Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
ADOLYGU'R GWAITH.
ADOLYGU'R GWAITH. Blwyddyn hynod fu blwyddyn 1908 yn ei hanes a'i gwaith a phriodol ar derfyn ei dyddiau ywadolygu rhai o'i phrif ddigwydd- iadau, er ceisio canfod eu dylanwad ar ein cenedl fechan ni. Pan dorrodd gwawr 1908, yr oedd teimlad o ansicrwydd dirfawr yn y cylchoedd mas- nachol a gwleidyddol; ac i fesur mwy neu lai bu hyn fel hunllef yn gorwedd ar ei holl fisoedd. Addefir yn lied gyffredin na fa masnach erioed yn fwy isel ei chyflwr a hynny yn gyffredinol ar draws pob cyfandir, yn ogystal a thros ein hynysoedd ni. Pan ddechreuodd y Weinyddiaeth hon ar ei gorchwyl, bu'n ffodus i gael dwy flynedd eithriadol o lewyrchus, a chyhoeddodd Bwrdd Masnach ffigyrau a edrychent yn anhygoel bron. Ond yn awr y mae'r rhod wedi troi, a cheir prawf fod ffigyrau y flwyddyn hon ar fin cyrraedd eithafnod arall yn hanes mar- weidd-dra masnachol. Er hyn oil, y mae ardaloedd y glofeydd, a'r prif fwngloddiau, wedi cael cryn lawer o lewyrch. Nid yw bro Morganwg wedi bod yn fwy bywiog era talm, yc y mae gweith- feydd ardal Abertawe, a'r cymoedd cylchynol, wedi bod yn hynod fywiog. Yn y Gogledd, mae ardaloedd y chwareli wedi dioddef yn ddirfawr, a hynny, meddir, am fod llechi tramor yn cael eu cludo i'r wlad hon, a'u gwerthu am brisoedd is nag y gellir codi llechi ym Mhrydain. Ond y mae argoelion mwy llewyrchus yn dechreu torri, a daw'r hanes diweddaf fod pethau yn dechreu gwella yn Ffestiniog a Bethesda. Amaethyddiaeth. Ond er cymaint y cwyno yn y cylchoedd masnachol, y mae'n foddhaus deall fod cyflwr yr amaethwyr yn graddol wella yn y blyn- yddoedd hyn. Ymhob ardal amaethyddol yr un yw'r newydd, fod y prisiau yn dal yn rhagorol, ac fod y cnydau a'r cynnyrch wedi bod yn dra llwyddianus yn ystod y flwyddyn. Tra deil amaethyddiaeth mewn cyflwr Ilew- yrchus, y mae gobaith y gwelir adlais o'r llwyddiant yn y cylchoedd masnachol hefyd. Ond er mor oleu yw bywyd y ffermwyr y dyddiau hyn, y mae'n syndod mor ychydig yw nifer y ceisiadau am fan dyddynod yng Nghymru. Hen gri y blynyddoedd diweddaf oedd, "Y tir i'r bobl"; ond nid yw ein harweinwyr gwleidyddol, yng ngwahanol gymoedd Cymru, yn awyddus iawn i ddangos eu cefnogaeth i'r ceisiadau a wneir, ac ofnwn fod y man landlordiaid lleol yn fwy trahaus a chrebachlyd nag oedd yr hen ysweiniaid erlidgar yn yr oes o'r blaen. Gwir mai peth newydd yw'r Ddeddf hon ond hyderwn y gwelir cyfnewidiad dirfawr yn ei gweithiad yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Gwleidyddiaeth. Ar ddechreu 1908, yr oedd yr hen arwr .gwleidyddol, Syr Henry Campbell Banner- man, yn hongian rhwng dau fyd. Yr oedd wedi colli ei ddylanwad fel arweinydd ei blaid, a syrthiodd y gorchwyl ar ysgwyddau Mr. Asquith. Dechreuwyd ar waith Seneddol y flwyddyn tan amgylchiadau hynod o an- ffafriol, ond gosodwyd rhaglen fawr o flaen aelodau Ty'r Cyffredin yn araith y Brenin. Yn nechreu Ebrill ymddiswyddodd Syr Henry-ac, fel y gwyddis, bu farw cyn diwedd yr un mis, pan wedi cyrraedd ei 71 mlwydd o oedran. Bu raid aberthu mis Ebrill yn hollol, er mwyn ad-drefnu'r Wein- yddiaeth, a gwaith pur drafferthus fu hefyd. Gydag anhawster y llwyddai rhai o'r aelodau gael eu hail-ethol; a bu