Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909. Rhaglen y…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD 1909. Rhaglen y Testynau. Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd rhestr gyflawn o destynau Eisteddfod fawr Caer- ludd, yr hon a gynhelir yr haf nesaf yn y brif ddinas, gyda'r rhwysg a'r urddas teilwng o Uchel-wyl Cenedl y Cymry. Mae'n rhestr hirfaith, ac yn cynnwys testynau teilwng o'r Eisteddfod ym mhob adran, yr hyn brawf fod Pwyllgor yr Wyl, yn Llun- dain, wedi gwneud eu gwaith yn drylwyr, heb gyfyngu dim ar eu therfynau, na myned i eithafion mewn gwastraff ar faterion difudd i'n pobl, fel ag a welir yn ami. Dyddiad yr Wyl. Yn ol y rhaglen, mae dyddiau'r Wyl wedi eu penderfynnu fel a ganlyn :-Mehefin 15, 16, 17 a 18, ac er yr edrych megis yn gynnar yn y tymor, eto dylid cofio mai dyna'r amser mwyaf prysur i Lundeinwyr yn gyifredinol. Bydd y ddinas yn llawn a phopeth ar ei oreu yng nghanol Mehefin, a rhydd fantais arbennig i bobl o'r wlad i gael cipolwg ar y ddinas yn ei rhwysg, pan fo'r Senedd mewn llawn hwyl, a gwyr blaenaf y Cylandir ar ymweliad a ni. Ymhen wythnos ar ol yr Eisteddfod cynhelir yr Handel Festival, yn y Palas Grisial, fel y bydd yn gyfleus i blant y gan ddod yma i fwynhau yr uchelwyliau enwog hyn. Nawddogaeth Urddasol. Fel yr hysbyswyd eisoes, y mae'r Brenin a'r Frenhines, a Thywysog Cymru a'r Dywysoges, ac ereill, wedi rhoddi eu nawdd- ogaeth i'r Wyl, a disgwylir y cyrcha amryw o honynt i brif gyfarfodydd yr Eisteddfod pan gwblheir y trefniadau. Y Pwyllgor. Gwelir, oddiwrth y person au sydd ar y Pwyllgor, fod Cymry Llundain ar eu goreu yn cael eu cynrychioli yn y rhestr hon. Mae'r uifer yn 90, ac o'r rhai hyn perthynai 21 i'r Pwyllgor Llenyddol, 31 i'r Pwyllgor Cer- ddorol, 16 ar y Celfau, a 29 i'r Adran Arianol. Llywyddir y cyfan gan Arglwydd Aberdar, a gofala Mr. E. Vincent Evans am drefnusrwydd y Pwyllgor Gweithiol. Y Nodweddion Cymreig. Gyda llawenydd y deallwn fod y pwyll- gor wedi amcanu i gadw'r wyl mor Gymreig ei hysbryd ag sydd bosibl, a phan yn cyfyngu testynau i ymgeiswyr Cymreig, golyga hynny bersonau sydd a'u rhieni yn Gymry, neu rai sydd wedi byw yng Nghymru am saith mlynedd. Gwohrau Arbennig. Ym mhen y rhestr gosodir cyfres o wobrau arbennig a roddir gan Gymdeithas yr Eis- teddfod. Rhennir y rhai hyn rhwng y tair adran—Lien, can, a cbelf. Yn adran lien rhoddir IC50 am y Mynegai goreu i Lenydd- iaeth Gylchgronawl Cymru; yn adran can rhoddir £25 am waith cerddorol ar eiriau wedi ei hysgrifennu gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. ac yn adran celf cynygir X30 am y rhestr oreu o Ddarluniau Cymreig, &c., a geir ym mhrif arddangosfeydd Llun- dain. Dyna dri o weithiau teilwng eu cael i gyfoethogi ein cylchoedd llyfryddol. Byd y Beirdd. Amod gyntaf yr adran hon yw fod y cyfan i fod yn Gymraeg, ac mae rhyw ddeu- ddeg o destynau campus wedi eu dewis i'r beirdd a'r dramadyddion i ddangos eu gallu arnynt. Testyn awdl y gadair yw Gwlad y Brynian;" pryddest y goron, Yr Arglwydd Rhys;" yna daw cywydd ar "Fynachlog Ystrad Fflur," bugeilgerdd ar destyn yng nghyfuod Dafydd ap Gwilym; myfrdraeth aryrhen Oronwy telynegion ar Tymhorau bywyd," baled ar "Owen Lawgoch," ac englyn ar Cenin Pedr," y wir geninen Gymreig, yn ol rhai o'r haneswyr diwedd- araf. Y Traethodwyr. Hanesyddol yw prif nodwedd y pynciau traethodol, a golyga hyn gyfle arbennig i efrydwyr ieuainc ein prifysgolion i ddangos eu dawn a'u gallu. Rhaid i ddau fod yn Gymraeg—(1) Hanes y Myddeltoniaid (2) Hanes carolwyr a