Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

I, Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. GWAGHAU. Aeth cannoedd lawer o'r Cymry ar eu gwyliau ddechreu yr wythnos- ddiweddaf, ac mae'r cylchoedd Cymreig wedi llwyr dawelu am fis bellach. TRO I GAERDYDD.—Cafodd aelodau cor Merlin Morgan wibdaith hapus i brif ddinas y Deheubarth, ar wahan i'r llwyddiant eisteddfodol. Yr oedd oriau man y boreit wedi hen gilio pan ddaeth y mwyafrif o honynt yn ol foreu dydd Mawrth. LLAWENHAU. — 'Roedd llawenydd mawr ymysg cyfeillion y cor yn Llundain pan ddaeth y newydd nos Lun am y llwyddiant. Oni bae am anwadalwch y trens forew Mawrth buasai llawer yn cyfarfod y cor yn yr orsaf ar ei ddychweliad, ond rhaid gohirio pob dathliad o'r fath hyd nes bo'r gwyliau trosodd. MR. WATCYN J ONEs.-Clywsom fod Mr. Watkin Jones yn dawnsio fel bydd ar un o. fryniau Sir Gaerfyrddin pan gafodd bellebyr nos Lun yn ei hysbysu am yr oruchafiaeth. Cymerai Mr. Jones gryn ddyddordeb yn ymweliad y cor a thref Caerdydd. BATTERsEA.-Er fod yr hin hafaidd ac awelon tyner ac iachus glanau y mor yn denu miloedd o'n eydwladwyr o'r brifddinas- y dyddiau hyn, y mae y cyfeillion gweithgar yn Battersea Rise wrthi yn brysur yn tynnu allan restr testynau yr Eisteddfod Gadeiriol a gynhelir yno ym mis Chwefror nesaf. Bydd y rhaglen allan o'r wasg o hyn i ben pythefnos, a bydd yn dda gan yr ysgrifen- yddion ei hanfon i unrhyw un a ddymuna ei chael, ar dderbyniad stamp ceiniog. MARWOLAETH.—Bydd yn ddrwg gan liaws. o'n darllenwyr ddeall am farwolaeth y ddi- weddar Miss Sarah Catherine Thomas (Sallie), gynt o Kinnerton Street, Belgravia, S.W. Yn enedigol o Gorwen, bu Miss. Thomas am flynyddau lawer yn byw yn ein plith fel housekeeper i'w brawd. Beth amser yn ol, fe aeth y brawd-Gruff Thomas -i California, yn yr Amerig ac wedi cael y cartref yn barod i'w derbyn, ffarweliodd y chwaer a char a chydnabod, gan ddewis sefyll yn ochr y brawd a garai mor angerddol, i wynebu ar frwydr bywyd yn y byd newydd. Ond byr fu ei arhosiad yng Ngwlad y Gor- llewin. Yn fuan wedi glanio, dechreuodd golli ei hiechyd, a chyn terfyn mis Mehefin*

Cleber o'r Clwb.

Advertising

A BYD Y GAN.

Cleber o'r Clwb.