Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

EDRYDD y Parch, Daniel Rowlands, M.A., hanes/n dyddorol am John Elias. Yr oedd fy ni* id (meddai) yn adnabod Mr. Elias yn dda, ¡tC yn gyfeillgar iawn gydag ef. Tra yn synmi, fel y gwnelai cynifer, wrth ei weled yn gallu darllen mor glir yn yr odfeu- on heb spectol, fe ofynodd iddo un diwrnod sut yr oedd yn gallu gwneud hynny. Ei ateb syml yntau oedd, Yr wyf yn agor fy llygaid bob boreu mewn dwr oer." Wedi clywed fy nhad yn dweyd hynny, fe ddarfu i minnau, o ymyraeth plentyn, boreu dran- oeth, wneud yr un peth. Yr oedd dipyn yn anodd mentro ar y dechreu; ond yr ydwyf wedi gwneud felly hyd heddyw ac nid oes gennyf spectol ar fy elw. Ychydig cyn goddiweddyd fy anwyl a thra pharchedig athraw, y Dr. Lewis Edwards, gan ei wael- edd olaf, daeth ef a nifer o gyfeillion ereill i gerbyd y digwyddwn fod ynddo ar y "Cambrian Railway." Wedi ychydig o ymddiddan cyfeillgar, gofynodd beth oedd y Ilyfr: Ilyfr Saesneg newydd ddigwyddai fod yn fy Haw. Estynais y llyfr iddo; a thra yr oeddwn i yn dweyd yn ei gylch, yr oedd yntau yn troi ei ddalenau ac yn ei edrych. Yn y man dywedais, Yr ydych yn gweled heb spectol, Dr. Edwards?" Ydwyf," ebai yntau. A oes gennych un ? Oes." Ymhle y mae hi ? Adref." Pam na fuasech yn dod a hi gyda chwi ? Am fy mod yn gweled yn well hebddi!" "A ydych yn agor eich llygaid bob boreu mewn dwr oer?" "Ydwyf." Wrth gyngor John Elias?" "Ie." YR unig ymgeisydd i ennill y radd o D.D. ym, Mhrifysgol Llundain eleni ydyw y Parch. H. Maldwyn Hughes, B.A., B.D., Liscard, awydd Gaer. Mab i'r diweddar Ddr. John Hughes (Glanystwyth) ydyw. Ystyrir ef yn un o bregethwyr blaenaf yr enwad. Nid yw ond 33 mlwydd oed, ac y mae eisoes wedi dringo i'r safleoedd pwysicaf. Nid oes ond efe a'r Parch. Frank Ballard, M.A., D.D., wedi ennill y radd uchod gyda'r Cyfundeb Wesleyaidd. Yn Ysgol Kingswood yr addysgwyd ef, a chafodd yrfa lwyddiannus dros ben yng Ngoleg y Brifysgol Aber- ystwyth, a thair blynedd yn Didsbury, Yn yflwyddyn 1898 y dechreuodd bregethu, a dangosodd ar y cychwyn fod ynddo ddefnydd pregethwr poblogaidd. NID yw pob efrydydd yn abl i wneud fferylliaeth (chemistry) yn bwnc dyddorol mewn ysgol, ond dyma fel yr ysgrifenodd un o blant Ysgol Sir Tregaron ar y "black board" yn ystodun o'r gwersi 0 "halen" a sulphuric Ceir digon o "muriatic,' Fel niwl caddugawl codi wna Yn nwy arogla'n rhone, Ni ellir byth ei yrru Drwy ddwfr-ca ei lyncu, A'r dwfwr bellach—ryfedd ras Y "litmus" glas wna gochi. Pe'r "corkyn" wnai chwi dynnu. Me'i cawsech ef yn mygu Beth sydd yn bod ? yr H.Ce. A'i niwloedd del sy'n codi. Pe'i profech, rhowch e'n gynta I gyffwrdd ag ammonia, Daw sal-ammoniac wrth wneud hyn Yn dew a gwyn fel eira. >. Rhoi'r manganese dioxide Ar hydrochloric acid, O'r bedd lie mae y ddau'n gyfun Melyn-wyrdd glorine gyfyd.

[No title]

Advertising