Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. MYND A DOD.-Dyna'r drefn y dyddiau hyn. Mae rhai yn dychwelyd o Gymru gan roi eu lle i ereill sy'n heidio yno am eu gwyliau. TREFNU'R GWAITH.—Mae amryw o'r cym- deithasau llenyddol eisoes wedi trefnu eu rhaglenni, ac ereill yn prysur baratoi. Pan fydd dyddiadau'r prif gyfarfodydd wedi eu penodi danfoner hwy i golofn Y Dyfodol," fel ag i osgoi cael gormod o gyrddau yr un noson. Ni chodir tal am osod y dyddiad yn y golofn hon, ond cofied yr ysgrifenyddion na wrthodir hysbysiad mwy yn ol ein telerau arferol. Y PLANT YN DRINGO.—Llawenydd gennym ddeall fod Miss Nesta Rees, merch fechan y prif-fardd Machreth a Mrs. Rees, wedi llwyddo i ennill ysgoloriaeth ragorol tan y Cyngor Sirol, i barhau am dair blynedd. Pob llwydd iddi eto i esgyn ym myd addysg. PRIODAS. Yng nghapel M.C. Wilton Square, Llundain, Awst 4ydd, 1908, unwyd mewn glan briodas, gan y Parch. Evan Jones, Llandudno Junction, Miss Catherine Davies, merch Mr. a Mrs. D. Davies, Cwm- bychan, Trallwm, a Mr. William Salmon Davies, Oxford Street, Pontycymmer (gynt o Claremont Road, Llundain). Y morwynion priodas oeddynt, Miss Annie Davies, chwaer y briodferch Miss Joanna Davies a Miss Maggie Luke, y rhai a ymddangosent ynghyd a'r briodferch, mewn gwisgoedd ysplennydd. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad, un o flaenoriaid parchus yr Anibynwyr yn Trallwm. Cyflawnwyd yn effeithiol ddyled- swyddau y dyn goreu" gan Mr. Tudor Davies, brawd y priodfab. Yng nghanol dymuniadau da lliaws o gyfeillion oeddynt yn bresennol, ymadawodd y cwmni am Inns of Court, Holborn, lie y mwynhawyd gwledd o'r fath oreu, ac yna ymadawodd y par ieuanc a'r Brif-ddinas am y Gower Coast i dreulio eu mis mel. Bu Mr. a Mrs. Davies yn aelodau ffyddlon yn eglwys Shirland Road am flynyddoedd, a dymuniad y bardd yn ddiau ydyw dymuniad yr Eglwys oil iddynt- Dewisaist ti dy Asen,"—a'th Dduw wnaeth Ddau yn un yn Eden Arddeled eich aur ddolen, Drwy hyn o fyd i'r nef wen. E.J.D. MAE Cymdeithas y Graddolion Cymreig ar ddwyn allan dri o lyfrau gwerthfawr. Y cyntaf yw Ail Gyfrol o weithiau Morgan Llwyd, a olygir gan Mr. J. H. Davies, M.A., Aberystwyth. Cofus i'r diweddar T. E. Ellis, A.S., fwriadu cyhoeddi gwaith Morgan Llwyd yn gyflawn, ond torrwyd ef i lawr. pan ar gwblhau y gyfrol gyntaf yn barod i'r wasg. Y CYFROLAU ereill ydynt Diffyniad Ffydd Eglwys Loegr," gan Morus Kyffin, cyfrol a olygir gan Mr. W. Pritchard Williams, Bangor, a'r llall Patrwm y Gwir Gristion," gan Thomas a Kempis, cyfrol a olygir gan y Parch. H. Elfet Lewis. MYNED ar gynnydd mae bri Gorsedd Beirdd ynys Prydain. Yn Llangollen eleni cyflwynir graddau i lu mawr o efrydwyr y rhai sydd wedi myned trwy'r arholiadau yn llwyddianus. Nid urddau anrhydeddus mo'r rhai hyn, eithr graddau a deilyngant y safle oreu ynghylch cyfrin yr Orsedd. YN Y WLAD. Daw hanes o Gastell- newydd-Emlyn fod y cantorion Llundeinig oeddent yno, wedi gwneud eu gwaith yn rhagorol. Ni chlywyd mo Miss Gwladys Roberts yn canu yn well erioed, ac yr oedd Mr. John Roberts mor swynol a'r eos. Y prif gantores, wrth gwrs, oedd Madam Albani, ond gan mai mewn pabell yr ydoedd yn canu, nid oedd ei llais, feallai, mor ber- aidd ag y clywir ef yn rhai o neuaddau mawr Llundain. Er hynny caed cyngerdd rhag- orol ynglyn a'r Eisteddfod yno. CLODFORI'R AELOD.—Yn ardal Aberteifi a gogleddbarth Penfro caed cryn hwyl yr wythnos ddiweddaf wrth groesawu Mr. Roche yn ol o'r Senedd. Bu'n annerch cyfar- fodydd mewn ami i bentref, yn diolch am y fuddugoliaeth, ac un o'i gefnogwyr parotaf ar y llwyfan oedd Mr. Gregory Kean, o King's Cross.
