Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TALHAIARN.

News
Cite
Share

TALHAIARN. Hwyrach nad anyddorol i ddarllenwyr y CELT fydd hanes fy ymweliad a chartref y bardd enwog uchod. Ofnaf na wyr llawer iawn o'r to ieuanc sydd yn codi am y bardd na'i weithiau; ac eto mae rhai o'i benillion yn cael eu dysgu ganddynt o'u mebyd, ac yn yr ysgolion dyddiol, heb iddynt, fe ddichon, wybod mai yr eiddo Talhaiarn ydynt. Wele rai o honynt:— CODIAD YR HEDYDD. Cwyd, cwyd, ehedydd lion, O'th ddedwydd nyth ar ael y fron I ganu yn y nen Mwyn, mwyn, y tonau mêl O'th beraidd big a'th galon ddel I synnu'r byd uwchben. &c. TROS Y GARREG. Tros y garreg syllu wnaf, Hwyr a boreu hirddydd haf, Am f'anwylyd Hardd a hyfryd- Yn ei lanbryd gwynfyd gaf. &c. LLWYN ONN. Yn rhodio yr ydwyf, yn isel fy nghalon, Hyd laswellt a mwswg cysgodion Llwyn Onn, Er trydar man adar, a miwsig awelon, Mae gofid a thristyd yn llethu fy mron. &c. GWENO FWYN GU. A ddoi di fy nghariad i gysgod y llwyn, Hai, ho Gweno fwyn gu, I glywed yr adar yn trydar ar dwyn, Hai, ho Gweno fwyn gu Daw'r fronfraith i ganu ar frigin y pren, A'r hedydd i gwafrio yn entrych y nen, A'r fwyalch i byncio i blesio fy Ngwen, Hai ho Gweno fwyn gu. &c. GOGONIANT I GYMRU. Gogoniant i Gymru, anwylwlad fy nhadau, Pe medrwn, mawrygwn dy fawredd a'th fri; Mae'r Awen yn caru dy wedd a'th rinweddau, Hoff famaeth athrylith a dewrder wyt ti: Bu'amser pan hoffai T'wysogion dy Delyn, A'i sain a gyftroai wrolion y gad, I ruthro'n ddisymwth ar warchae y gelyn, Gan ymladd dros Ryddid a breintiau eu gwlad. Dyna ddigon, ar hyn o bryd, i ddangos a phrofi fod llawer o feddyliau y bardd hwn wedi dod yn rhan o feddwl a bywyd y Cymry ac o brin y rhaid i ddyn fel hwn wrth gof-golofn, gan ei bod yn un fyw ym meddwl ac ysbryd ei hoff genedl-neu fe ddylai fod. Gan fy mod yn byw o fewn pum milldir i'r pentref bychan enwogwyd gan y bardd, penderfynais gerdded yno er cael golwg ar y ty He bu yn trigo, a hefyd er casglu ychydig o'i hanes, os yn bosibl, gan rai o'r trigolion henaf. Y mae y siwrnai i Lanfairtalhaiarn o Abergele yn un gwerth ei chymeryd, oa bydd dyn yn hoff o weled mynyddoedd. Ar i fyny, gan mwyaf, y mae'r teithiwr yn myned ac ymddengys y naill fynydd fel pe yn edrych i lawr arno oddiar ysgwydd mynydd arall. 0 wlad brydferth sydd yn ymlonni yn yr haul! Mor gynnes yr ymlecha'r dyffrynoedd yng nghesail y mynyddau Yma, yn wir, y mae dyn ymhell o swn y byd sydd mor llawn o rialt- weh a gwagedd ac, i'm meddwl i, y mae. treuHo rhai blynyddau mewn tawelwch wrth odrau mynyddau'r hen wlad yn ernes fach o Baradwys Y diwrnod y cerddwn tua Llanfairtal- haiarn yr oeddwn newydd orffen ysgrifennu cydgan wladgarol i'r cyhoeddiad Cymry ar eiriau o waith Talhaiarn ac felly, mi obeith- iaf, wedi bod yn ceisio yfed yn lied helaeth o ysbryd y bardd. Rhaid ei fod wedi cerdded ar hyd y ffordd honno lawer o weithiau; a meddyliwn y gallai fod gan yr awel iachus a chwareuai o'm hamgylch gyfarchiad ini oddiwrth ysbryd y bardd PEDR ALAW. (I'w barhau.)

HEN WESTY ENWOG.

Advertising