Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
THE CENTRAL I INSURANCE COMPANY, LIMITED. GUARANTEED BY THE 3titrerpeal anfr 3touban au& (llofrs Insurance Ota. Assets exceed £ 11,000,000. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS, &c. | KINDLY I Special attention is called to the Company's FORE- I 1 MOST Personal Accident & Disease Policy, which B WRITE FOR I provides for Free Medical Attendance of Assured's PROSPECTUS I °Wn Doctor' 'n addition to the usual Compensation I for Accidents and Diseases. Branch Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for ————— LIFE ————— INSURANCE. Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager & Secretary.
MILWRIAETH.
MILWRIAETH. Mae rhyw impyn o Sais wedi bod yn ysgrifennu yn ddiweddar i'r papurau yn Llundain gan gyhoeddi fod Ymneillduwyr Cymru ar eu heithaf yn wrthwynebol i'r fyddin ac i'r cynlluniau milwrol sydd wedi eu creu yn ddiweddar gan Mr. Haldane. Ei sail dros hyn, mae'n debyg, yw, na chlywir pregethau milwriaetlms o'r pulpudau Ym- neillduol, ac na cheir un math o arddangos- feydd milwrol yn ein huchel-wyliau cref- yddol nac ar y Sabothau ynglyn a'u capeli. Mae'r ffaith syml fod y pregethwr Cymreig, yn ol syniadau y gwr hwn, yn anwybyddu'r fyddin, ac yn ei chyfrif fel adran wleidyddol yn unig, adran i'w rheoli a'i threfnu gan y gwladweinydd yn heresi rhonc yn ei olwg; ac o ganlyniad rhaid cylioeddi mai cenedl anheyrngar ydym, ac mai dysgu teyrnfrad- wriaeth yw cenhadaeth neillduol y pregethwr Ymneillduol. Ni fuasem yn gwneud un sylw o gyhudd- iad o'r fath oni bae fod ein harweinwyr crefyddol wedi cael eu hudo i ddatgan eu barn ar lythyr yr estron hwn. Yn ysfcod yr wythnos sydd wedi myned heibio mae llyth- yrau wedi ymddangos, oddiwrth ddegau o wyr blaenaf ein gwahanol enwadau, yn tystio fod y Sais hwn wedi camliwio eu distaw- rwydd. Rhagor na hyn, mae rhai o honynt yn rhoddi eu bendith ar y fyddin a grewyd yn ddiweddar gan Mr. Haldane, a gellid casglu fod rhai o honynt mor ffafriol i'r ysbryd milwrol ag yw'r Jingoaid pennaf yn Lloegr. Cydnabyddant fod yn rhaid cael byddin er amddiffyn y deyrnaa, a chyhoedd- ant fod yr Ymneillduwyr mor barod a neb i ddwyn arfau os bydd galw am hynny. Nid ein lie ni yw amelI y datganiadau rhyfedd hyn. Ond y mae'r cyfan yn swnio yn hynod iawn pan ddeallir mai cenhadon Mab Tangnefedd sy'n cyhoeddi bendithion ar ben y fyddin ac yn dymuno pob llwydd iddi. Difodi ysbryd rhyfel ddylai fod cen- hadaeth pennaf yr arweinwyr hyn, a gallem feddwl mai Ymneillduwyr Cymru o bawb ddylai fod yr olaf i addoli yr ysbryd milwrol sydd yn cynyddu mor aruthrol yn y tir heddyw. Mae Prydain Fawr yn cael ei llethu gan feichiau a osodwyd arni drwy ein miri rhyfelgar yn y gorffenol, a thra y gwelir arweinwyr moesol y genedl heddyw yn ceisio cyfiawnhau y cyfan, y mae'n hen bryd i ni ofyn a oes gwerth yn eu cenhadaeth tros ryddid a heddweh. Gallem feddwl mai dyledswydd y dysgawdwr crefyddol yw lladd yr ysbryd milwriaetlms, a gwneud ei eithaf dros ddwyn y byd i garu heddwch a thang- nefedd. Ac mae gwneud hyn drwy glod- fori'r fyddin yn fath o ymgais at addoli Duw a Mammon.
"POT = HUNTERS" EISTEDDFODOL.
