Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
GWLEDD BELSASSAR.
GWLEDD BELSASSAR. ZRhoddir dwy bunt o wobr i'r mab a adroddo oreu y darn canlynol, yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, ym Mehefin nesaf. Y beirniad fydd Llew Tegid.] Ar y wal draw, e welir Ger gwen y canwyllbren hîr, Ryw ddigorph ddelw anelwig, Deneu, gfLI, heb gnawd-neu gig. 0 mor drwm, ar y mur draw, A Ilesgaidd y mae'n Ilusgaw; Ac a bys, fel fflamawg bin, Llysg eiriau, a. llws gerwin. O! a!"r newid wnai'r rieuadd, Sigla, dygryna pob gradd. Traidd trwy eigion y fron frau Waedd ddwys yr arglwyddesau, Dacw gerf-lun Bel uchelwawr O'i le yn cwympo i lawr. Llewyga gwawl y llugyrn, Deryw eu chwai belydr chwyrn 011, ond rhyw wyrdd-der teryll;— Llewyrn yw, 'n lleueru'n hyll, I ddangos gweddau ingawl Ac erchyll, rhwng gwyll a gwawl. Aeth fferdod drwy 'u haelodau Fel caethion mewn cyffion cau. Dyheu mae mynwes euog-Belsassar, Fel arth udgar, anwar, newynog. Mae braw y Llaw alluog-yn berwi Trwy wythi ei waed toreithiog. Dafnau o annwn sydd yn defnynu Acw i'w enaid euog, ac yn cynnu Mewn llewyg drathost mae 'n Ilygadrythu Ar yr ysgrifen sydd yn serenu Rhag ei wyneb, ac yn daroganu Rhês o wythawl ddamweiniau er saethu Tan i enaid y brwnt, a'i ennynnu. Gan boen a gloes mae'r gwyneb yn glasu, Dan ymwylltiaw, a'r llygaid yn melltu. Cyhyr y bochau sydd yn crybychu, A'r dannedd ifori yn rhydynu. Mal dyn ar foddi, yn 'screch ymdrechu, Diflin y mae ei freichiau 'n ymdaflu, Mae llinynau llym y Ilwynau'n Ilammu Gan ddychryn, a glin mewn glin yn glynu. Braw 'r canlyniad sy 'n irad fraenaru, Fel fflamawg eirf miniawg yn ymwanu, Ei ddiriaid enaid, gan ei ddirdynu. Ys garw uched y mae yn ysgrechu Deuwch weithion, dywysogion sywgu, Symudwch y rhin sy i'm dychrynu A ddaw o fil ddim un i ddyfalu Ystyr yr ysgrifen, a'i dilennu ? Ond d'wed golygon trymion yn tremu, Uwch un ymadrodd, nad y'ch yn medru." Yna mae'n gwaeddi, a'i lais yn crynu, Yn groch ac erchyll, Gyrrwch i gyrchu Y doethion a'r dewinion i dynnu Yr hug a wahardd i'r drygau oerddu, Odid a lunia, gael eu dadlenu. Ac i y rhai y ceir rhu-anynawd Fy nhlawd gydwybawd i yn adebu." Acw yn hedeg y gwelir cenhadwyr Drwy bob congl i ymofyn deonglwyr. Ar wib rhedant, y doethion a'r brudwyr, I'r Llys rhieddawg, a'r holl seryddwyr. Saif draw, ger y LLAW, yr holl wyr—yn fud, Oil yn astud i ddarllen ei hystyr Tremiant a syllant yn syn ;-ac yna Dadganant mewn dychryn, Bys Duw, mae'n hyspys yw hyn:- Rhyw hael-ddysg uwch marwol-ddyn.'
CYMRU YN ALASKA.