MIRI'R BEIRDD.
MIRI'R BEIRDD. Eifionydd at Lwydfryn: un o arolygwyr Urdd Ojydd- A fyddwch garedicced a galw cyn dydd Iau, wythnos yr Eisteddfod, yn yr Ivanhoe, Llan- gollen, i arwyddo'r tystysgrifau. Llwydfryn yn ateb- Af i fewn i'r Ifan-o I roi'fenw 'raf yno. Eifionydd yn ateb- Yn Llangollen, o gellir, I Ifan-o af yn wir. Dyma Hir a thoddaid buddugol yn Eisteddfod Corwen, am y diweddar Syr Lewis Morris. Llifon yw'r awdwr:— 0 wych gu linach, gloew awenydd Oedd ef, a ganai yr harddaf gywydd. Nodau hyfrydlon y difyr odlydd O'i le goleudeg a glywai gwledydd. Efe'n fardd Hades a fydd-tra bo llên, A thon ei awen fydd byth yn newydd. Ermig nad yw yn ormod-gofyn Ai ysgyfaint barod Yw ? Oni bae i'n ei bod Yn dorf llysieu pae'n darfod. Dywed y Drych mai englyn i "Y Ddeilen" yw'r uchod, a'i fod yn fuddugol hefyd. Gwr o'r enw Gabriel yw'r awdwr, oni bae am hyn buasem yn barod i'w regi. Nid y bardd goreu yw'r critig goreu bob amser, ac nid y critic goreu yw'r bardd goreu 'chwaith. Yn ol y beirniaid 'doedd neb yn deilwng o gadair Corwen yn Eisteddfod Gwyl y Banc diweddaf. Yn ystod yr wyl dyma fel y canodd un o'r beirniaid i goffa Rhuddfryn- Rhoes natur ei swyn iti-a doniau Denol i farddoni Adnod oedd dy awen di O'i chyfrinach fawr heini." Ac yn un or awdlau gollodd y gadair yr oedd yr englyn byw a ganlyn :— O arafed Duw ryfyg- a rhaib oes: Nid yw'r byd ond benthyg; Yn dlotyn pob mebyn myg-ddaw i fod, A daw i wybod rhaid marw'n debyg." 'Roedd yr ymgeisydd ymhell ar y blaen i'r beirniad fan hyn, beth bynnag
[No title]
UN o hen gerddorion enwoca'r byd Seisnig yn ei ddydd oedd Dr. Crotch, yr hwn a aned yn Norwich yn 1775, ac a fu farw yn Taunton yn 1847. GWR doniol am olrhain ystyron a tharddiad geiriau yw Morien, ac mae wedi bod yn ysgrifennu yn ddiweddar ar ystyr yr enw Llundain a Caerludd. Wrth gwrs mae Morien yn wreiddiol yn ei gasgliadau. GAN fod Dr. Crotch yn un o wyr enwog byd y gan, priodol fyddai ceisio profi mai efe ddyfeisiodd y gair crotchet "-enw ar y nodau cerddorol.
Cleber o'r Clwb.
