Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
,PUBLISHERS' NOTE.
PUBLISHERS' NOTE. The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week.
Advertising
WELSHMAN & KELT OFFICES, THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. It is a unique Advertising medium, as all its columns are READ.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. RADNOR STREET. Pompeii, ei hanes a'i golygfeydd," oedd testyn araith ddysgedig a draddodwyd yma, nos Fawrth ddiweddaf gan y Parch. G. Hartwell Jones, D.D—LIywydd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol — a chaed cynulliad boddhaus i wrando ar y gwr galluog yn rhoddi cipdrem ar banes un o brif ddinasoedd yr Eidal yn yr oesoedd bore, a'r alanas ddaeth i'w rhan yn y flwydd- yn 79 o oed Crist. Eglurwyd y ddarlith gan lu o ddarluniau ar y cynfas, yn yr hyn waith cynorthwywyd y Doctor gan Mr. T. Jones, Cenhadwr. Llywyddwyd gan y Parch. J. Machreth Rees, ac ar derfyn yr araith caed diolch ar ran y dorf gan Mri. D. R. Daniel a T. H. Davies. SIBLEY GROVE, EAST HAM. Cynhaliwyd ein cyngerdd blynyddol nos lau ddiweddaf, pryd y cymerodd y rhai canlynol eu rhan yn ganmoliaethus iawn: Miss Lily Fairney, R.A.M., Miss Blodwen Jones, R.A.M., Mr. B. D. Jones, a Mr. T. Bronant Jones. Adroddwyd gan Miss Dorothy Baynes. Canodd Cor Meibion Sibley Grove eleni eto, dan arweiniad Mr. J. D. Evans, a chawsant gymeradwyaeth uchel y cynulliad. Da oedd gennym gael clywed St. Margaret's Orchestra, dan arweiniad L. V. Drake, Ysw. Dyma item newydd, a chymerodd yn dda. Chwar- euwyd y berdoneg gan Miss Alitheia Davies, L.R.A.M., a Mr. T. E. Lloyd, East Ham. Buwyd yn ffodus i sicrhau Mr. J. Wilfrid Rowlands i gadeirio, ac yn ystod y cyfarfod cawd araith i bwrpas ganddo ar le a phwys- igrwydd y Capel Cymreig ym mywyd ein cenedl yn nhreti mawrion Lloegr. WILLESDEN.-—Yn ei ddarlith ar Ddydd- iau boreuol Mr. Lloyd George," dywedodd Mr. R. Jones, Willesden, mai un o'i hoff arferion fyddai torri ei enw ar goedydd amgylch o gylch Llanystumdwy, heb fawr feddwl y byddai iddo yn y dyfodol dorri ei enw yn ddigon uchel i'r cyfanfyd mawr syllu arno gydag edmygedd. Dywedodd, hefyd, yr arferai Mr. Lloyd George, pan yn fachgen, wneud cychod o hen hulks a hen foncyff pydredig oedd ar fin y Ddwyfawr, a'u llenwi a cherig a phridd (fel y byddai y fireight) a'u gollwng ar war y Hi, gan alw y man y gollyngai hwynt yn rhyw borthladd neillduol, ac mai yno y cafodd y syniad cyntaf am y Port of London Bill. EGLWYS Y DWYBAIN.—Nos Iau, yr 17fed cyfisol, cynhaliodd yr Eglwys uchod ei chyngerdd blynyddol yn y Limehouse Town Hall. Llywyddwyd gan Arglwydd Faer Stepney (yr Anrhydeddus H. L. W. Lawson, Y.H.), yn cael ei gynorthwyo gan ei briod hawddgar. Cvmerwyd rhan yn y cyngerdd gan rai o brif gantorion Cymreig y ddinas, sef Miss Teify Davies, Miss Towena Thomas, Mr. Gwynne Davies, a Mr. Madoc Davies. Chwareuwyd yn fedrus ar y crwth gan Mr. Evan Williams, a chyfeiliwyd i'r oil gan Mr. R. Richards, A.R.C.O. Gofalwyd am yr adran areithyddol gan Miss Irene M. Simpson. Gyda'r fath dalentau disglair, nid rhyfedd i ni gael cyngerdd o radd uchel iawn, a bod yr ail alwadau yn ami. Darparwyd y dan- teithion gan Miss Lloyd, Salmon's Lane. DEWI SANT, PADDINGTON.-Cytlyiii(teiinlail. -Derbynied Mr. Evan Lloyd, Kingsgate Road, Kilburn, ein cydymdeimlad llwyraf ar farwolaeth ei anwyl dad, yn Talsarn, Sir Aberteifi, yn 78 oed. Mae Mr. a Mrs. Lloyd, ynghyd a'i hunig ferch Nellie, yn golofnau yr achos yn Dewi Sant. Bu Mr. Lloyd yn llenwi y swydd o warden yma, a gwnaeth waith ardderchog. Nodded y nef fyddo drostynt fel teulu yn eu galar. Te a Chyng- ey-dci.