Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.":. -'

[No title]

EISTEDDFOD BATTERSEA.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD BATTERSEA. Dyma Eisteddfod newydd ymhlith Eis- teddfodau Cymreig Llundain. Nid oes ond yehydig flynyddau er pan y sefydlwyd achos bychan gan yr Anibynwyr yn yr ardal hwn, ond er mor ieuanc yw, y mae wedi llwyddo i godi Eisteddfod hynod o lewyrchus; ac, a barnu oddiwrth y cynulliad gaed yn Batter- sea Town Hall ar y 4ydd o'r mis hwn, bydd yn un o uchel wyliau blynyddol y cylch, os cedwir yr un ysbryd anturiaethns yn fyw ymhlith yr aelodau. Gwyl Gadeiribl oedd hon, a rhoddai hynny nodwedd arbennig ar y cynulliad, a cheisia'r beirdd ddarbwyllo eu hunain eu bod wedi cael rhagbrawf defnyddiol i'w paratoi gogyfer a'r Wyl fawr gynhelir yn Hyde Park a'r Albert Hall ym Mehefin nesaf. Llywydd penodedig y cyfarfod oedd Mr. Phillip Meredith, ond gan mor lliosog ei alwadau, methodd a dod i lanw'r gadair. Ar yr un pryd, i wneud math o iawn am ei absenoldeb, anfonodd rodd o hanner can punt tuag at dreuliau y cynulliad. Yn ei le rhoddodd y Cynghorwr William Davies, Y.H araith amserol ar amcan yr Eisteddfod, a llawenychai wrth weled y ddeadell yn Battersea yn myned ymlaen mor hwyliog tan arweiniad y gweinidog ienane-Parch. Edward T. Owefl. Beirniad y canu oedd Mr. John Thomap, Llanelly, a gofalwyd am dynged y beirdd a'r llenorion gan Elfed, Machreth, Parchn. John Humphreys, D. C. Jones, a Mr. T. Huws Divies, tra roedd adran celf tan reolaeth Mrs. Arthian Davies, Mrs. W. Rowland, a Mrs. J. Thomas. Arweinid y gweithrediadau gan Mr. T. Huws Davies gyda'i fedr a'i ddonioldeb arferol, a phenodwyd Miss Sallie Jenkins yn gyfeilydd am y noson. Daeth llond y neuadd o edmygwyr yr Wyl, a chaed cystadleuon dyddorol ymhob adran. Yr oedd y cantorion mewn llawn hwyl, a rhoddwyd clod uchel i'r mwyafrif o honynt gan Mr. Thomas. Feallai mai'r her- unawd oedd un o bethau goreu y noson, a daeth tri chantor teilwng o wlad y gan i geisio am y ddwy gini rodd id fel gwobr. Ar ol datganiad penigamp o "Honour and Arms," gan Mr. Stanley Davies, dywedodd y beirniad nad oedd ganddo na bai na chyngor i'w nodi i'r gwr gan mor ardderchog oedd y datganiad. Aeth seremoni'r cadeirio a chryn dipyn o amser y cyfarfod. Testyn y gadair oedd pryddest goffa ar ol y diweddar D. Jones (Meirionfab), Commercial Road, gwr a fu ym mlaenllaw iawn am flynyddau lawer ynglyn ag achosion Anibynol y ddinas. O'r prydd- estau ddaethant i law, eiddo'r Parch. W. Parri Huws, Dolgellau, oedd yn oreu, ac iddo ef y dyfarnwyd y gadair a'r anrhydedd. Yn anffodus, nid oedd Mr. Parri Huws yn bresennol, a chadeiriwyd Mr. T. Davies. King's Cross, yn gynrychiolydd teilwng o hono. Canwyd can y cadeirio gan Miss Agnes Parry, yr hon hefyd roddodd unawd yn ystod y cytartod. Y brif .gystadleuaeth gorawl oedd gornest fawr yr Wyl, a daeth pedwar o gorau rhag- orol i'r maes. Ar ol cystadleuaeth o safon uchel, rhoddwyd y wobr i gor y Tabernael, King's Cross (tan arweiniad Mr. Stanley Davies), a derbyniwyd y dyfarniad gyda chymeradwyaeth mawr. Haedda'r trefnwyr air o ganmoliaeth am waith llwyddiannus y noson, ac mae'r gweinidog, ynghyd a'r swyddogion, yn ogystal a'r ddau ysgrifennydd, yn hawlio OY clod am eu gweithgarweh gyda'r Eisteddfod o'r cychwyn hyd yn awr, a da] gennym ddeall fod elw sylweddol wedi ei gael tuag at gyllid adeiladu yr eglwys fechan hon.