CYMRU YN ALASKA. Nid yw dyddiau'r anturiaethwyr wedi darfod, ac adroddir hanes yn y Drych di- weddaf am helyntion nifer o Gymry ydynt wedi troedio i Alaska bell, sydd yn darllen fel pennod o lyfrau rhai o'n nofelwyr goreu "O'r deg o honom," medd yr ysgrifen- nydd, a gychwynpdd o Valdez ar y 7fed o fis Mawrth diweddaf, y mae pedwar o honom yn aros yma hyd heddyw. Gorfodwyd un o'r enw Harries i fyned yn ei ol o herwydd rhewi ei draed ar y trail. Am fy hen gyfaill Tom Griffiths, yr oedd gwres cariad wedi suddo mor ddwfn i'w gyfansoddiad nes y meiriolodd y rhew a'r eira o amgylch ei draed ac y gorfu iddo droi yn ol efo traed oer, a deallaf ei fod wedi priodi un o ferched mwyaf talentog glanau'r Tawelfor. Ynfuan dychwelodd Bob Jones a H. Walters i Seattle hefyd, wedi gweled digon o lenwi boliau ar fwyd moch afradlonaidd Alaska. Bu Bill Moses a Brown allan o waith yn hir wedi cyrraedd yma, a'r gwaith cyntaf gafodd Brown aeth y gaib i'w droed. Aeth i'r ysbyty am beth amser a digalonodd. Dywedai'r doctoriaid ei fod allan o'i ben a chollwyd ef yn ddi symwth o'r wlad, ond clywais ei fod wedi cyrraedd Butte, Mont., yn ddiogel. Torri ei galon. Druan o'i gydymaith William Moses. Gweithiodd beth amser gyda mi. Cymro rhadlon difai ydoedd Bill. Cymru a Chym- raeg oedd testyn ei sgwrs bron bob amser. Aeth oddiyma i weithio ar 13 Coldstream Creek, a gweithiodd am yn agos i ddau fis yno, ond torodd y cwmni a chollodd ei gyfiog oil. Dywedodd yr hanes wrthyf pan oeddynt yn gadael Fairbanks. Teimlodd y siomedigaeth mor dost nes aeth i ymofyn llymed i dy tafarn i anghofio ei dribini ond deallaf iddo gymeryd gormod, gan nad oedd wedi arfer yfed llawer, ac wrth fyned adref syrthiodd i'r baedd gwyllt (slough) a boddodd mewn rhyw bedair modfedd o ddwfr, oddeutu Medi 4ydd. Hawliai rhai mai hunanladdiad ydoedd, ond yr ydym ni ag oedd yn ei adnabod yn gwybod yn llawer gwell na hyn. Teimlaf drosto o waelod calon, yn fwy feallai am nad oeddwn yn ei gladdedigaeth i dalu y gymwynas olaf i fy hen ffrynd hoff. Ychydig ddyddiau cyn i'r anffawd hon ddigwydd claddwyd hen Gymro arall o'r enw Samuel Barlow Roberts, neu Tad Roberts, fel y gelwid ef yma gan bawb. Un o Ddeheudir Cymru ydoedd, ond bu yn Pennsylvania am rai blynyddoedd. Aeth oddiyno i Des Moines, Iowa. Ymfudodd i'r Klondike yn 1898, ac oddiyno daeth yma yn 1903. Cymerodd ddarn o dir yma a dech- reuodd ffarmio. Claddwyd ef gan yr Odydd- ion ar y 30ain o Awst. Ar yr un adeg gor- weddai fy nai yn yr un ysbyty a'r Tad Roberts" gyda'r pneumonia, ond y mae wedi llwyr wella erbyn hyn. Gwelir felly nad oes ond tri, sef Ned Hughes, Dick Walters, a minnau wedi dod allan o'r ffwrn heb niwed hyd yn hyn. Gwlad y rhew. O'r diwedd mae y gauaf maith a blin wedi ein goddiweddyd; popeth yn gwisgo mantell wen, y llynoedd a'r afonydd wedi caledu, fel y gall yr Esquimos gerdded drostynt, er nad oeddynt yn gwybod dim byd am wyrthiau. Y mae llais mwyn yr adar man wedi distewi am ennyd, ond swn soniarus bleiddiaid rheibus wedi cymeryd eu lie oddeutu drws y caban. Gwelwyd yr alarch, y gwyddau a'r hwyaid gwylltion wythnosau yn ol yn 'ffoi tua gwlad haul a blodau bythol California. Disgwyliwn bob dydd weled mintai o geirw, sef caribou (reindeer Alaska) yn myned heibio i wlad gynesach