-Nos Fawrth, Rhag. 15eg, yn St. David's Hall, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, rhoddwyd Te a chyngerdd i ni gan foneddigesau ieuanc yr Eglwys, pryd y mwynhaodd pawb eu hunain yn y modd goreu. Yr oedd y wledd i'r corff yn bopeth ag y gellid ei ddymuno, ac yr oedd y cyngerdd yn un tra godidog. Llywyddwyd am y noson honno gan Mrs. Arthur Strauss, a chafwyd ganddi araith fach dwt a chryno. Cyflwynwyd blodeuglwm prydferth iddi gan un o enethod ieuengaf ein Heglwys, sef Nancy Jenkins, Shelden Street, a rhoddwyd i'r lywyddes groesawiad cynnes. Cymerwyd rhan yn y cyngerdd gan y rhai canlynol— mae eu henwau yn ddigon o sicrwydd ein bod wedi cael cyngerdd ardderchog—Misses Ethel Jones (prize winner National Eistedd- fod Llangollen), Maud Jones, R.A.M., Emilie Wheeler, Ceinwen Prize, Mri. Bevan Cowley, Lloyd Hughes, Cecil Millo-Thomas, Maddy, Tim Evans, a Mr. Vincent Davies. Haedda y merched ieuainc ganmoliaeth uchel am ddyfod o hyd i'r fath artistes a fu yn ein gwasanaethu. Cynygiwyd pleidlais gynnes o ddiolchgarwch i bawb gan Mri. Tom Jenkins, David Evans, J. Watkin Davies, James Williams, Hugh Jones, a'r Parch. W. Richards, caplan. CYMDEITHAS BRUNSWICK.—Cynhaliwyd y Gymdeithas uchod nos Sadwrn ddiweddaf. Llwyddodd Mr. Isaac Williams i ddyddori y cyfarfod drwy ddarllen papur ar Owen Glyndwr." Rhoddodd amlinelliad brwd- frydig a chynhwysfawr o'r cenedlaetholwr eofn a phoblogaidd. Llywyddwyd gan y Parch. J. Humphreys. EISTEDDFOD" BOXING NIGHT.Er mai wrth yr enw hwn yr adnabyddir gwyl flyn- yddol Undeb yr Ysgolion Methodistaidd, dylid cofio mai ar nos Iau nesaf, y noson olaf o'r flwyddyn hon, y cynhelir y cyfarfod eleni. Yn ol pob argoelion ceir cystal cystadlu eleni ag erioed, ac mae'r rhagolygon am gynulliad llawn yn hynod o galonogol. Ceir manylion llawn am yr Eisteddfod mewn colofn arall.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwaJianol Qymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig, i'w gosod yr y Golofn hon. Rhag. 25— Charing Cross Road. Cartref oddi cartref —Cyfarfod Cystadleuol. Walham Green. "Cartref oddi cartref." Te am 6.30. Rhag. 26 (Boxing Night)- Falmouth Road. Cyngerdd Blynyddol. Christmas Tree and Social Evening at the East End Welsh Church, Burdett Rd., E. Rhag. 31- Eisteddfod Flynyddol Shoreditch Town Hall. 1909. Ion. 5— Cymdeithas Ddiwylliadol Leonard Street, City Road. Darlith gan y Parch. Thos. Bhankland. Ionawr 21— New Jewin. Cyngerdd Blynyddol. Ionawr 28- Barrett's Grove. Cyngerdd Blynyddol. Chwefror 4— Eisteddfod Battersea Rise. Chwefror 18- Cyngerdd Eglwys M.C. Wood Green yng Nghapel M.C. Sussex Road, Holloway. Chwefror 20- Eisteddfod Flynyddol y Tabernacl, King's Cross. Mawrth 27— Cyfarfod Terfynol yr Undeb yn King's Cioss.
[No title]
The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name oj the writer, and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee oj good faith.
Advertising
PROFESSIONAL COLUMN. PEDR RLRW, Mus. Bac., Beirniad = ac = Arweinydd = Cymanfaol CYFEIRIAD- 211, GRAY'S INN ROAD, W.C. Miss TEIFY DAVIES, SOPRANO, IN LONDON FOR THE WINTER. 10, WILLOW ROAD, HAMPSTEAD N.W. MISS MRGGIE OH VIES, A.R.C.M., receives a limited number of PUPILS FOR SINGING. All communications to be addressed to Miss MAGGIE DAVIES, 50, Chandos Road, Willesden Green, N.W. LONDON WELSH RUGBY FOOTBALL CLUB, Fixture List, 1908-9. FIRST XV. DATE. CLUB. GROUND 1908. Dec 19 Richmond Away 26 Neath Away 28 Bath .Away 0' 29 Home 1909. Jan. 2 London Irish Home '0 9 Gloucester. Home 16 Old Alleynians Home 23 St. Thomas' Hospital Home 30 R.N.R.U. (Chatham) Away Feb. 6 Oxford University Home 13 Old Merchant Taylors' .Home 20 Bedford Away 24 Cambridge University Away 27 Cheltenham Home Mar. 6 Rosslyn Park Away 13 Blackheath Home 20 Coventry Away 27 Cardiff Away 31 R.N.R.U. (Chatham) Home Apr. 3 Catford Bridge Away 9 Gloucester Away 10 Newport. Away 12 Bristol Away 17 Leicester Away The Home Matches are played at the MEMORIAL ATHLETIC GROUNDS, CANNING TOWN.