Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. Bac. DISGYBLAETH CoR.-Daeth i'm meddwl i ddyfynu rhai o sylwadau gwr profiadol ar hyn, wedi i gor y Saeson, o Willesden, drechu y corau Cymreig yn Hammersmith ddechreu y mis hwn. Y mae pawb, fe ddichon, yn gwybod yn dda na fydd corau Cymreig y dyddiau hyn yn colli gwobrau oddigerth am y rheswm nad ydynt yn dar- paru yn ddigonol. Dyweddodd Mr. L. J. Roberts, M.A., yn ddiweddar fod rheswm arall hefyd ar brydiau, sef fod y Saeson yn gofalu am arweinyddion corawl cymwys, tra nad ydyw arweinyddion corau y Cymry yn fynych ond cerddorion cymedrol a gweith- wyr Cyffredin (pob clod i'r cyfryw !); ond ychydig iawn o bwys sydd i'w roddi ar y sylw olaf hwn ar hyn o bryd, canys lie byddo arweinydd cymedrol, gofelir am gyflogi trainer i ddod a'r cor i'r pwynt uchaf o ber- ffeithrwydd. Lie na wneir hyn, y mae yn naturiol ini gasglu fod yr arweinyddion yn abl i ddisgyblu y cor, ac i'w gael i ganu y gerddoriaeth mor gywir ag a fyddo yn bosibl. Credaf, modd bynnag, mai nid anfuddiol fydd defnyddio rhan helaeth o'r golofn hon, am wythnos neu ddwy, i sylwi ar y pethau y dylai arweinydd corawl eu gwneud er dis- gyblu ei gor yn briodol. Gobeithio y gwna y sylwadau les i'r cyfryw yn ogystal ag aelodau ein corau. DEFNYDDIAU COR. Dyma y pwnc cyntaf i sylwi arno. Mae yn anhawdd dweyd pa un yw y prinnaf, tenor pur neu fas. Yn Llundain (meddir), y mae y gwrywiad i gyd yn myned yn faritones: rhai yn canu has pryd nas medrant ganu yn is nag A, a rhai yn canu tenor heb allu cyrraedd E. Y pwnc nesaf ydyw gofalu fod ansawdd y lleisiau yn dda. Cymerer lleisiau bychain, os o ansawdd da. Rhaid bod yn ofalus gyda lleisiau mawr, o herwydd gall y cyfryw fod yn achos o Hinder mawr. Gocheler leisiau fflat, hefyd lleisiau metelaidd fyddo yn treiddio drwy leisiau pawb ereill, y rhai na ellir eu plygu, eu coethi, na pheri iddynt ymdoddi gyda lleisiau ereill. Elfen beryg- lus, hefyd, mewn cor, ydyw un fyddo yn arfer canu solo; os na fydd y cyfryw yn ewyllysgar i weithio yn galed fel y lleill, bydd yn debyg o wneud niwed. Y peth nesaf ddaw dan sylw ydyw amcan yr arweinydd. Dylai fod cyd-ddealltwriaeth hollol rhwng yr arweinydd a'r cor awdur- dod hollol ar y naill law, ac ufudd-dod siriol a deallgar ar y llaw arall. Dylai cael hyn fod yn amcan gan yr athraw. Ni ddylai dwy farn gael eu traethu na'u coleddu yn y cor gyda golwg ar lais, ymarferiadau, na mynegiant. Gair yr athraw ddylai fod deddf y cor yn y pethau hyn. TONYDDIAETH BUR. Y peth nesaf i'w ennill ddylai fod ton- yddiaeth bur. Yn anffodus, y mae gormod o eisiau gofal yn y peth hwn. Mor fychan ydyw rhif y rhai fedrant leisio yn felus a phur Un a rydd sain anhyfryd o daflod ei enau, ac un arall a grugleisia o'i wddf. Rhaid i'r pethau hyn oil gael eu symud oddiwrth y Ilais fel us oddiwrth y grawn, neu sorod oddiwrth yr aur, fel na byddo yn aros ond y llais pur, eglur, a gwerthfawr. Yn nesaf, rhaid edrych ar y cor fel pedwar o bersonau, a dwyn y rhai fyddo ymhob rhan i leisio fel pe na byddai ond un person, o ran ansawdd a nerth. Wedi hynny, daw mantoliad nerth rhwng y gwahanol rannau. Gwnaf sylwadau ar y paragraph olaf hwn yr wythnos nesaf. GWEITHIAU MAWRION DR. PARP.Y.-Geilw gohebydd sylw at yr anffawd sydd wedi digwydd i ddau o'r cyfryw. 