charolau Cymru. Yna daw saith ereill ar y rhai gall yr ysgrifen- wyr ddefnyddio y Gymraeg neu'r Saesneg atynt-(I) Cymry yn Rhyfel y Rhosynau"; (2) Adolygiad ar Fywyd Cymdeithasol y Mabinogion (3) Lien gwerin Sir Faesyfed (4) Llawlyfr i addysgu Cymraeg (5) Hanes y Jacobeaid Cymreig; (6) Hanes yr ym- drechion i sefydlu trefedigaethau Cymreig mewn gwledydd tramor a (7) chasgliad o enwau lleoedd yn Sir Fflint. At y rhai hyn ychwanegir nofel fer, a nifer o gyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac o'r Saesneg a'r Ffrancaeg i'r Gymraeg. I, Adran y Gan. Hon yn ddiau yw'r adran bwysicaf yn yr holl restr, neu o leiaf dyma'r helaethaf. Gwyl y canu yw'r Eisteddfod heddyw, ac er yr hoffem weled llenyddiaeth a chelf yn cael lie mwy amlwg, rhaid cydnabod mai gwyr y gan sy'n creu dyddordeb ar ddiwrnod yr wyl. A rhaid wrth y dyddordeb a'r pob- logrwydd hwnnw cyn cael y torfeydd, a'r cyllid arferol sydd yn eu dilyn. Amcan neillduol y pwyllgor yw gosod safon uchel o flaen y cystadleuwyr heb anwybyddu y nodwedd Gymreig ym mhob cystadJeuaeth. Rhagor, dylid crybwyll ni chaniateir i'r elfen broffesyddol osod ei phig o gwbl yn y cystadleuon hyn. Cyfyngir hwy i amateurs, ac ni chaiff neb sydd wedi ennill ddwywaith yn flaenorol yn yr wyl genedlaethol gystadlu yn hon. Dyna reol yn ei lie, ac yn wir byddai rhai o honom yn barod i dorri allan bawb sydd wedi digwydd ennill unwaith. Y prif gystadleuon ydynt a ganlyn- Prif Gorawl. Gwobr, 1, £ 150 2, Jb50 Come, ye daughters (Bach) Cwsg, Filwr cwsg (J. H. Roberts) The Tempest (Cornelius). Ail Gorawl. Gwobr, 1, £ 50 2, 110 0 snatch me swift" (Dr. Calcott); Yr Arglwydd yw fy mugail" (If. Evans). Corau Meibion. Gwobr 1, 175; 2, £ 25—" Fair Semele's high-born Son (Mendelssohn); The Reveille (Elgar); 0, peaceful night (German). Yna ceir darnau priodol i gorau merched, pedwarawdau, deuawdau, ac unawdau canu penillion a chanu caneuon gwerin. Yn yr adran offerynol rboddir 160 i'r brif gerddorfa, ac mae dwsin o gystadleuon ereill cydrwng gwahanol offerynwyr, a cheir rhyw hanner dwsin o destynau i gyfansoddwyr ieuainc i ymgeisio arnynt. Un o'r rhai hyn yw cyfansoddi can i soprano ar eiriau newydd, o waith y prif-fardd Elfed. Cyhoeddir y penillion yn y rhaglen, ac y maent mor swynol nes dod yn brofedigaeth i ni ddifynu y cyntaf:— YNYS Y PLANT. 'Rwyf weithiau'n gweld ar hafaidd hwyr Ryw ynys dawel dros y Hi; Ei heuraidd fryniau, Duw a wyr, Aeth a fy nghalon i yn llwyr; Dim haint na siomiant iddi ddaw, Mellt na tharanau, gwynt na gwlaw: Yr ynys ddedwydd dros y lli, Yng ngoleu'r hwyr y gwelir hi Adran Celf. 0 dan lywyddiaeth gwr mor fedrus a Mr. Goscombe John, nid oeddem yn disgwyl dim ond pethau da, ac mae'r rhestr yn brawf o ddoethineb y Pwyllgor yn ei osod ef yn ben. Rhoddir cyfle i bob gradd ddangos eu hunain yma, a diau y ceir cynulliad rhagorol o weithiau Cymreig am unwaith yn hanes yr hen Wyl. 9-1,238 mewn Gwobrau. Mae'r Pwyllgor wedi dangos ei hun yn ddigon hael i gynnyg gwobrau rhagorol ym mhob adran. Wrth gymharu y rhestr hon a'r un a gaed yn 1887, gwelwn fod rhai o'r gwobrau yn llai, ond y maent oil y tro hwn yn addas i'r testynau y disgwylir eystadlu arnynt. Rhydd Cymdeithas yr Eisteddfod P,105 mewn gwobrau. Yna daw'r adran lenyddol, lie rhoddir 9116; y traethodau, £ 179 adran y gan, C489 offerynol, £ 100 celf, £ 239. Gellir cael y rhestr, gyda'r holl fanylion, ond anfon 8 ceiniog i Swyddfa'r CELT, neu i'r Ysgrifenyddion Cyffredinol- Mr. W. E. DAVIES, Mr. D. R. HUGHES, 63, Chancery Lane, London.

COFFA HEN FEIRDD.

Advertising