"POT = HUNTERS" EISTEDDFODOL. [Gan lOAN WYNN]. Beirdd yr ugain cadair fydd yr unig feirdd a gydnabyddir yn banner olaf y ganrif hon. Dyna yw'r syniad cyffredin os deil y cynllun cystadleuol presennol yn ei fri. Tymor yr her-awdlwr a'r her-englynwr a'r her-unawdwr yw hwn, ac mae man Eisteddfodau'r haf yn dryfrith o'r dosbarth a elwir y pot-hunters "—yn feirdd a chan- torion, yn ogystal ag yn gorau a phartion. Ym myd y gan mae'r gwahanol bwyll- gorau gwledig yn rhoddi pob cefnogaeth i'r pot-hunter cerddorol. Os ceir Eisteddfod yn Llanawel, a'r prif ddarn cystadleuol yn Worthy is the Lamb," daw Llanwlybor a rhaglen Eisteddfodol allan gan roddi yr un prif ddarn yn atyniad mawr i'w gwyl hwythau, ac yn ddiweddarach clyw Llan- geiniog am y peth, a threfna'r gwyr Ileol yno hefyd Eisteddfod gyda'r un prif ddarn yn honno wedyn Gwneir yr un fath gyda'r partion a'r deuawdau yn ogystal a'r unawdau, a'r oil i'r unig amcan o ddenu cystadleuwyr teithiol a rhoddi mantais i'r hanner-proffeswyr a'r dieithr i gipio'r gwobrau ar draul anwy- byddu y talentau lleol. Enillir yr unawdau yn ami gan gantorion sydd wedi treulio blynyddoedd yn yr R.A.M., ac mewn ysgol- ion cerddorol enwog ereill, ac os digwydd i gantor droi yn fethiant yn ei gylch proffes- wrol try yn ol i'r man gystadleuon hyn gan eu gwneud yn fath o gynorthwy iddo i ennill ei fywoliaeth neu i dalu costau gwyl- iau'r haf. Yr un fath gyda'r corau. Dysgir un darn yn lied drylwyr gan gor arbennig, ac yna am y gweddill o'r tymor clywir am dano yn cystadlu yma ac acw mewn eisteddfodau lleol, a'r cyfan i'r unig amcan o ennill pres, ac nid er lies ac addysg gerddorol i'r gwahanol aelodau. Daw yr un ysbryd yn amlwg ynglyn a'r beirdd. Mae'r man gyfansoddwyr hyn yn gwneud byd da drwy ennill cadeiriau am bryddestau ar hyd a lied Cymru. Mae rhai o honynt wedi ennill degau o'r addurniadau hyn am gynyrchion mor brennaidd ag yw defnydd y gadair ei hun. Gwelir yr un rhai wedyn yn llwyddo ar farwnadau i bersonau nas gwelsant hwy erioed yn y cnawd, ac ni chawsant ddim ond braslun o'u hanes. Clywais am un bardd wedi Ilwyddo i gael gwobr am yr un farwnad bymtheg cv weithiau, drwy ond newid enw'r gwrthrych yn y penillion yma a thraw. Yna gwelir yr englynwr cenedlaethol yn cystadlu. ymhob gwyl bron, yn cipio y wobr hanner- coron mewn cwrdd llenyddol plwyfol yn ogystal ag yn ymgeisio ac wedi cipio gwobrau yn y Genedlaethol ei hun. Dosbarth arall o'r pot-hunter" geir ymhlith y beirniaid lleol neu'r swyddogion lleol, y rhai welir yn cystadlu ar rywbeth yn yr un cyfarfod ag y byddont hwy yn cym- eryd rhan ynddo. Caed engraifft o hyn y dydd o'r blaen yngNghorwen, lie y llwyddodd "Llifon" i gipio ar yr Hir a Thoddaid, ae efe ei hun yn arweinydd yn yr wyl 1 Pan fo person yn cymeryd rhan mor flaen- llaw, mwy gweddus o lawer fyddai gadael y maes cystadleuol i ereill. Pan fo arferion o'r fath yn cael eu caniatau, does ryfedd fod grwgnachwyr yn codi yn ein plith, a rhai pobl yn barod i wneud sylwadau anfoneddig- aidd am rai beirniaid a chystadleuwyr- Dylai pob gwyl o'r fath fod uwchlaw am- heuaeth bob amser.