gorchfygiad Mr. Winston Churchill, ym Manceinion, yn rhyw gysur i'r wrthblaid o fewn y Senedd. Dyrch- afwyd Mr. Lloyd George i fod yn Ganghellwr y Trysorlys, a chafodd ereill swyddi yn y Weinyddiaeth; ac mae gan Gymru le i lawenhau am y safle anrhydeddus a roddwyd i'w phrif arweinwyr. Cyn gorffen y gwaith a drefnwyd ar ddechreu'r tymor, bu raid cael eisteddiad hydrefol, a chadwyd wrth y gorch- wyl hyd o fewn i swn gwyliau y Nadolig ac mae rhestr y mesurau a lwyddwyd i osod ar Ddeddf-lyfrau ein gwlad yn dra phwysig. Y Prif Fesurau. Ymysg y prif Fesurau a ddiangasant drwy Dy'r Arglwyddi, heb eu hanafu yn ddirfawr, gellir enwi a ganlyn :—Deddf Pensiwn i'r hen bobl, yr hon a ddaw mewn grym ar y laf o lonawr, 1909. Deddf y Plant, er eu hamddiffyn rhag rhieni creulon a themta- siynau a drwg arferion. Deddf y Drwg- weithredwyr, er galluogi barnwyr i gadw drwgweithredwyr dan reolaeth barhaus. Deddf Porthladd Llundain, i brynnu yr holl borthladdoedd ar y Tafwys, a'u gosod oil dan reolaeth y cyhoedd. Mesur Wyth Awr i Fwnwyr. Mesur Prifysgolion i'r Iwerddon. Mesur i ymwneud a Rheolaeth Cyfarfodydd Cyhoeddus; ynghyda rhodd o dros gan mil o bunnoedd tuag at wella cyflwr y diwaith. Ond cafodd dau Fesur mawr y tymor eu difodi yn hollol. Bu Mesur y Trwyddedau yn cael ei ddadlu yn hir yn Nhy'r Cyffredin, ac er y credir ei fod yn un a geisir gan y wlad yn gyffredinol, gofalodd Ty'r Arglwyddi am fuddianau y darllawyr, a thaflwyd y Mesur o'u gwydd yn lied ddiseremoni. Aeth Mesur
[No title]
11 SYR ALFRED THOMAS, Cadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd, a'r gwr sydd wedi cael addewid Mr. Asquith ar Fesur Datgysylltiad. Z3
Cyfnod Newydd.
Addysg, hefyd, yn aberth i gynddaredd yr Eglwyswyr; ac er y credid ar un adeg y buasid yn llwyddo gyda math o gytundeb canolog rhwng y pleidiau, bu raid gohirio'r cyfan, a gadael Pwnc Addysg i fyned ymlaen yn y wedd anfoddhaus bresennol. Beth fydd llais y wlad ar y methiantau hyn, y mae yn rhy gynnar eto i siarad yn ei gylch, ond y mae'n amlwg fod y Weinyddiaeth wedi cadw at ei rhaglen gyda chyndynrwydd canmol- adwy. Cyfnod Newydd. Diau mai Deddf i roddi Blwydd-dal i hen bobl fydd y mesur a wna fwyaf o gyfnewid- iad yng Nghymra. Trwy ei offerynoliaeth, llwyddir i ddileu y tlodi a'r caledi ymysg hen bobl yr ardaloedd gwledig ac mae Uu o'r rhai hyn drwy Gymru gyfan. Bu'r cyn- Ilun dan sylw ami i seneddwr cyn hyn, ond ni feiddiai neb wynebu'r anturiaeth cyn i Mr. Asquith a'i blaid o gefnogwyr Rhydd- frydol roddi'r ysgwydd tan y baich. Bydd yn rhaid wrth lawer o dollau newydd cyn cael yr arian angenrheidiol at y bwriad ond diau y llwydda Mr. Lloyd George i oresgyn pob anhawster sydd yn awr ar ei lwybr. Ar foreu Calan nesaf bydd miloedd o hen Gymry yn dechreu cyfnod newydd cyfnod o hapus- rwydd a dedwyddwch, ni a hyderwn, a hynny trwy weithred dirion haid o Seneddwyr, sydd a llesiant eu cydwladwyr mewn golwg bob amser. Bu Ty'r Arglwyddi yn edrych yn lied sarug ar y Mesur pan aeth drwy eu dienyddfa hwy, ond ni feiddiasant ei fathru, gan y gwyddent fod y wlad o'i du. A phe bae'r Senedd heb wneud rhagor na gosod y Mesur hwn ar ddeddflyfrau ein gwlad, yr oedd yn ddigon i ddweyd fod tymor 1908 yn y Senedd wedi ei hollol gyfiawnhau.