0 berthynas i "Blodwen," dinystriwyd yr oil o'r plates yn swyddfa y Western Mail, Caerdydd, pan y bu. tSn yno, ac nid ydoedd y cyfryw plates wedi ei yswirio Felly, cyn y gellid cael ychwan- eg o gopiau o'r gwaith tra swynol hwn, byddai yn ofynol gwneud plates newyddion. Os na fydd i berson neu bersonau neilltuol ymgymeryd a hyn, tybed y bydd i'n cenedl oddef i'r gwaith, oherwydd yr amgylchiad anffodus uchod, fyned yn ddi-ddefnydd. Hefyd, dyna'r gwaith gorchestol Saul o Tarsus," am yr hwn y dywed y gohebydd ei fod "the finest work of any Welsh com- poser, living or dead." Y mae y cwmni gyhoeddodd y gwaith wedi myned allan c fodolaeth.. Gwerthodd yr hawlfraint ynddo i Leonard a'i Gyf. Ymddengys nad ydyw y cwmni hwn yn gwybod dim am y band' parts, ac ofnir eu bod wedi myned ar goll. Y mae pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Colwyn Bay yn barod i gyfrannu pum' gini tuag at y gost o gael band parts newyddion.. Y mae Mr. John Williams, Caernarfon, a Mr. David Trehearn, Rhyl, hefyd yn barod i gyfrannu. A oes rhywun ymhlith darllenwyr cerddorol y KELT yn barod i gyfrannu ? Bydd eisiau o leiaf ddeg punt ar hugain. Carwn yn fawr pe gallai y sylwadau hyn fod yn foddion i ddenu rhywrai i helpu yn yr achos da hwn. Gobeithio na fydd yr apel hon ofer. DAVID JONES (Meirionfab).—Y mae yn bryd bellach i ni ganlyn ymlaen gydag ysgrifau yr anwyl frawd hwn. Yn yr un sydd o'm blaen, geilw sylw at Wyl Handel," yn y Palas Grisial, a dyma ei sylwadau :— Ganwyd Handel yn y flwyddyn 1684, ac er ei fod wedi cyfansoddi ei oratorios diail ers. agos i ddau can mlynedd, ni fu yr un cyfansoddwr o'i flaen, nac ar ei 61, tebyg iddo, a chydnabyddir trwy gydsyniad cyffre- dinol mai efe yw Brenin yr Oratorio ac ystyrir rhai o'i brif weithiau yn oruwch- naturiol ac ysbrydol. Cynhaliwyd yr wyl gyntaf goffadwriaethol iddo yn y flwyddyn 1784, ymhen can mlynedd ar ol ei enedigaeth, yn Westminster Abbey, a dwy wedi hynny yn 1791 a 1834, yn yr un lie. Yn 1857, ail gychwynwyd hwy, yn y Pala& Grisial, gan y Sacred Harmonic Society, yn bennaf o dan arweiniad Sir Michael Costa, yr hwn yn ddiau oedd yn arweinydd llawer mwy galluog a mawreddog na'r un presennol, gyda phob ddyledus barch iddo. Cyn- haliwyd yr ail yn 1859, a'r drydedd yn 1862 -yr hon oedd y gyntaf i mi gael y fraint o'i mwynhau, ac nid anghofiaf byth yr effaitb. gafodd arnaf. Fel un oedd wedi clywed fawr ond bref- iadau y defaid rhwng hen fynyddoedd Meirion, heblaw ychydig o gorau bychain y wlad, yr oedd clywed tua phedair mil, rhwng lleisiau ac offerynau, yn canu For unto us a Child is born," &c., &c., bron yn ormod i gig a gwaed ei ddal, a theimlwn rhyw las yn mynd drosof. Credwn na fu y fath ganu er pan ganodd ser y boreu, ac yr oeddwn fel y disgyblion gynt eisiau cael gwneud yno dair pabell." Y prif gantorion y flwyddyn honno oeddynt, Titiens, Sherington, Ruders- dorff a Dolby. Hefyd Sims Reeves a Weiss. Yr wyf wedi dilyn yr Wyl yn gyson er hynny (1862), ac yn aelod o'r cor ers blynyddau, ond y mae argraff yr un gyntaf a gefais yn fwy byw ar fy meddwl na bron yr un a gynhaliwyd yr wythnos hon. Cyn- efino yr wyf a hwy, mae'n debyg. Wedi hyn, wele rai o sylwadau Mr. Jones ar y canu yn Eisteddfod Genedlaethol Llan- dudno, 1896. Dywed am Gor Merched Llundain, mai efe oedd yr olaf i ganu, ac fod y gystadleuaeth yn sefyll rhwng Birken- head a Llundain. Yr oedd yr olaf yn fwy poblogaidd gan y dorf Mae'n debyg am

NODIADAU LLENYDDOL.