeithas y Gwyneddigion oedd y cyntaf i gyhoeddi Gweithiau'r Eisteddfod, ac mae rhai o'u cyhoeddiadau yn hynod brin erbyn heddyw. Dilynir ei hesiampl gan Gymdeithas y Cymmrodorion heddyw, ond fod cyfrolau yr olaf yn llai eu rhif ac yn cael eu cyfyngu yn bennaf i blith yr aelodau.

[No title]

Am Gymry Llundain.

Bwrdd y Gol.