i auafu ynddi. Ffoant fel Lot o Sodom" wrth y miloedd. Gyda'r rhai hyn, neu yn hytrach wrth eu sodlau, gwelir cannoedd o fleiddiaid yn eu dilyn, ac yn awr ac yn y man fe'u gwelir yn ymosod ar un neu ddau o'r fyddin fawr, a gwnant waith byr o 'honynt. Os digwydd i un fod yn wanach na'r lleill neu yn un o'r stragglers, mae y blaidd ar ei war mewn eiliad. Gwelir llawer o ddoethineb wrth edrych i fewn i arferiad y caribou ar y daith fel y maent yn newid y blaenoriaid bob rhyw ychydig o latheni. Y maent yn disgyn yn 01 a rhai newyddion yn cymeryd yr arwein- iad i dori y trail. Ddwy flynedd yn ol cymerodd agos i wythnos i'r fintai fawr fyned heibio. Nid oes angen dweyd fod pob dyn a'i ddryll wedi ei lwytho i'r ymylon yn barod i dderbyn y tramps ar eu taith. Mae yr arth gauaf gysgadur wedi rhuthro i'w fwthyn clyd am y gauaf mewn hollt neu ogof yn y graig, neu wedi tirio twll yn y ddaear, fel cwningen yr Hen Wlad. Y mae un o honynt o fewn can llath i fy mhreswyl, ond rhag iddo wneud camgymeriad o newid dau dy yr ydwyf am gael holiday yfory i'w baratoi i'r crochan. Yr oedd ef yn cysgu yn drwm heno pan y gelwais gyda fy rifle am "friendly visit." Dywed rhai na ddylwn i ddim cario y fath erfyn, gan nad oes modd i ddyn fyned o flaen ei amser; ond cariaf ef yn gyson rhag ofn fod amser yr arthes wedi dyfod. Yn fore yfory cyneuaf dan a mygaf hi allan o'i phalas, ac yna rhoddaf iddi belen o blwm. Os daw unrhyw Gymro ar ei hynt y ffordd yma y gauaf yma caiff or- phwys ac ymborthi ar roast bear. Peth od iawn ydyw fod yr anifeiliaid hyn yn dod allan o'u ffau yn y gwanwyn can dewed a mochyn tew, tua modfedd a haner o frasder dan eu croen. (I'w barhau.)
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddi-n y gwahanol Gymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig, i'w gosod yr y Golofn hon. 1909. Ionawr 21- New Jewin. Cyngerdd Blynyddol. Ionawr 28- Barrett's Grove. Cyngerdd Blynyddol. Chwefror 4- Eisteddfod Battersea Rise. Chwefror 11- City Road. Cyngerdd Blynyddol. Chwefror 18- Cyngerdd Eglwys M.C. Wood Green yng Nghapel M.C. Sussex Road, Holloway. Cinio Cymdeithas Gwyr Morganwg. Chwefror 20- Eisteddfod Flynyddol y Tabernacl, King's Cross. Mawrth 11- Cyngprdd Cor yr Eisteddfod yn Queen's Hall. Mawrth 27— Cyfarfod Terfynol yr Undeb yn King's Cioss. <
Advertising
Note New Address. JOHN ROBERTS, Tenor, Concerts, At Homes, Oratorio, &c. "GLASLYN," HARLESDEN ROAD, WILLESDEN GREEN, N.W. Miss TEIFY DRYIES, SOPRANO, IN LONDON FOR THE WINTER. 10, WILLOW ROAD, HAMPSTEAD N.W. MISS MAGGIE DAVIES, A.R.C.M., receives a limited number of PUPILS FOR SUSTG-INGK All communications to be addressed to Miss MAGGIE DAVIES, 50, Chandos Road, Willesden Green, N.W. MlIDee DHVIES, A.R.e.moo Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. NOTE NEW ADDRESS:- 495, OXFORD STREET, W. (Near Marble Arch). Miss MAY JOHN, SOPRANO.—First Prize at World's Pair, Chicago and Double Medallist of R.A.M. For Oratorio, Ballad and Miscellaneous Concerts and Eisteddfodau. Apply direct to- f31-11 20, Montgomery Street, Roath Park, Cardiff. DHVID RieHHRDS, ORGANIST AND CHOIRMASTER, Welsti Tabernacle, King's Cross. Ticcepp/ijsis'F w ceiECKi^s, lkc. i £ EjSS0N$ ON Illjlh 0WJS, 53, BATTLEDEAN ROAD, HIGHBURY, LONDON, N;