Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CANU PLANT.—O'r nifer o gorau plant glywais i hyd yn hyn, nid wyf yn meddwl ddarfod imi glywed gwell canu nag a gafwyd yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, gan gor Undebol Llanllyfni. Perygl mawr plant ydyw ymollwng i floeddio; ac y mae y don felly, un ai yn arw, neu yn anghywir o ran tonyddiaeth-os nad y ddau. Amlwg ydyw y gwyr arweinydd cor Llanllyfni y ffordd i ymarfer y plant. Y fath burdeb lleisiol gafwyd Y fath ymdoddiad: yr oedd fel triawd o leisiau yn canu, mor unol ydoedd. Gydag ychydig o nerth ychwanegol yn yr altos, dylai y cor hwn roddi cyfrif da o hono ei hun yn Llangollen. Campus, hefyd, ydoedd datganiad budd- ugol y cor undebol o Ddyffryn Nantlle, o'r darn Cydgan yr Angylion." Gosododd goron ar weithrediadau cerddorol yr Eis- teddfod dan sylw, a diau y clywir am dano eto. MR. W. HUGHES.—Da oedd gennyf gyfar- fod a hen gerddor yno, ym mherson y gwr a enwyd. Bu yn arwain cor mawr i fuddug- oliaeth ym Mhwllheli yn 1865, o dan feirn- iadaeth Dr. Parry a Ieuan Gwyllt. Bu hefyd yn arwain corau llwyddianus perthynol i Bryn'rodyn, Maesglas, a Threffynon. Bu wedi hynny yn trigo yn Porthmadog, a bellach wele ef ym Mhwllheli. Tybed y llwyddir i'w gael i ffurfio cor i gynnyg yn yr ail gystadleuaeth yn ein dinas yn 1909 ? Y mae yn ddigon abl i'r gwaith, ac yn llawn o sel gyda'r gan, er fod ei wallt o liw'r eira! Derbyniais don o'i waith, sef Diwygiad," ac efe ydyw awdwr y geiriau. Wele un penn ill 0 Iesu'm cyfaill gwiw, I'th fynwes gad i'm dd'od, I'th ganmol tra bwy' byw, A mwy i seinio'th glod Mae grym dy aberth mawr, A'th loes ar Galfari, Yn denu'm serch a'm bryd, I ddyfod attat Ti. T6n gyfaddas iawn ydyw i'r geiriau. Y mae yn llawn defosiwn, ac wedi ei chyng- haneddu yn gywir drwyddi. Gwyr ein darllenwyr am ddawn Mr. D. R. Hughes, Falmouth Road, a phan ddywedir mai mab ydyw i Mr. W. Hughes, Pwllheli, dyna gyfrif am hynny, onide ? DEINIOL FYCHAN.—Gelwir sylw yma at lyfryn o waith yr adroddwr a'r beirniad hwn ar Adrodd, gan y credaf y bydd ei gynnwys o gryn wasanaeth i adroddwyr a phwyllgorau ydynt yn trefnu rhaglenni Eisteddfodol, &c. Ei bris ydyw swllt, a chyhoeddir ef gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon. Ceir ynddo tua deg- a-thrugain o ddarnau yn cynnwys amryw- iaeth mawr. Y mae Deiniol yn gwybod yn dda pa fath ddarnau i'w darparu, ac ni cha' neb ei siomi os pryn y gyfrol hwylus hon. THE ART OF SINGING (Sir Charles Santley). Y mae yn amlwg oddiwrth sylwadau yr awdwr ei fod yn edmygwr mawr o Sims Reeves, ac y mae ei gredo wedi ei hadeiladu ar yr un sylfaen a'r eiddo ef. Yr aHwedd i'r llyfr ydyw synwyr cyffredin," a'r hwn el i mewn i gynnwys y llyfr yn fanwal gaiff brawf digonol o hyn. Un peth yn erbyn yr awdwr ydyw ei or-barodrwydd i ddefnyddio brawddegau rhwng cromfachau—bai ag y syrth Ffrang- con Davies befyd yn rhy barod iddo, yn ei lyfr ar ganu. Wele rai engreifftiau o lyfr Santley- "with the excuse of (fictitious) cold," &c. "is not cold but heat (of liquor) which," &c. "and making merry (if you can)" &c. that my real register was revealed, to me (high baritone)," &c. Dywed yr awdwr fod yn Llundain ar hyn o bryd, oddeutu deng mil o bersonau yn rhoddi hyfforddiant mewn datganu, ac el ymlaen fel hyn:—" No doubt there are hundreds who teach singing' and pro- duction of the voice who never had a lesson in singing in their lives, and do not know what they mean by production of the voice' The production' of the voice is Nature's work the singing-master's work begins with teaching