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. A barnu oddiwrth yr addewidion ynglyn a'n gwahanol gylchgronau ar ddiwedd y flwyddyn hon, nid yw oes ein llenyddiaeth i ddarfod yn fuan. Y mae'r Traethodydd a'r Geninen yn bwriadu cael ysgrifau ar faterion pwysig yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a dywed Golygydd dysgedig Cymru y bydd ei fasgedaid yntau mor llawn o amrywiaeth ag erioed. Yn wir, gofala i ddechreu'r flwyddyn gyda llwyth o bethau tra dyddorol, ac i'r amcan o'u cynnwys mae yn trefnu i gyhoeddi rhifyn dwbl. Ac am y llyfrau sydd i wneud eu hymddangosiad ddechreu'r flwyddyn- wel, mae eu nifer yn lleng, a bydd yn werth cofnodi, er dyddordeb i wrthwynebwyr ein hiaith, y byddant yn rhai Cymraeg bron i gyd. Mae'n wir nad crefft sy'n talu'n dda yw'r grefft o lenora yng Nghymru. Hyd yma y mae'r Cymro ar ol i'r Sais yn ei ddawn o wneud pres o ffrwyth ei efrydiau caled. Y rheswm yw fod y Cymro yn dra awyddus am roddi gormod o nwydd am yr arian, tra y gofala'r Sais ychwanegu at faint ei nwyddau trwy osod llu mawr o hysbys- iadau ym mhob llyfr rhad a ddug drwy'r Wasg. Ond peth diweddar yn hanes y bardd Seisnig yw, ei fod yn abl i sicrhau gwell pris na'r bardd Cymreig am ei gyn- yrchion. Yr wythnos ddiweddaf bu'r genedl yn coffhau tri-chan-mlwyddiant geni John Milton, a chofir i'r gwr hwnnw, er cymaint ei allu a'i ddylanwad, orfod boddloni ar bum punt fel gwerth ei waith anfarwol Coll Gwynfa." A gwyr pawb am John Ruskin- y lienor coethaf a fu byw yn yr hanner canrif ddiweddaf-iddo golli arian lawer yn ei anturiaethau llenyddol. I Felly dylid cofio mai nid y Cymry yn unig sy'n gorfod dioddef am nad yw'r cyhoedd yn rhoddi gwerth priodol ar eu cynyrchion. Yr wythnos ddiweddaf yr oeddem yn cofnodi am lenor o'r Deheudir- Idrisfab/'—oedd wedi myned ar goll, mewn awr o orphwylledd debyg iawn. Yr oedd wedi amcanu ennill ychydig drwy gyhoeddi cofiant i'r Gwir Anrhyd. D. Lloyd George, ond profodd y cyfan yn fethiant, a bu'r ergyd yn ormod iddo ei dal. Un arall o lenorion Cymru mewn adfyd yw Glaslyn." Mae dyddiau henaint a thlodi wedi ei ddal, ac mae wedi gorfod cilio am nodded i dyloty Penrhyndeudraeth. Ysgrifennodd lawer yn ei ddydd i'r gwa- hanol gylchgronau, a chyhoeddodd ami i gan yn llawn swyn, ond 'doedd o'r elw ond ychydig. Ac nid Glaslyn yw'r unig un o'r hen lenorion Cymreig sydd heddyw yn gorfod cael nodded yr Undeb i'w gynorthwyo i gael ychydig gysur yn ei hen ddyddiau. Tra yn son am hen lenorion, y mae'n werth ail-adrodd un hanesyn geir yn Cymrlt am Rhagfyr. Mewn ysgrif ddyddorol gan Llew Meirion ar rai o Hen Gymeriadau Dolgellau," ceir cipdrem ar hanes bywyd y gwr doniol a rhyfedd Meurig E brill." Yr oedd Meurig yn meddu cryn dalent fel