Cleber o'r Clwb. Nos FERCHER. Cynulliad bychan oedd wedi dod i'r Clwh heno. Mae mwyafrif yr aelodau dinesig yn y wlad, ac 'roedd yr aelodau gwledig beb, ddod yn ol o'r Franco-British. Fel y gwyddis nid yw rhialtwch y lie hwnnw yn gorffen cyn deg o'r gloch. Eisteddai Bryn yn hamddenol ar esmwyth- fainc, ac yn y gongl bellaf o'r ystafell 'roedd Syr Marchant yn taflu cipdrem dros raglen yr Eisteddfod. Beth yw eich barn, Syr Marchant," ebe Norick, ar raglen ein Heisteddfod ? Campus wir," llefai'r Marchog dawnus. Mae'n dangos eich bod chi boys Llundain, yn deall eich gwaith a gwaith yr Eisteddfod i'r blewyn." "Ond sut gebyst," ebai Bryn—yr hwn oedd newydd fod yn ei darllen-" na fuasai Cymry Llundain yn rhoddi rhagor o adver- tisements i chi." Baco, a chwrw, a llaeth bob yn ail tudalen a'r testynau," ebe Marchant, yn wawdus, dyna beth ydych chwi yn ei wneud a rhaglen yr Wyl yn y Gogledd." A 'run fath yn Abertawe, hefyd," atebai Bryn, yn sarug. "'Doedd genom ni fawr o amser i'w pharatoi i'r wasg," ebe D.R. neu fe gawsem ragor o hysbysiadau." Lol i gyd," ebe John, 'dyw banner Cymry Llundain ddim yn credu mewn hysbysu, ac mae'r hanner arall yn rhy hoff o'r pres." Eitha gwir," ebe Puleston, neu fe fyddent wedi ymuno a'r Clwb yn well o lawer nag y maent wedi wneud." Onid ydynt yn cefnogi'r sefydliad hwn ? ymholai Bryn. "Dim hanner, fel y dylent," atebai Pen- nant, "a gwaeth na'r cyfan, mae rhai o honynt ar eu heithaf yn erbyn y sefydliad. Yn wir, aeth un capel mor bell a chychwyn sefydliad gwrthwynebol' iddo yn fuan ar ol ei agor. Nid fel yna y mae cael llwyddiant ac undeb." Beth am y prif fasnachdai Cymreig," holai Bryn, onid yw y rhai hyn yn barod i gefnogi yr Wyl pan ddel i fynu ?" Mae'n debyg y gwnant," atebai Norick,. oherwydd mae Mr. Prichard Jones a Mr. John Hinds wrth y llyw, a gwyr pawb eu. bod hwy ymhlith masnachwyr pennaf y ddinas." Ond mae'r testynau yn rhagorol o dda," ychwanegai Syr Marchant, a dylid cael Gwyl teilwng o honom fel cenedl yn Llundain y flwyddyn nesaf. Mae yma ddigon o am- rywiaeth a phynciau gwerth ysgrifennu arnynt. Yn wir, mae yn creu awydd arnaf fod yn gystadleuydd fy hun, oni bae am y rheol na roddir ganiatad i feirniaid gystadlu." Ond feallai y torrir y rheol hon, fel ag a wnaed yn Abertawe," ebe Norick. "Dim perygl," ebai W. E. Davies, "fe ofala i na wneir un math o chwareu'r ffon- ddwybig, ys dywedai Jack Glan y Gors, yn yr Wyl hon." A gwaeddodd pawb hear, hear"; a dymunwyd pob llwydd i'r Eisteddfod gan bawb. AP SHON.
Advertising
13. IT. PRICE, sctilitlazlti, uincc't-, &c.. 5, LOUYAINE ROAD, BATTERSEA, S.W., is prepared to undertake Contracts in all kinds of Building Work. Alterations, Repairs, Decorations, Shop Fitting, Sanitation. — ESTIMATES FREE.
EISTEDDFOD 1910.
Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod— Mr. E. Vincent Evans, 64, Chancery Lane, London, W.C., ac yna fe roddir yr ystyriaeth priodol i'r oil yng nghyfarfod cyhoeddus yr Orsedd ar un o foreuau cynhaliad yr Wyl.