the emission of the voice after its production." Eto There is the only professor of the true Italian method, i.e., bel canto Italiano, the only professor who understands the management of the breath (with a newly invented pair of bellows) there is the pro- fessor of voice production (in my early days the birch rod was considered the ablest professor of that art)," &c. Ar gadwraeth y llais dywed "I owe the preservation of my voice to the study of the best vocal exercises I could find-the study of the result of study, in the work of the great singers it was my privilege to hear from an early age, and to my good fortune in being able to use my voice in its proper register, with slight deviation, for a number of years It is the Master's business to ascertain the natural compass of each pupil's voice. In order to develop its quality and power, it is absolutely necessary that all exercises be adapted to that com- pass, so as not to force the voice beyond it, up or down." Dywed y rhaid i'r cantor wybod rhywbeth am y celfau, llenyddiaeth a barddoniaeth— yn enwedig yr olaf—hefyd arluniaeth; rhaid iddo wrth wybodaeth o ieithoedd Yr Eidalaeg ydyw yr un fwyaf defnyddiol, gan fod y gweithiau goreu, fel maes efryd- iaeth i'r cantor, yn yr iaith honno. Diau y bydd y sylwadau canlynol o fudd i lawer o'm darllenwyr ieuainc ydynt yn cychwyn ar yr yrfa gerddorol:— You must begin your studies by learning to sing one note at a time slowly, commencing, continuing, and concluding each note in strict time, perfect tune, and with equal power throughout, without the slightest shock at the beginning or the end; in fact, forming a perfect, solid rectangle of sound. This accomplished, you must then learn to sing two notes in success- ion without slur, executed each as in the example above, and without break between them taking breath at each bar, for which a momentary cessation of sound will be necessary at the end of each bar, and so on to three and four notes following. This is the foundation of the Art of Singing, on which all culture of the voice depends; equality and beauty of tone, power," &c. Y mae yn dweyd yn bendant am eirio-y rhaid astudio y peth hwn yn ddyfal, modd y bydd pob gair yn gywir o ran sain a chwbl eglur. Rhaid ynganu'r cydseiniaid yn ddi'mdroi a chadarn (promptly and firmly), gan ddefnyddio'r tafod, y dannedd a'r gwefusau, onide bydd y geiriau yn aneglur. Ni ddylid agor y genau, ond hyd lied bys rhaid iddynt fod at alw i ynganu'r cydseiniaid yn gyflym a sicr. Rhaid i bob sill fod yn eglur yr hyn nas gellir ei sicr- hau heb aros, am ennyd, ar ol pob sill mewn gair, a'u huno yn raddol nes y byddant yn gyfanwaith perffaith. Wele sylw ar anadlu "I have heard," meddai, "and read most amusing instructions for breathing, but, of all, I think, 'abdominal breathing' is the most comical. I have tried in vain to discover whereabouts in the abdomen there exists a store-room for breath; wind there may be, perhaps, but not available for breathing pur- poses." Y mae llawer mwy yn y llyfr hwn y gellid ei ddyfynu i bwrpas ond yr wyf, fe ddichon, wedi gosod ger bron y darllenydd ddigort i'w demtio i'w brynu a'i astudio yn fanwl. Y mae yn llyfr difyr i'w ddarllen, gan fod yr iaith yn syml a'r sylwadau mor naturiol a synwyrol. Y mae profiad gwr fel Santley yn ddigon o brawf o'i gymhwyster i draethu ar y pwnc hwn-un ac y mae cymaint o wahanol farnau ynghylch y modd i'w feistroli. Y pris ydyw tri swllt a chwe cheiniog, a'r cyhoeddwyr ydynt Macmillan.

EISTEDDFOD LLUNDAIN (1909).

CYFANSODDIADAU

[No title]